EGLWYS ESCOMB
Dim ond gwneud dau beth yr oeddwn i wedi gosod fel nod i fi fy hun yn ystod y gwyliau yn Durham ac roeddwn yn bwriadu cyflawni un ohonynt fore Llun cynta’r gwyliau. Doeddwn i ddim wedi gosod nod dim uwch na hynny oherwydd yr hyn yr oeddwn am ei wneud oedd gorffwys a [...]
Wedi taith gymharol hir doedden ni ddim am fynd yn bell drannoeth. Penderfynodd y tri ohonom i aros yn Durham a chrwydro o gwmpas y ddinas. Ar gyfer bwyta ein brecwast yng ngholeg S. Hild a S. Beda roedd yn rhaid inni gerdded am ryw bum munud i adeilad arall. Enwyd yr adeilad hwnnw ar [...]
Mae’n ddydd Mercher ac mae’n rhaid ei bod hi’n amser am eglwys gadeiriol arall. Fel mae’n digwydd mae gan Birmingham dair o leiaf: Eglwys Gadeiriol S. Philip (Eglwys Loegr), Eglwys Gadeiriol Cwsg y Theotokos a S. Andreas (Archesgobaeth Uniongred Thyateira a Phrydain Fawr), ac Eglwys Gadeiriol S. Siad (Eglwys Babyddol). Fe aethon ni i’r olaf [...]
Roedd dydd Mercher yn Birmingham yn ddiwrnod i eglwysi. Nid fy mod i’n obsesd gydag eglwysi, ond maen nhw’n medru bod yn ddiddorol ynddynt eu hunain fel adeiladau, ac maen nhw hefyd yn adlewyrchu bywyd y cymunedau o’u cwmpas. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos eglwysi gwladol neu rai oedd wedi cael cydnabyddiaeth [...]
Wedi cinio fe wnaethom rannu ac fe es i a DJP draw i gyfeiriad Eglwys Gadeiriol S Paul. Doeddwn i ddim wedi bod yn yr adeilad am ddeng mlynedd ar hugain a mwy. Felly dyma benderfynu ein bod yn mynd i fynd i mewn. Roedd yn rhaid talu. Pwysleisiwyd ei bod hi’n bosib mynd i [...]
Nos Lun diwethaf fe ddaeth eglwyswyr Ceredigion at ei gilydd yn Eglwys S Mihangel ym mhlwyf Aberystwyth ar gyfer y gofwy’r archddiacon. Mae archddiaconiaeth Ceredigion yn ymestyn o Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro hyd at ogledd Ceredigion. Mae’r gofwy yn adeg pan fydd wardeniaid newydd yn gwneud y datganiadau angenrheidiol ar gyfer cymryd eu swyddi [...]
Ffenest liw o Eglwys S. Andrews, Sempringham yn dangos dyrchafael gogoneddus ein Harglwydd.
(Dim pleidlais eto)
Diolch i lyfr Peter Trudgill roeddwn i’n gwybod fod yr eglwys Iseldireg yn cyfarfod yn Blackfriars Hall, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble’r oedd y neuadd. Wedi ychydig o holi a chwilio fe ddeallais fod Blackfriars Hall yn rhan o’r hyn a elwir bellach yn The Halls. Mae’r adeiladau hyn yn agos i’r afon [...]
Yn 1061 cafodd Richeldis de Faverches o bentref Walsingham yn Norfolk cyfres o weledigaethau pan ymddangosodd Mair, Mam ein Harglwydd iddi. Yn y gweledigaethau hyn fe gafodd wybod beth oedd hyd a lled a mesur y tŷ lle’r oedd Mair wedi byw yn Nasareth a cafodd orchymyn i godi tŷ cyffelyb ym mhentref Walsingham. Yn [...]
Fel y dywedais mae llawer am King’s Lynn sy’n atgoffa rhywun o’r Iseldiroedd. Un o’r pethau hynny yw Sgwâr Marchnad Dydd Sadwrn lle mae dyn yn teimlo ei fod wedi cerdded yn ôl i ddiwedd yr oesoedd canol a dechrau’r oes fodern. O gwmpas y sgwâr mae ‘na nifer o adeiladau trawiadol yn bensaernïol ond [...]
Mae’n rhyfedd faint o bethau y gall dyn eu gwneud mewn un diwrnod sy’n dweud nad ydw i wedi gorffen gyda hanes y diwrnod cyntaf o’r gwyliau eto. Wrth deithio yn ôl o Thetford ar yr A11 dyma llygad RO yn cael ei dynnu gan enw lle nad oeddwn i erioed wedi clywed amdano o’r [...]
Rhaid ychwanegu un nodyn bach difyr am beth yw effaith hyn hyd yn oed heddiw. Bydd undebwyr llafur yn dathlu safiad plant ysgol Burston ar y Sul cyntaf ym mis Medi bob blwyddyn. Yn y 1990au cynhaliodd rheithor Burston ar y pryd wasanaeth i gyd-fynd gyda’r dathlu ac yn y gwasanaeth hwnnw fe ymddiheurodd am [...]
Wedi brecwast hamddenol fe wnaethon ni groesi’r ddinas a mynd tuag at y Bont-faen a’r Fro. Cyn dod i’r Bont-faen ei hun dyma droi oddi ar y ffordd fawr a thrwy Sant Hilari tuag at Llan-fair, neu St Mary Church. Roeddwn i wedi ymweld â’r fan hon ryw ugain mlynedd yn ôl er mwyn gweld [...]
Dogfael oedd yn gyfrifol am roi’r blodau yn Eglwys S Mair ddydd Sul diwethaf. Dyma nhw.
(Dim pleidlais eto)
Dwi’n credu taw yn y flwyddyn 2000 y gorymdeithiodd Cristnogion Aberystwyth ar hyd y Stryd Fawr am y tro cyntaf Ddydd Gwener y Groglith. Wyth blynedd yn ddiweddarach mae wedi dod yn ‘draddodiad’. Fel arfer mae’r haul yn gwenu a’r torfeydd yn drwch ar y palmentydd. Doedd hi ddim felly eleni. Roedd glaw yn bygwth [...]
Dwi wedi bod yn dawel dros y dyddiau diwethaf hyn am nad ydw i wedi gwneud rhyw lawer iawn sy’n gyffrous. I ddweud y gwir ers nos Fercher dwi wedi treulio llawer o’m hamser mewn eglwysi a chapeli gan ei bod hi’n Wythnos Fawr ac yn Basg. Ym mhlwyf Aberystwyth mae’n arferol i gynnal gwasanaeth [...]
Efallai na fyddwn i am roi’r argraff fy mod wedi bod mewn eglwys neu gapel am y rhan helaethaf o’r penwythnos rhag ofni iddo wneud tolc go fawr yn fy street cred; ond dwi’n ofni taw dyna’r gwir! Heblaw am wasanaeth offeren requiem John Fitzgerald bues i yng ngwasanaeth Cymun Bendigaid am 8.00am fore Sul [...]
Yn rhyfedd iawn mae i Vilvoorde ran yn hanes crefyddol Lloegr a’r Beibl Saesneg yn benodol. Hyd yn oed cyn i Martin Luther lansio’i brotest yn Wittenberg roedd galw wedi bod am sicrhau fod ysgrythurau sanctaidd yr Hen Destament a’r Newydd ar gael mewn iaith heblaw am Ladin. Fe aeth rhai ati i ddechrau cyfieithu [...]
Roedd ‘na erthygl am John FitzGerald yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon. Doedd hi ddim yn erthygl hir iawn, ond yr hyn oedd yn ddiddorol am yr erthygl oedd sylwadau Daniel Huws oedd yn cael eu dyfynnu fel rhan o’r erthygl. Mae pawb yn gwybod fod John, ar ôl bod yn Aberystwyth am ddeugain [...]
Dydd Gwener oedd ein diwrnod olaf ar ei hyd yn Strossburi. Doeddwn i ddim am wneud dim byd cyffrous iawn, ond roedd pawb yn dweud ei bod hi’n rhaid inni weld Eglwys St.-Pierre-Le-Jeune, neu Jung Sankt Peter. Felly i ffwrdd ar y tram o’r orsaf am Place Broglie ac oddi yno doedd hi ddim [...]
Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael