Gwefan Gymunedol Trefeurig

Neithiwr fe fues i mewn digwyddiad difyr iawn yn neuadd Ysgol Penrhyn-coch, sef lansiad gwefan gymunedol Trefeurig. Mae’r wefan wedi’i geni fel rhan o broject cymunedol Pwerdai Ceredigion. Mae cynllun Y Pwerdai yn brosiect arloesol ar y cyd rhwng Cered a Theatr Felin-fach, ac yn ymgais “i ymateb yn gadarnhaol a chreadigol i’r ffactorau hynny [...]

Eisteddfod 2007-08-07 (2)

Gallai rhywun dybio taw dyna fyddai uchafbwynt ein hymweliad â’n hetifeddiaeth ddiwydiannol ac ôl-ddiwydiannol. Ond roedd gwell i ddod sef pentrefi Sandycroft, Queensferry (Y Fferi Isaf), Mancot, Shotton a Chei Connah. Creadigaethau digon diweddar yw’r llefydd hyn, gyda nifer ohonynt wedi’u codi adeg y Rhyfel Mawr fel anheddau ar gyfer gweithwyr yn y ffatrïoedd oedd [...]

Eisteddfod 2007-08-07 (1)

Os na chefais fy nymuniad ddydd Sul roedd hi’n fater gwahanol ddydd Mawrth. Yn hytrach na mynd i’r eisteddfod roedd RO a minnau am fynd i grwydro ychydig yn Sir y Fflint a Sir Wrecsam. Nid fy mwriad i oedd gorfodi RO i fynd â mi i weld ein hetifeddiaeth, ond roeddwn i’n credu fy [...]