Archifau categorïau: RO

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (5)

Beth ydych chi’n ei wneud pan ei bod yn bwrw glaw yng Nghaerdydd? Mynd i Gaerffili i weld a yw hi’n bwrw yno. Wel o leia dyna beth benderfynon ni ei wneud. Roeddwn i am weld Capel a Phlas Watfford ar gyrion Caerffili oherwydd ei gysylltiad gyda’r Methodistiaid cynnar. Ond doedd dim pall ar y [...]

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (1)

Does yr un eisteddfod yn haeddu glaw. Dwi’n dweud hynny o brofiad fel un oedd ar rai o bwyllgorau Eisteddfod Abergwaun yn 1986. Fe weithiodd trigolion yr ardal yn galed iawn er mwyn cael rhywun fel Gwilym Owen i gerdded rownd y maes yn datgan yr amlwg: sef bod pridd a dŵr yn creu mẁd. [...]

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-04

Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen [...]

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (3)

Er y gallwn i fod wedi aros yn Llan-fair am oriau, roedd gennym nodau eraill i’w cyflawni, a llefydd eraill Ioloaidd i ymweld â hwy. Erbyn hyn roedd rhai yn galw am eu cinio, ond cyn troi tuag at Lanilltud Fawr i chwilio am le i fwyta, roedd yn rhaid galw heibio i Drefflemin. Roeddwn [...]

Eisteddfod yn y ddinas (1) 2008-08-02

O’r diwedd dwi’n cael cyfle i ysgrifennu pwt ar gyfer y blog. Am amryw resymau dwi wedi bod yn hynod brysur dros yr wythnosau diwethaf; yn rhy brysur i droi at ysgrifennu’r blog yn gyson. Dwi’n siŵr i Oscar Wilde ddweud unwaith os yw rhywun yn rhy brysur i flogio ei fod yn rhy brysur! [...]

Cinio dydd Sul yn Llanbadarn Fawr

Wedi gwasanaeth y Cymun Bendigaid y bore ‘ma bues i yng ngwesty Llety Parc er mwyn cael cinio dydd Sul. Roeddwn i a DML wedi cael lifft yno gan ein cyfaill caredig RO. Y rheswm am fynd i Lety Parc oedd am fod y cinio dydd Sul yn rhan o ymgyrch Pwyllgor Apêl Llanbadarn Fawr [...]

Gwefan Gymunedol Trefeurig

Neithiwr fe fues i mewn digwyddiad difyr iawn yn neuadd Ysgol Penrhyn-coch, sef lansiad gwefan gymunedol Trefeurig. Mae’r wefan wedi’i geni fel rhan o broject cymunedol Pwerdai Ceredigion. Mae cynllun Y Pwerdai yn brosiect arloesol ar y cyd rhwng Cered a Theatr Felin-fach, ac yn ymgais “i ymateb yn gadarnhaol a chreadigol i’r ffactorau hynny [...]

Brwsel unwaith eto

Dim ond nodyn bach byr yw hwn i ddweud fy mod i ar fy ffordd i Frwsel y bore ‘ma. Dwi’n gadael Aberystwyth ar y trên 9:27am gan newid yng ngorsaf Birmingham Stryd Newydd a chyrraedd Llundain Euston erbyn 2:00pm. Wedyn mae’n rhaid inni ddisgwyl tan 4:35pm i’r trên Eurostar am Frwsel adael St Pancras [...]

Diwrnod i Blaid Cymru

Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod mawr yn Aberystwyth, diwrnod Ffair y Blaid. Bob Rhagfyr bydd Plaid Cymru yn cynnal ffair Nadolig yn Aberystwyth i godi arian. Pan ddes i Aberystwyth am y tro cyntaf ddiwedd y 1970au roedd y ffair yn ddigwyddiad mawr cymdeithasol a oedd yn denu pobol nad oedd ganddyn nhw ddim cysylltiad [...]

Gwyliau Awst 2007-08-31

Wel, mae’r amser wedi dod i orffen hanes fy ngwyliau i ac RO ym Mrwsel a Strossburi (Strasbourg). Dwi’n gwybod ei bod hi bellach yn dri mis ers hynny ond mae’ atgofion yn aros yn fyw iawn ac yn aeddfedu yn rhai melys iawn. Fe wnaeth un cyfaill awgrymu fy mod yn dal i hel [...]

Gwyliau Awst 2007-08-30

Gwneud dim byd oedd fy nod ar gyfer diwrnod olaf y gwyliau ym Mrwsel a dwi’n falch o fedru adrodd fy mod wedi cyrraedd y nod yn gwbl ddidrafferth. Roeddwn i wedi gwneud yr holl grwydro, yr holl deithio a’r holl ddysgu yr oeddwn yn bwriadu ei wneud, ac felly roedd un diwrnod ar ôl [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (7)

Roedden ni wedi dod i Leuven i wneud mwy na dim ond gweld y golygfeydd, er roedd hynny’n ddigon o reswm ynddo’i hun. Fel mae’n digwydd mae Liesbeth yn byw yn Leuven ac Ivan mewn un o’r maestrefi, ac roedden ni wedi cael gwahoddiad i swper ati hi yng nghwmni Ivan. Y trefniant oedd ein [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (1)

Doedd hi ddim yn gynnar iawn arnon ni’n gadael Brwsel fore Mawrth ar ein ffordd i Leuven ar y trên. Roedd Liesbeth wedi ein gwahodd ni i swper ac roedden ni wedi trefnu gyda Ivan iddo ef ein cyfarfod yng nghanol y ddinas tua rhyw 6.00pm er mwyn mynd â ni i’w fflat. Ond roedden [...]

Gwyliau Awst 2007-08-25 (2)

Wrth aros yn Zaterdagplein nid oeddem yn bell iawn oddi wrth dai bwyta pysgod Brwsel sy’n drwch yn yr ardal o gwmpas Sint-Katelijneplein. Dyma lle’r oedd porthladd Brwsel yn gorwedd cyn 1870 a llenwi’r afon. Mae’r traddodiad pysgod yn dal i barhau yno. Roeddwn i’n teimlo ei bod ychydig yn afradlon i dalu prisiau cymharol [...]

Gwyliau Awst 2007-08-25 (1)

Yn ystod yr wythnos mae tri thrên y dydd yn cysylltu Strossburi a Brwsel trwy Luxembourg. Ond ar y penwythnos dim ond un trên trwodd sydd ac roedd hwnnw’n gadael Strossburi am 2.30pm. Doedden ni ddim am ddisgwyl o gwmpas am y trên, felly dyma benderfynu mynd ar drên cynharach a gorfod newid ym Metz [...]

Penwythnos prysur (2)

Dwi heb orffen dweud hanes fy mhenwythnos prysur wythnos yn ôl a hynny wrth imi lwyddo i oresgyn penwythnos prysur arall! Wythnos yn ôl cefais y fraint o fynychu un o ddigwyddiadau pwysig y byd llyfrau yng Nghymru, ond y tro hwn nid yr awduron oedd yn cael eu cydnabod ond yn hytrach y cyhoeddwyr: [...]

Eisteddfod 2007-08-12 (2)

Dwi’n ofni fy mod heb orffen gyda’r eisteddfod eto. Rhaid cau y pen hwnnw i’r mwdwl cyn symud ymlaen i sôn am fy ngwyliau yn Strasbourg a Brwsel. Roedden ni ar ein ffordd yn ôl o’r eisteddfod ddydd Sul ac wedi aros yn y Waun i gael cinio ac i dalu teyrnged i Nic Dafis. [...]

Eisteddfod 2007-08-09 (1)

Diwrnod arall o deithio ddydd Iau, ond y tro hwn cawsom gyfle i fynd reit i galon Wrecsam yn hytrach na dawnsio o chwmpas ei hymylon fel yr oedden ni wedi’i wneud ddydd Mawrth. Wnaethon ni ddim cychwyn yn rhyw gynnar iawn; mae ond yn iawn inni ymddwyn fel petawn ni ar ein gwyliau, er [...]

Eisteddfod 2007-08-07 (6)

Fel mae Lake Wobegone yn cuddio yn y plygiad yn y map gellid dweud fod Erbistog yn cuddio mewn tro yn afon Dyfrdwy. Ond roedd rhywbeth yn denu RO yno ac wrth inni droi oddi ar y ffordd fawr a mynd i lawr ac i lawr i lannau’r afon roedd dyn yn cael y teimlad [...]

Bwyty Ultracomida, Aberystwyth

Ddydd Sadwrn fe fues i ym mwyty y delicatessen Iberaidd-Gymreig Ultramcomida am y tro cyntaf. Dwi wedi bod yn y siop ei hun lawer gwaith ac wedi prynu bwyd parod cymryd-i-ffwrdd hefyd, ond dyma’r tro cyntaf i mi fynd i’r ystafell yn y cefn i eistedd lawr i gael pryd yno. Roeddwn wedi pipo mewn [...]