Archifau categorïau: Cyfryngau

Sanhedrin

Dwi’n falch iawn o gael dweud fod y byd yn ei le o hyd wrth i Gwilym Owen ddweud “Sanhedrin” ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru heddiw eto. Mae’n dda gwybod fod rhai bethau’n gwbl ddibynadwy a sicr mewn byd sy’n newid cymaint.
Bookmark and ShareClose Bookmark and Share This Page Save to Browser Favorites [...]

Sanhedrin

Dwi newydd wrando ar Gwilym Owen yn adolygu’r wasg wythnosol ar raglen Post cyntaf BBC Radio Cymru ac mae un cwestiwn wedi codi yn fy meddwl: oes ‘na gymal yng nghytundeb Gwilym Owen gyda’r BBC sy’n golygu ei fod yn gorfod cynnwys y gair sanhedrin mewn pob cyfraniad? Mae’n ymddangos felly i mi gan ei [...]

Lot o sŵn am ddim byd pwysig

Roedd y papurau Sul yn drwm o newyddion am y Tywysog Harry dros y penwythnos. Lluniau ohono yn bod yn ‘normal’ oedd yn cael y sylw. Dim ond ychydig oedd yn ceisio edrych y tu hwnt i’r dyn ifanc yn gwisgo’r cap gyda’r arwyddair “We do bad things to bad people” arno. Prin oedd y [...]

Mwy am bapur dyddiol Cymraeg a chwarae gyda geiriau

Y newyddion da yw fy mod yn gwybod bellach fod y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, wedi bod yn darllen fy mlog. Wel, pan dwi’n dweud ei fod wedi bod yn darllen fy mlog, yr hyn dwi’n ei olygu mewn gwirionedd yw ei fod wedi darllen un cofnod, sef yr hyn yr ysgrifennais am ei [...]

Siom neu ddadrithiad?

Daeth cyhoeddiad y gweinidog treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, ddechrau’r wythnos hon yn dipyn o sioc i mi. Nid dyna’r hyn yr oeddwn wedi disgwyl ei glywed. Oherwydd gwaith caled cwmni Dyddiol Cyf., ac yn arbennig Ned Thomas, mae’r sylfaen wybodaeth sydd wedi’i gosod ar gyfer sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn un gadarn. Pan fo’r cwmni [...]

Cwrdd â Chris Needs

Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod arbennig oherwydd dyna’r tro cyntaf imi gwrdd â’r enwog Chris Needs. I’r rhai ohonoch nad ych chi’n gyfarwydd â Chris mae’n e’n cyflwyno rhaglen 3 awr bob nos ar Radio Wales. Ond nid darlledwr cyffredin mo Chris – mae’n sefydlu perthynas gref iawn gyda’i gynulleidfa ac maen nhw’n ei ffonio’n [...]

Gwyliau Awst 2007-08-30

Gwneud dim byd oedd fy nod ar gyfer diwrnod olaf y gwyliau ym Mrwsel a dwi’n falch o fedru adrodd fy mod wedi cyrraedd y nod yn gwbl ddidrafferth. Roeddwn i wedi gwneud yr holl grwydro, yr holl deithio a’r holl ddysgu yr oeddwn yn bwriadu ei wneud, ac felly roedd un diwrnod ar ôl [...]

Angladd Ray Gravell

Dwi’n gwybod fy mod yn adrodd hanes fy ngwyliau haf yn ddarniog iawn, ond mae cymaint o bethau eraill i sylwi arnynt y dyddiau hyn. Ddoe, er enghraifft, cynhaliwyd angladd Ray Gravell ym Mharc y Strade, Llanelli. Y peth agosaf i angladd wladol i’w chynnal ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol gyda’r Prif weinidog Rhodri Morgan yn [...]

Pwy sy’n siarad Iseldireg (2)

Dwi wedi penderfynu dechrau casglu enwau pobol annisgwyl sy’n siarad Iseldireg. Dwi wedi sôn am y cyntaf o’r blaen, sef un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg. Mae’r ail ar rhy rhestr yn fwy annisgwyl byth, sef y darlledwr poblogaidd Chris Needs sydd newydd gyhoeddi ei hunangofiant, Like it is. Wrth [...]

Bwrdd nid cabinet!

Dwi’n ymwybodol iawn fod gennyf gymaint i’w adrodd - gorffen hanes yr eisteddfod, y gwyliau yn Strasbwrg a Brwsel, a phopeth arall sydd wedi digwydd ers hynny. Ond mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn teimlo’n grac y bore ‘ma. Ers chwech o’r gloch mae Radio Cymru wedi bod yn rhedeg stori ar y newyddion [...]

Jonsi, Geraint Lloyd a sgandal y BBC

Neithiwr cyhoeddodd y BBC fod pob cystadleuaeth ffôn a drefnir ganddynt, “all its TV and radio phone-related competitions” yn ôl y datganiad, yn dod i stop hyd nes bod holl sgandalau’r gorffennol wedi’u hastudio’n fanwl. Ydy hynny’n golygu y bydd cystadleuaeth brawddeg Jonsi a chiosg ffôn Geraint Lloyd yn dioddef hefyd? Mae’n ymddangos yn annheg [...]

Pôl piniwn deddf iaith

Roeddwn i wedi cael hwyl ar wrando ar raglen Rebecca Jones ar Radio Cymru y bore ‘ma, yn enwedig ei chyfweliad gyda Jill-Hailey Harries, gweinidog gyda’r Annibynwyr, ynglŷn â phriodas a phriodi fel fy mod wedi mynd i deimlo’n hunan-fodlon. Yna’n sydyn fe gefais fy nihuno gan gyhoeddiad ar y Newyddion fod arolwg barn yn [...]

Croeso i’r Byd

Ces i fy nghyffroi cymaint y bore ‘ma fel fy mod i wedi methu wilibowan yn y gwely cyn codi. Yr hyn oedd wedi cael y fath effaith arna i oedd clywed fod dyddiad wedi’i osod o’r diwedd ar gyfer lansio y papur newydd Cymraeg Y Byd. Yn ddiweddarach dyma glywed y newyddion o enau [...]

Eisteddfod - Dydd Mercher 9 Awst 2006 (5)

Y Lle Celf
Dwi ddim rhoi amser go iawn i’r Lle celf ar faes yr eisteddfod ers blynyddoedd, felly gyda rhyw dair awr ar ôl ar y maes fe wnes i ddweud y buaswn yn treulio’r hyn oedd ei angen yno. Wrth gerdded i mewn i’r arddangosfa fe sylwais ar hysbyseb am deithiau tywys deongliadol o [...]

Eisteddfod - Dydd Mercher 9 Awst 2006 (1)

Con passionate
Codi’n gynnar heddiw oherwydd fy mod wedi addo cadeirio sesiwn yn y Babell Lên ar y gyfres deledu Con passionate wedi’i threfnu ar y cyd rhwng y pwyllgor llên a Cyfrwng, cylchgrawn y cyfryngau yng Nghymru. Fe wnes i addo wythnosau yn ôl, ac ar y pryd roedd popeth yn ymddangos yn waith di-ofid. [...]

Mwy am Newsnight a’r car yn yr Alban

Yn ôl stori yn yr Observer heddiw mae’r heddlu yn cynnal ymchwiliad i fewn i’r hyn wnaeth y rhaglen BBC2 Newsnight y noson cyn gêm Lloegr yn erbyn Portiwgal. Fel rhan o adroddiad fe wnaeth newyddiadurwyr yrru car wedi’i orlwytho â that cefnogi Lloegr yng Nghwpan y Byd ar hyd strydoedd Caeredin a Glasgow yn [...]

Dyfeisio newyddion

Nos Wener diwethaf ar raglen Newsnight ar BBC2 fe wnaeth newyddiadurwr fynd ati i greu newyddon trwy wisgo car mewn paraffernalia cefnogwyr tîm pêl-droed Lloegr a’i yrru o gwmpas dinasoedd yr Alban mewn ymdrech i brofi faint o ‘gasineb’ oedd tuag atynt. Bu’r newyddiadurwr yn destun llawer o dynnu coes a sylwadau digon pigog, ond [...]

Democratiaeth a thwyll

Mae’r we yn cael y bai am lot fawr o bethau. Efallai bod yr holl gyhuddiadau yn wir, er ‘mod i’n amau hynny’n fawr, ond y we hefyd sydd yn gyfrifol am roi inni olwg amgen ar yr hyn sy’n digwydd yn y byd o’n cwmpas. O’r diwedd does dim rhaid inni dderbyn ein holl [...]