Blog Dogfael» Eglwysi

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (3) 2009-08-18
EGLWYS ESCOMB

Dim ond gwneud dau beth yr oeddwn i wedi gosod fel nod i fi fy hun yn ystod y gwyliau yn Durham ac roeddwn yn bwriadu cyflawni un ohonynt fore Llun cynta’r gwyliau. Doeddwn i ddim wedi gosod nod dim uwch na hynny oherwydd yr hyn yr oeddwn am ei wneud oedd gorffwys a mwynhau ac yn aml iawn gall gwyliau lle mae bwriad i wneud gormod droi i fod yn farathon i’r gwrthwyneb.

Yr un peth oedd Eglwys Escomb, ger Bishops Auckland yn swydd Durham. Mae adeilad Eglwys Escomb gyda’r hynaf yn Lloegr. Fe’i codwyd tua’r flwyddyn 670. Golyga hyn ei bod yn dyddio yn ôl i Oes y Saint, ac er iddi gael ei thwtio yn oes Victoria, mae hi’n cadw’r rhan fwyaf o’i nodweddion gwreiddiol. Adeiladwyd yr adeilad o garreg, a’r garreg honno yn dod o adeiladau a godwyd gan y Rhufeiniaid yn yr ardal, yn wahanol i Gymru lle’r oedd y rhan fwyaf o adeiladau Cristnogol cynnar wedi’u codi o bren.

Dwi’n gorfod cyfaddef i mi dreulio’r rhan fwyaf o’r ymweld mewn rhyfeddod at adeilad o’r fath yn goroesi bron i 1400 o flynyddoedd.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yng ngogledd ddwyrain Lloegr (2) 2009-08-17
Wedi taith gymharol hir doedden ni ddim am fynd yn bell drannoeth. Penderfynodd y tri ohonom i aros yn Durham a chrwydro o gwmpas y ddinas. Ar gyfer bwyta ein brecwast yng ngholeg S. Hild a S. Beda roedd yn rhaid inni gerdded am ryw bum munud i adeilad arall. Enwyd yr adeilad hwnnw ar ôl bardd cynharaf yr iaith Saesneg, sef Caedmon, ond doedd dim yn hardd am yr adeilad ei hun. Roedd y croeso fodd bynnag yn gynnes a’r acenion Saesneg yn rhyfeddol.

Doedd dim llawer o ddewis o ran lle i fynd gyntaf. Roedd yn rhaid mynd i’r eglwys gadeiriol. O aeilad Caedmon roedd hi’n bosib gweld honno yn glir iawn. Ac roedd hi fel yn tynnu dyn tuag ati. Roedd yr adeilad yn enfawr ac yn gwneud i bob dim o’i gwmpas ymddangos yn bitw iawn. Yr oedd hi’n anhygoel meddwl fod y rhan helaethaf o’r adeilad wedi’i godi mewn cyfnod byr o ryw ddeugain mlynedd ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg a dechrau’r ddeuddegfed, sef 1093-1133. Fe’i codwyd ar safle eglwys gadeiriol Sacsonaidd a fu’n gartref i weddillion S. Cuthbert a ddaeth yno yn 995. Roedd Cuthbert ei hun wedi marw yn 687. (Bydd cyfle i drafod mwy ar waith Cuthbert wrth adrodd hanes ein hymweliad i Holy Island neu Lindisfarne).

Un siom oedd i’r eglwys gadeiriol a hynny fod tynnu lluniau wedi’i wahardd yn llwyr o fewn i’r adeilad. Roedd ‘na swyddogion ym mhobman yn eich atal rhag tynnu lluniau, yn atgoffa dynion i dynnu eu capiau a’u hetiau, a menywod i fod yn weddus. Rhaid imi gyfaddef fy mod wedi tynnu un llun heb yn wybod i’r awdurdodau, sef bedd Beda. Wnes i ddim mentro tynnu rhagor o luniau na hynny o fewn i’r eglwys ei hun.

Wedi bore yn yr eglwys gadeiriol a chinio blasus a rhesymol yn y ffreutur yno fe es i lawr am ganol y ddinas. Mae’r eglwys gadeiriol, y castell, a’r hen dref wedi’u hadeiladu ar ddarn o dir sydd yng nghanol ystum yn afon Wear. Amddiffynfa naturiol yn erbyn y Llychlynwyr ac yna yn erbyn yr Albanwyr a thallu. Roedd y Market Square yn llawn bywyd gyda phobol yn bwyta hufen ia a phasteiod cig yn hamddenol yn yr haul. Ar y sgwar yr oedd Market Tavern i’n hatgoffa am hanes y dref fel prif ddinas maes glo. Yno y ffurfiwyd Cymdeithas Glowyr Durham, Durham Miners Association, undeb y gweithwyr diwydiant glo. Am dros gan mlynedd, tan i Margaret Thatcher gau’r pyllau yn y 1980au, y diwydiant glo oedd bywyd y ddinas a’r ardal yn gyffredinol. Nodir hynny gan gofeb yn yr eglwys gadeiriol i’r holl lowyr a gollodd eu bywydau wrth weithio yn y diwydiant.

Rhagor o luniau o ail ddiwrnod ein gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Birmingham 2009-04-15 (2)
Mae’n ddydd Mercher ac mae’n rhaid ei bod hi’n amser am eglwys gadeiriol arall. Fel mae’n digwydd mae gan Birmingham dair o leiaf: Eglwys Gadeiriol S. Philip (Eglwys Loegr), Eglwys Gadeiriol Cwsg y Theotokos a S. Andreas (Archesgobaeth Uniongred Thyateira a Phrydain Fawr), ac Eglwys Gadeiriol S. Siad (Eglwys Babyddol). Fe aethon ni i’r olaf o’r rhai hyn, sef Eglwys Gadeiriol S. Siad, neu’r Metropolitan Cathedral and Basilica of S. Chad.

Wrth gerdded at yr eglwys gadeiriol yr oedd yn rhaid mynd heibio i un adeilad arall ag iddo enw o ryw fath, sef Pencadlys Heddlu West Midlands! Brysio heibio oedd orau, rhag ofn i’n whilibowan gael ei weld fel bygythiad i’r drefn!

Eglwys Gadeiriol S. Siad oedd yr eglwys gadeiriol Babyddol gyntaf i’w chodi yn Lloegr oddi ar diwygiad yr unfed ganrif ar bymtheg. Fe’i codwyd ar gynllun o eiddo Pugin (1812-1852) a’i chysegru yn 1841. Nid oes dim ar y tu allan i’r adeilad i roi awgrym o ysblander y tu fewn. Dwi’n siŵr nad wrth ddant pawb, ond mae’n rhaid rhyfeddu at gamp pensaernïol yr adeilad. Nid yw’n eglwys hir iawn, ond mae’r colofnau meinion fel petaent yn ymestyn i’r goruchafion, gan dynnu llygaid yr ymwelydd i fyny at y nenfwd addurnedig. Er bod yr adeilad wedi’i godi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae edrych fel rhywbeth o’r canol oesoedd.

Roedd gen i un cwestiwn am yr eglwys gadeiriol, sef beth oedd ystyr ei bod hefyd yn fasilica. Darparwyd yr ateb gan y wefan, ac ae e siŵr o fod yn gwneud synnwyr iawn os yw dyn yn deall yn y lle cyntaf.

In 1941 St Chad’s was made a minor basilica by Pope Pius XII on the occasion of its centenary. A minor basilica is a church which enjoys a special association with the Pope and is entitled to have the papal coat-of-arms above the front door. The privileges of a basilica include the use of the symbols that are placed in the Cathedral on great occasions. The ‘conopoeum’, a small umbrella of red and gold silk, was formerly carried over the Pope when he travelled on horseback on official visits. The ‘conopoeum’ also surmounts the Cathedral coat-of-arms. The ‘tintinnabulum’ is a lattice-work tower containing a bell, which was used to warn people of the Pope’s approach. The Canons of the Chapter wear the scarlet and purple ‘cappa parva’ for choir dress.

Mae’n swnio’n fwy rhyfedd na rhai o arferion yr Eglwys yng Nghymru!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Birmingham 2009-04-15 (1)
Roedd dydd Mercher yn Birmingham yn ddiwrnod i eglwysi. Nid fy mod i’n obsesd gydag eglwysi, ond maen nhw’n medru bod yn ddiddorol ynddynt eu hunain fel adeiladau, ac maen nhw hefyd yn adlewyrchu bywyd y cymunedau o’u cwmpas. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos eglwysi gwladol neu rai oedd wedi cael cydnabyddiaeth swyddogol o ryw fath.

Mae’n arwydd o ieuenctid Birmingham nad oedd eglwys gadeiriol Eglwys Loegr yn yn y ddinas tan 1905 pan neilltuwyd Eglwys S Philip, a adeiladwyd ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif, ar gyfer y gwaith yn dilyn sefydlu esgobaeth Birmingham yn yr un flwyddyn. Mae’r adeilad ei hun yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif ac yn hynod o ddirodres a syml ar gyfer eglwys gadeiriol. Fe’i bomiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond fe’i hadferwyd yn fuan. Efallai y nodwedd fwyaf trawiadol yw’r ffenestri lliw, yn arbennig felly mewn adeilad sy’n gymharol dywyll a diaddurn. Fe’i cynlluniwyd gan yr arlunydd Edward Burne-Jones (1833-1898). Roedd yn perthyn i’r mudiad Pre-Raphelite ac yn enedigol o Birmingham, er taw Cymru oedd ei dad. Ei fwriad gwreiddiol oedd gwasanaethu fel gweinidog yr efengyl, ond yn y pendraw fe ymroes i arlunio.

Mae ffenestri dwyreiniol Eglwys Gadeiriol S. Philip yn darlunio yn darlunio golygfeydd allan o fywyd ein Harglwydd: y Geni ar y chwith, y Croeshoeliad ar y dde, a’r Dyrchafael yn y canol. Mae’r ffenest orllewinol yn darlunio’r Farn Fawr.

Er imi grwydro tipyn o gwmpas yr adeilad, ni welais y gofeb i ddioddefwyr Bomio Birmingham 1974. Y rheswm dros hynny yw fod gofeb honno y tu fas yn y fynwent ar yr ochr ddeheuol i’r adeilad; fe aethom ni o gwmpas yr ochr ogleddol. Pan fydda i’n dychwelyd i Birmingham fe fyddaf yn gwneud pwynt o fynd i’w gweld. Roedd bomio Birmingham yn un o’r digwyddiadau cwbl ffurfiannol hynny yn fe nealltwriaeth i o’r byd. Doeddwn i ddim yn deall beth oedd yn digwydd o gwbl; ond fe geisiodd fy athro hanes esbonio, ac roedd ei esboniad ef yn wahanol iawn i’r hyn yr oedd y cyfryngau Prydeinig yn ei ddweud. Bues i’n ceisio deall am sawl blwyddyn wedyn, ond mae’n debyg nad ydw wedi deall yn iawn o hyd. Wedyn fe wnes i ddeall fod y gwesty lle’r oeddem ni’n aros gyferbyn â safle’r Tavern in the Town, lle cafodd 11 o’r 21 a laddwyd eu lladd 21 Tachwedd 1974.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Eglwys Gadeiriol S. Paul, Llundain
Wedi cinio fe wnaethom rannu ac fe es i a DJP draw i gyfeiriad Eglwys Gadeiriol S Paul. Doeddwn i ddim wedi bod yn yr adeilad am ddeng mlynedd ar hugain a mwy. Felly dyma benderfynu ein bod yn mynd i fynd i mewn. Roedd yn rhaid talu. Pwysleisiwyd ei bod hi’n bosib mynd i mewn i wasanaethau am ddim, ond ar brydiau eraill roedd tâl o £11 yn cael ei godi am ymweld â’r eglwys gadeiriol. Mae hynny’n swnio’n dipyn, ond doedd hynny ddim yn cadw’r ymwelwyr draw. Wrth inni geisio mynd i mewn drwy un o’r drysau ffrynt ffe wnaeth aelod o staff ein cyfeirio at fynedfa arall gan fod yr fynedfa honno mor brysur.

O’r diwedd fe gawsom ni ein hunain yng nghorff yr eglwys. Roeddwn i’n ifanc iawn y tro diwethaf imi weld y tu mewn iddi, ac yn rhy ifanc i werthfawrogi’n iawn ysblander yr adeilad na’i addurn. Rhaid dweud fy mod wedi rhyfeddu at yr hyn a welais. Yn wahanol i eglwysi cadeiriol eraill sydd wedi tyfu dros lawer o ganrifoedd neu o leiaf wedi cael ychwanegiadau, roedd hi’n ymddangos fod Eglwys Gadeiriol S. Paul yn undod pensaernïol ac yn adlewyrchu gweledigaeth Christopher Wren.

Dwi’n ofni nad oes modd imi rannu llawer o’r weledigaeth honno gyda darllenwyr Blog Dogfael gan fod awdrudodau’r eglwys gadeiriol yn gwahardd tynnu ffotograffau yn yr adeilad yn llwyr. Roedd byddin ohonynt yn crwydro o gwmpas er mwyn sicrhau fod y rheol honno yn cael ei chadw’n gaeth. Fe lwyddais i i dynnu un llun yn llechwraidd.

Fe wnes i gerdded o gwmpas yr eglwys gadeiriol, ond rhai imi gyfaddef fy mod wedi treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn eistedd o dan y gromen enfawr yn rhyfeddu at dawelwch y lle. Oedd, roedd yn lle yn llawn ymwelwyr o bob cwr o’r byd, ond eto i gyd roedd ‘na dangnefedd yno. Un peth arall oedd o ddiddordeb oedd fod y swyddogion, pan nad oedden nhw’n gwahardd tynnu lluniau, yn sicrhau fod ymwelwyr gwrywaidd yn tynnu eu capiau. Felly mae’n rhaid bod y lle yn eglwys wedi’r cyfan, er gwaetha’r ffaith ein bod wedi gorfod talu i fynd mewn!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gofwy archddiacon Ceredigion, 2008
Nos Lun diwethaf fe ddaeth eglwyswyr Ceredigion at ei gilydd yn Eglwys S Mihangel ym mhlwyf Aberystwyth ar gyfer y gofwy’r archddiacon. Mae archddiaconiaeth Ceredigion yn ymestyn o Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro hyd at ogledd Ceredigion. Mae’r gofwy yn adeg pan fydd wardeniaid newydd yn gwneud y datganiadau angenrheidiol ar gyfer cymryd eu swyddi ac mae clerigwyr a darllenwyr lleyg yn gorfod ateb y gofrestr. Felly roeddwn i yno ar ddau gyfrif – fel darllenydd lleyg a warden. Roedd y noson yn un arbennig hefyd am fod Archddiacon Ceredigion, yr Hybarch Andy John, wedi’i ethol yn esgob Bangor ac felly fe fydd yn gadael ei swydd bresennol ar ddiwedd y flwyddyn i wneud ei waith newydd. Wrth fynd fe draddododd siars llawn her inni lynu wrth yr efengyl a’n gobaith fel Cristnogion yn wyneb yr holl anobaith o’n cwmpas. Dr WD, fy nghyd-warden, a ddarllenodd y llith Gymraeg yn y gwasanaeth.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (5)
Ffenest liw o Eglwys S. Andrews, Sempringham yn dangos dyrchafael gogoneddus ein Harglwydd.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (4)
Diolch i lyfr Peter Trudgill roeddwn i’n gwybod fod yr eglwys Iseldireg yn cyfarfod yn Blackfriars Hall, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble’r oedd y neuadd. Wedi ychydig o holi a chwilio fe ddeallais fod Blackfriars Hall yn rhan o’r hyn a elwir bellach yn The Halls. Mae’r adeiladau hyn yn agos i’r afon i’r gogledd o’r canol ac yn rhan bwysig o etifeddiaeth hanesyddol a phensaernïol y ddinas.

Adeiladwyd y neuaddau hyn yn 1440-70 fel eglwys y Dominicaniaid, Urdd y Pregethwyr. Ond wrth i’r mynachlogydd gael du diddymu ganrif yn ddiweddarach fe ddaeth corff yr eglwys, a elwir bellach yn St Andrews Hall yn fan cyfarfod i’r ddinas ar gyfer digwyddiadau dinesig. Trowyd y côr yn neuadd arall, Blackfriars Hall ac yno y cyfarfu’r eglwys Iseldireg o’r unfed ganrif ar bymtheg tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Erbyn heddiw mae’n bosib hurio’r neuaddau ar gyfer digwyddiadau a dyna’r rheswm na chefais gyfle i fynd i mewn i weld Blackfriars Hall yn iawn. Fel mae’n digwydd roedd ‘na ffair tedi bêrs yn cael ei chynnal yno. Ond fe lwyddais i fynd o gwmpas yr adeilad a gweld gweddill olion yr adeiladau canoloesol.

Yn ddiddorol iawn roedd ‘na gofeb i un o weinidogion yr eglwys Iseldireg wrth yr adeilad, sef Johannes Elison. Yntau a’i wraig Mary oedd unig drigolion yn Lloegr y paentiodd Rembrandt eu portreadau. Erbyn heddiw mae’r darluniau hynny yn Amgueddfa Gelf Gain Boston.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-21 (6)
Yn 1061 cafodd Richeldis de Faverches o bentref Walsingham yn Norfolk cyfres o weledigaethau pan ymddangosodd Mair, Mam ein Harglwydd iddi. Yn y gweledigaethau hyn fe gafodd wybod beth oedd hyd a lled a mesur y tŷ lle’r oedd Mair wedi byw yn Nasareth a cafodd orchymyn i godi tŷ cyffelyb ym mhentref Walsingham. Yn raddol fe ddaeth y Tŷ Sanctaidd yn Walsingham yn ganolfan i bererinion, yn arbennig felly i’r rhai nad oedden nhw’n medru fforddio y daith ddrud i’r Nasareth go iawn neu nad oedden nhw am fentro eu bywydau ar adeg y brwydro dros reolaeth ar Balesteina. Cymaint oedd poblogrwydd y ganolfan gan bererinion fel y daethpwyd i alw Walsingham yn Nasareth Fechan. Denodd y Tŷ Sanctaidd filoedd o bererinion ar hyd y canrifoedd, gan gynnwys Harri VIII, ond yn y diwedd ei weithredoedd ef fu’n gyfrifol am ddiflaniad y gysegrfa pan ddymchwelwyd y Tŷ Sanctaidd, llosgwyd y ddelw o Fair ac fe ysbeiliwyd yr holl wrthrychau gwerthfawr ddiwedd y 1530au.

Ymatebodd un o bleidwyr yr hen ffydd i’r digwyddiadau hyn yng ngeiriau’r faled The wrecks of Walsingham:

Bitter, bitter, O to behold

The grass to grow

Where the walls of Walsingham

So stately did show.

Level, level, with the ground

The towers do lie,

Which, with their golden glittering tops,

Pierced out to the sky.

Owls do screech where the sweetest hymns

Lately were sung,

Toads and serpents hold their dens Where the

palmers did throng.

Weep, weep O Walsingham,

Whose days are nights,

Blessings turned to blasphemies,

Holy deeds to despites.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed gwelwyd adfer y gysegrfa i Fair o Walsingham. I ddweud y gwir gwnaed mwy na hynny, gan fod heddiw ddwy gysegrfa yn y cyffiniau. Saif yr un babyddol rhyw filltir i’r de o bentref Little Walsingham ei hun, ond mae’r gysegrfa Anglicanaidd reit yng nghanol y pentref ac yn cynnwys nifer o adeiladau gan gynnwys eglwys fawr sy’n cynnwys y Tŷ Sanctaidd, ac o fewn i’r Tŷ Sanctaidd ceir delw Mai’r a’r baban Iesu. Mae’r lle yn agoriad llygaid a’r adeiladau a’r gerddi yn ddeniadol iawn, ond mae’r defosiwn braidd yn ddieithr i rywrai sydd wedi’u magu ar fron anghydffurfiaeth Gymreig.

Fel rhan o’r ganolfan mae ‘na dai sy’n cynnig llety i bererinion sy’n dod i aros am hyd at bum diwrnod ac yn dilyn trefn o wasanaethau ac astudiaethau er mwyn dyfnhau eu bywydau ysbrydol. Pan roeddwn i yno fe wnes i sgwrsio gydag un neu ddau oedd ar bererindod pum diwrnod ac yn aros yn y ganolfan. Roedden nhw’n dod o Fanceinion ac yn llawn o obaith y Cristion. Roedden nhw am wybod ble’r oedd y lle agosaf i Aberystwyth ar gyfer defosiwn i Fair, Mam ein Harglwydd.

Roedd y cyfan wedi bod yn ormod i DML ac RO ac fe aethon nhw i chwilio am baned, ond bues i’n myfyrio am dipyn yn yr eglwys, ac fe es i mewn i’r Tŷ Sanctaidd, cyn mynd o gwmpas y gerddi.

<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/KNQiYLT6q0w&hl=en&fs=1&rel=0"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/KNQiYLT6q0w&hl=en&fs=1&rel=0" type="application/x-shockwave-flash" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-21 (2)
Fel y dywedais mae llawer am King’s Lynn sy’n atgoffa rhywun o’r Iseldiroedd. Un o’r pethau hynny yw Sgwâr Marchnad Dydd Sadwrn lle mae dyn yn teimlo ei fod wedi cerdded yn ôl i ddiwedd yr oesoedd canol a dechrau’r oes fodern. O gwmpas y sgwâr mae ‘na nifer o adeiladau trawiadol yn bensaernïol ond hefyd yn hanesyddol.

Yr adeilad mwyaf yw Eglwys S Margaret a sefydlwyd yn 1100 ac ail-godwyd yn y 13g, ac o hynny ymlaen ceisiodd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wella ac ychwanegu at fawredd y lle. Mae pob rhan o’r adeilad â rhywbeth i’w ddatgelu i’r ymwelydd. Fe wna i ganolbwyntio ar dri pheth.

Yn gyntaf, yr organ. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol yn 1754 ar gost y gorfforaeth gan adeiladwr organau o’r Swistir, Johannes Snetzler (1710-1785). Cyfarwyddwyd y gwaith gan organydd yr eglwys, yr enwog Charles Burney (tad y nofelydd, Fanny Burney). Yn ôl yr hanes fe wnaeth Snetzler cymaint o enw iddo’i hun gyda’r organ fel bod galw am ei waith ym mhob rhan o’r wlad. Wrth i ni ymweld â’r eglwys fe ddechreuodd rhywun ganu’r offeryn.

<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/nQK01sJh3ug&hl=en&fs=1&rel=0"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/nQK01sJh3ug&hl=en&fs=1&rel=0" type="application/x-shockwave-flash" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

Yn ail, mae’r eglwys â chysylltiad ag un o fenywod rhyfeddaf y canol oesoedd yn Lloegr, sef Margery Kempe. Fe’i ganwyd yn y dref tua 1373, priododd gan ddod yn fam i bedwar ar ddeg o blant. Wedi iddi dderbyn nifer o weledigaeth fe aeth hi a’i gŵr ar bererindod i Gaergaint. Pregethai yn erbyn pleser o bob math ac fe godai hyn wrychyn pobl yn lleol gyda rhai yn ei chyhuddo o fod yn perthyn i grŵp tanddaearol (a hereticaidd) y Lollardiaid. Yn 1413 fe wnaeth hi a’i gŵr addunedu i fyw bywydau diwair gerbron Esgob Lincoln. Aeth ar bererindod i’r Wlad Sanctaidd. Yn The book of Margarey Kempe, yr unig ffynhonnell o wybodaeth amdani, mae’n disgrifio ei theithiau a’i phrofiadau cyfriniol. Doedd hi ddim yn medru ysgirfennu na darllen ac fe wnaeth arddweud ei hatgofion i un o aelodau Urdd y Drindod. Dyma hunangofiant cynharaf gan Saesnes. Mae’r sôn olaf amdani yn mynd ar bererindod i Gdansk yn 1433.

Yn drydydd, mae’r arwyddion wrth y drws gorllewinol yn nodi uchder llifogydd ar hyd y blynyddoedd.

Mae ‘na lawer mwy o resymau dros ymweld ag Eglwys S Margaret.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.