Dwi newydd ddychwelyd o Aberteifi lle bues i mewn noson berffaith o ddiddanwch pur. Roedd y gymuned yn Aberteifi yn talu teyrnged i’r prifardd Ceri Wyn Jones am iddo ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn yr haf. Roedd yr ystafell fawr yng nghlwb rygbi Aberteifi yn llawn o feirdd a cherddorion a [...]
Mae’r eisteddfod yn edrych fel oes yn ôl bellach ond mae’r atgofion yn rhai melys. Fe wnes i aros eleni mewn ‘bwthyn’ ar lan afon Lliw ger Llanuwchllyn. Fel cwmni cefais y cyfeillion arferol – DML, DJP ac RO. Roedd eleni ychydig yn fwy arbennig na’r arfer gan fod DJP yn un o feirniaid cystadleuaeth [...]
Daeth yr amser unwaith eto i ddechrau meddwl am wythnos gyntaf mis Awst, wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Os byw ac iach bydd hon yn wythnos debyg iawn i’r deg sydd wedi mynd heibio, sef rhannu llety gyda chyfeillion a choginio.
Eleni rydyn ni’n aros mewn bwthyn (a oedd yn arfer bod yn lowty (beudy)) yn Llanuwchllyn. [...]
Yn wahanol i’r arfer daeth fy eisteddfod i ben ddydd Sadwrn. Fel arfer bydda i’n aros tan fore Sul, ond eleni roedd pethau’n wahanol. Felly roedd hi’n dipyn o sioc i weld DML a DJP yn ymadael am yr eisteddfod fel arfer a finnau ac RO yn pacio yn barod i fynd am adref. Roedd [...]
Dwi’n ofni na ddigwyddodd rhyw lawer heddiw. Aeth DML a DJP i’r eisteddfod fel arfer ac fe es i ac RO i mewn i’r ddinas ar y bws. Mae’r tocyn diwrnod yn fargen ac yn galluogi dyn i deithio fel y mynno. Wedi cinio aeth RO i’r eisteddfod ac es i lawr i Fae Caerdydd [...]
Yn y prynhawn fe es i lansiad gwefan newydd Casglu’r Tlysau ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd yn gyfle i weld ac i glywed y gweinidog treftadaeth newydd, sef Alun Ffred Jones AC. Fe wnaeth argraff dda. Fe wnaeth gadw ei araith yn fyr ac ni wnaeth ddweud dim byd ffuantus na diangen. Patrwm ar [...]
Dechreuais i fynd i’r eisteddfod o ddifri yn 1975. Dros y blynyddoedd dwi wedi gweld llawer o bethau gwych a gwachul. Ar y dechrau roeddwn i’n cadw’n ffyddlon i’r hen babell lên. Wedyn dechreuais i fynd i theatr fach y maes. Dwi wedi gweld llawer o newid hefyd; efallai taw’r newid mwyaf yw’r corfforaethu sydd [...]
Bydda i’n well imi orffen adrodd yr hanes am yr eisteddfod cyn imi droi at y gwyliau yn Norwich a Norfolk.
Dydd Iau oedd fy niwrnod mawr i yn y yr eisteddfod. Mewn geiriau eraill dyna ‘r unig ddiwrnod yr oeddwn i’n teimlo ei bod hi’n rhaid imi fynd i’r maes. Roedd rhagolygon y tywydd trwy’r [...]
Dwi’n ofni i ddweud fod dydd Mawrth wedi hala cymaint o ofn arna i fel fy mod wedi credu’r BBC pan ddywedon nhw fod mwy o law i ddod dydd Mercher ac heb fynd i faes yr eisteddfod. Nawr mae’r bobol sy’n fy adnabod i yn gwybod nad oes angen rhyw lawer i wneud imi [...]
Beth ydych chi’n ei wneud pan ei bod yn bwrw glaw yng Nghaerdydd? Mynd i Gaerffili i weld a yw hi’n bwrw yno. Wel o leia dyna beth benderfynon ni ei wneud. Roeddwn i am weld Capel a Phlas Watfford ar gyrion Caerffili oherwydd ei gysylltiad gyda’r Methodistiaid cynnar. Ond doedd dim pall ar y [...]
Un o’r pethau oedd yn dal i fod yn y Senedd oedd y gwaith celf dadleuol yn portreadu Aneurin Bevan a Margaret Thatcher mewn tunplat. Pan glywais i’n wreiddiol am y ddadl ynglŷn â’r gwaith fy mod wedi teimlo fod y cwynwyr yn gwneud lot o stŵr am ddim byd. Ond rhaid i mi ddweud [...]
Rhyw ddwy flynedd yn ôl bues i yng Nghaeredin a’r pryd hynny cefais gyfle i ymweld â Senedd yr Alban yn Holyrood. Roedd hwnnw’n brofiad gwych, ond er nad oedd cymaint o ffws yn cael ei wneud yn y Senedd yng Nghaerdydd, rhaid dweud fod y pleser o weld y siambr a’r ystafelloedd pwyllgora a [...]
Does yr un eisteddfod yn haeddu glaw. Dwi’n dweud hynny o brofiad fel un oedd ar rai o bwyllgorau Eisteddfod Abergwaun yn 1986. Fe weithiodd trigolion yr ardal yn galed iawn er mwyn cael rhywun fel Gwilym Owen i gerdded rownd y maes yn datgan yr amlwg: sef bod pridd a dŵr yn creu mẁd. [...]
Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen [...]
Wedi cinio dydd Sul fydda i ceisio coginio rhywbeth ysgafn gyda’r nos ac felly dau gwrs cymharol ysgafn a hawdd i’w coginio oedd i fod i swper. Yn gyntaf iogwrt a chaws feta ac yna cawl reis a thomatos. Roedd y ddau gwrs yn llwyddiannus, er efallai bod y cyntaf ychydig yn rhy drwm.
Rhagor o [...]
Roeddem ni wedi bwriadu galw heibio i Bethesda’r Fro a’r Bont-faen wedi cinio, ond roedd hi’n edrych fel petai’n mynd i fwrw glaw. Ond cyn gwneud dim o hynny roeddwn wedi addo mynd i lan y môr i ddangos pa mor agos oeddem ni i’r arfordir. Un o’m hoff lefydd i yw Aberddawan a’r ffordd [...]
Wrth inni ddod mas o’r Old Swan Inn fe welson ni fod torf fechan wedi ymgasglu’r tu fas i Neuadd y Dref. Roedden nhw i gyd wedi’u gwisgo yn barchus ac yn eu plith rai yn cario baneri. Fel mae’n digwydd roeddem ni wedi dod i Lanilltud Fawr ar y dydd Sul pan roedd gwasanaeth [...]
Roedd tafarn The Old Swan Inn yn ddigon cyfeillgar a chartrefol. Roedd y byrddau a’r cadeiriau wedi’u gwasgu’n weddol agos at ei gilydd yn y bar, ond roedd y staff yn ddigon serchog a’r bwyd yn flasus dros ben. Dwi ddim yn un am y cinio dydd Sul traddodiadol – cafodd fy nghyfeillion un yr [...]
Dywedodd DJP ei fod wedi cyfarfod â rhywun ar faes yr eisteddfod ddydd Sadwrn oedd yn darllen Blog Dogfael ac yn siomedig nad oedd lluniau o siopau Spar yn ymddangos yn gyson ar y blog bellach. Diolch byth fod Spar lleol Illtud Sant yn dal i sefyll yn Llanilltud a bod gyrrwr y car yn [...]
Fe aethon ni i Lanilltud Fawr ar gyfer ein cinio, gan fwyta mewn hen dafarn, The Old Swan Inn, gyferbyn â Neuadd y Dref. Yn ôl y plac ar y wal roedd y lle’n dafarn cyn i’r Esgob William Morgan ddechrau meddwl am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o brif nodweddion Llanilltud Fawr [...]
Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael