Archifau categorïau: Cwis

Atebion i’r angaramau awduron

Ar gais sawl un dyma’r cwestiynau a’r atebion i’r cwestiwn anagramau awduron a osodais yn y cwis ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth yr wythnos diwethaf.
1. BREAK OTTERS
2. DADDY FLAG WIMPY
3. JAWS DIM ILL
4. NEON ORGY WOW
5. LEADEN WINO
6. NANNY ELF ME
7. DID WHOOPER MORE
8. AIRMAIL BUY SWELLS
9. FARTHINGS [...]

Cwis yr Adran Gymraeg 2008

Dwi ddim yn gwybod a ydw i wedi bod yn cynnal noson gwis i staff a myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddigon hir i’r peth gael ei ystyried yn draddodiad. Ond dwi’n credu taw eleni oedd fy mhedwerydd cwis a dwi wedi dysgu wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau [...]

Dydd Gŵyl S. Siôr hapus!

Dydd Gŵyl S. Siôr hapus i holl ddarllenwyr Blog Dogfael.
Dyma’r atebion i’r Cwis S. Siôr a osodais echdoe.

23 Ebrill
Twrci
303
Rupert Brooke (1915; Lemnos, Gwlad Groeg)
Golff amatur
Gwlad Pwyl (Kazimierz, Casimir, yw ei nawddsant)
Robert Baden-Powell
Edward III
Malta/Melita
Sid James (George Russell), Peggy Mount (Gabrielle Dragon)

Cwis yn Llanbadarn Fawr

Nos Wener bues i mewn cwis i lansio apêl leol Llanbadarn Fawr i godi arian tuag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sydd yn cael ei chynnal rhywle yng Ngheredigion yn 2010. Roedd y cwis yn cael ei gynnal yn ystafell gefn y Llew Du yn Llanbadarn ac roedd y lle’n orlawn gydag 11 o dimau yn [...]

Faint wyddost ti am Ddewi Sant?

Un o’r rowndiau yn y cwis nos Wener yn Nhal-y-bont oedd un ar Dewi Sant. Gan ei bod hi’n ddydd Gŵyl Dewi ddoe dwi am rannu’r cwis gyda chi. Mae’r atebion ar waelod y cofnod.

Pwy oedd tad Dewi?
Pwy oedd athro Dewi yr iachaodd yn wyrthiol o’i ddallineb?
Fe aeth Dewi ar bererindod i Rufain gan fynd [...]

Cwis dafarn yn Nhal-y-bont

Dwi wedi cael penwythnos prysur, dwi wedi bod y fan hyn a’r fan ‘co yn gwneud y peth hyn a’r peth arall. Dechreuodd y cyfan nos Wener, 29 Chwefror, pan es i allan i Dal-y-bont i gynnal noson ar gyfer y Clwb Nos Wener sy’n cwrdd yn y Llew Du yno. Roeddwn i wedi paratoi [...]

Cwis yn Bow Street

Dyma dusw o gennin Pedr a gefais fel rhodd am fynd mas i Bow Street i gynnal cwis ar gyfer aelodau clwb Os mêts yng Nghapel y Garn. Roedd hi’n noson i ddathlu Gŵyl Dewi ac felly cyn y cwis fe gawsom ni gawl, pice bach a bara brith. Blasus iawn. Fe wnes i fwynhau [...]

Cwis yn nhafarn y Cŵps

Nos Lun roedd y Gymdeithas Wleidyddol Gymraeg yn Aberystwyth yn cynnal cwis yn nhafarn y Cŵps. Fi oedd yn cael y fraint o’i gynnal. Daeth rhyw ddwsin at ei gilydd ar gyfer y noson ac fe gafwyd tipyn o hwyl – roedd pawb yn fodlon ymroi i ysbryd y gystadleuaeth. Roedd myfyrwyr ychydig yn brin, [...]

Wyt ti’n gwybod beth yw’r ateb?

Beth am gystadlu yn erbyn y myfyrwyr. Dyma gwestiynau’r rownd ar wleidyddiaeth Ewrop y cwis heno. Wyt ti’n gwybod yr atebion?
1. Pa wladwriaeth Ewropeaidd yw’r weriniaeth hynaf yn y byd?
2. Pwy oedd llywydd y gynhadledd Ewropeaidd a luniodd yr hyn sy’n cael ei alw yn Cytuniad sy’n sefydlu Cyfansoddiad i Ewrop, ac y mha flwyddyn [...]

Myfyrwyr bywiog a brwdfrydig!

Ydy myfyrwyr wedi newid? Y rheswm dwi’n holi’r cwestiwn yw achos fy mod wedi cael noson ardderchog heno yng nghwmni aelodau Cymdeithas Wleidyddol Gymraeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Y cof sy gen i o fyfyrwyr y 1990au yw nad oedd ganddyn nhw lawer o ddiddordeb mewn unrhyw beth. Doedden nhw ddim yn gadael i ddim i’w [...]

Ydych chi’n adnabod y llyfrau a’r emynau hyn?

Er mwyn cystadlu yn erbyn myfyrwyr a staff Adran y Gymaeg, PC Aberystwyth dyma gyfle i ddarllenwyr Blog Dogfael geisio ateb un o’r rowndiau. Y gamp yw adnabod y llyfrau a’r emynau oddi wrth llythyren gyntaf pob gair yn y teitl neu’r llinell gyntaf. Er enghraifft, yr emyn I T G Y N yw “Iesu [...]

Cwis

Fel mae’r byd yn rhannu’n ddau ar fater Marmite , mae’r un peth yn wir am gwisiau. Rydych chi’n eu mwynhau, neu yn eu casáu; does dim man canol. Dwi’n digwydd bod yn rhywun sy’n dwlu arnyn nhw. Pan yn ifanc fe fues i’n anffodus iawn a chystadlu fel rhan o dîm Ysgol Preseli [...]