Blog Dogfael» Crefydd

Diwrnod 4 tymor y Garawys
Ym mhennod 20 o’i lyfr Yr Ysbryd Glân mae R. Tudur Jones yn edrych ar bwnc “Gweithredoedd da”. Mae’n sôn am y cam-ddealltwriaeth sydd wedi bod ynglŷn â gweithredoedd da – rhai yn eu gweld fel ffordd i ennill ffafr Duw ac eraill yn eu gweld yn amherthnasol yng ngoleuni ei ras a’i gariad rhyfeddol. Dywed yr awdur: “Pa mor dlawd bynnag yw ein gweithredoedd da ni, nid ydynt ond ymgais i ddiolch i Dduw. “Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw ” (1 Cor. vi, 20). Amcan bod yn “genedl sanctaidd,” meddai Pedr, yw mynegi “rhinweddau yr hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef” (1 Pd. ii, 9). Offrwm diolch yw ein gweithredoedd da, saled ag ydynt, ond cysur yw gwybod fod Duw’n perffeithio Ei nerth yn ein gwendid ni.”

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Diwrnod 3 tymor y Garawys
Dywedodd rhywun wrtha i ei fod yn teimlo fod y blog wedi mynd yn grefyddol iawn yn ddiweddar. Doedd dim awgrym o feirniadaeth dwi’n siŵr, dim ond datganiad ffeithiol. Wel, mae hynny’n wir – mae yn dymor y Garawys wedi’r cwbl – ond roeddwn i’n teimlo fod ‘na ryw awgrym o’r angen am ymddiheuriad, neu o leiaf ryw air o esboniad. Dwi’n ofni nad ydw i’n mynd i ymddiheuro nac esbonio’n fwy nad dweud fy mod yn Gristion ac mae cadw’r Garawys yn bwysig i mi. A chan fod cadw’r Garawys yn dipyn o ymdrech nid yw’n rhyfedd fy mod yn blogio am y peth. Fel y gwnes i ddweud yn gynt dwi’n ofni taw bwriad yn hytrach na rhywbeth dwi’n gwybod fy mod yn mynd i’w gyflawni yw hyn. Ond dyna un peth y mae’r Garawys yn ei ddysgu i mi yn gyson, fy ngwendid a’m breuder, ond fy mod yn nerthol trwy’r Un a’m carodd ac a roes ei hun drosof.

Yn fy narlleniad heddiw o lyfr R Tudur Jones, Yr Ysbryd Glân roeddwn i’n troi a bennod 19, “Yr hen a’r newydd”, lle’r oedd yn sôn am y newid hwnnw sy’n dilyn ymddiried nid ynof fi fy hun ond yn yr Un sydd yn medru fy newid i. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud: “Fel y dywedodd y Piwritan, Richard Baxter, ‘Rhaid i bob dyn dyfu fel y mae coeden yn tyfu — i fyny ac i lawr yr uni pryd. Dylai tyfiant anweledig mewnol gyd-fynd â’r tyfiant gweledig allanol.’ Y mae sancteiddrwydd (fel pechod) yn hedyn sy’n tyfu. Ac y mae gwarchod a hybu’r tyfiant ysbrydol yn rhan hanfodol o sancteiddio. Rhaid wrth gynnydd: “Gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw y pen, sef Crist” (Eff. iv, 15). “A’r Arglwydd a’ch lliosogo [hynny yw, peri i chwi gynyddu] ato a’ch chwanego ym mhob cariad i’ch gilydd … i gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad …” (1 Thes. iii, 12, 13).” (t.86)

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Dydd 2 Garawys 2010
Dwi newydd orffen darllen pennod 18 “Crist Iesu ein sancteiddrwydd” allan o lyfr R. Tudur Jones Yr Ysbryd Glân.

Meddai’r awdur, “Un o gyfraniadau gwerthfawr y Diwygiad Methodistaidd oedd pwysleisio pwysigrwydd cymundeb cyson â Christ fel amod tyfu mewn sancteiddrwydd — gwers a ddysgir yn fuan iawn wrth astudio emynau Williams Pantycelyn. Dyma arwyddocâd cariad at Grist yn y bywyd Cristionogol. Nid meistroli cyfres o ddeddfau moesol y mae Cristionogion er mwyn tyfu mewn daioni ond ymorffwys yng nghariad Crist a syllu ar ei berson.” (tt.80-81)

Buasai myfyrio’n iawn ar y gosodiad hwnnw yn unig yn ddigon mewn gwirionedd i lenwi fy meddwl dros holl dymor y Garawys.

Dywedodd Iesu, “Hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.” (Ioan 17:3)

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Dydd Mercher y Lludw a’r Garawys
Mae heddiw yn ddydd Mercher y Lludw a dwi newydd ddychwelyd o wasanaeth y Cymun bendigaid yn Eglwys y Drinod. Roeddwn i’n darllen y darlleniadau o’r Hen Destament a’r Newydd. Roedd yn wasanaeth arbennig iawn ar gyfer dechrau’r Garawys – nawr mae’n rhaid imi wneud yn siŵr fy mod yn parhau i gadw’r Garawys tan ddechrau mis Ebrill a Dydd y Pasg. Efallai bydd rhai yn rhyfeddu at fy nefnydd o “rhaid” mewn cyd-destun y Garawys gan weld hynny yn swnio’n debyg iawn i faich. Ond “rhaid” yn ystyr ei bod hi’n rhaid inni fwyta’n iach, sef gwneud rhywbeth sydd er fy lles a’m daioni.

Yn draddodiadol mae’r Eglwys wedi dynodi’r Garawys, y cyfnod o ddydd Mercher y Lludw tan Noswyl y Pasg fel tymor o ddisgyblaeth a hunanymwadiad, a dydd Mercher y Lludw ei hun a dydd Gwener y Groglith yn ddyddiau ympryd. Ond dyna i gyd. Nid oes canllawiau swyddogol yn unman i ddweud beth yw ystyr hynny. Nawr mae’r Eglwys Babyddol wedi datblygu sustem o reoliadau manwl am beth sy’n iawn i’w wneud ar adeg o ympryd, disgyblaetha a hunanymwadiad. A phetai’r Presbyteriaid yn cadw’r Garawys dwi’n ddigon siŵr y buasent hwy hefyd wedi datblygu sustem yr un mor soffistigedig ag un Eglwys Rufain i gyfarwyddo (neu orchymyn) ei haelodau i wneud pethau felly’n iawn.

Ond nid felly yr Eglwys yng Nghymru. Efallai byddai rhai pobl yn dweud fod hynny’n nodweddiadol o eglwyswyr. Gofyn am ympryd, disgyblaeth a hunanymwadiad heb wneud dim ymarferol i’w alluogi. Yn hytrach mae’n rhaid i ddyn chwilio am ei gyfarwyddyd ei hun; ei ffordd ei hun o gadw hyn. Mae rhai yn troi at eglwysi eraill i weld sut maen nhw’n gwneud pethau, ond eleni dwi wedi gosod fy nisgyblaeth fy hun. A disgyblaeth bositif yw hi.

Yn gyntaf rwyf am sicrhau fy mod yn ail-ddarllen cyfrol ragorol R Tudur Jones ar Yr Ysbryd Glân (1972). Mae 216 o dudalennau yn y llyfr, felly mae’n golygu y bydd yn rhaid imi ddarllen rhyw chwech o dudalennau’r dydd os am gadw at fy nisgyblaeth. Fel mae’n digwydd dechreuais ail ddarllen rhyw bythefnos yn ôl; ond nawr bydd gennyf nod i fi fy hun.

Yr ail beth dwi am wneud yw gwneud yn siŵr fy mod yn dod wyneb yn wyneb â’r byd mae Duw wedi’i greu yn fwy cyson trwy gerdded bob nos. Bydd hynny er fy lles corfforol yn bendant. Ond bydd hefyd er fy lles ysbrydol gan y bydd yn rhoi amser imi fyfyrio a gweddïo mewn cyd-destun gwahanol i’r arfer.

Yn drydydd dwi am wneud pethau sydd yn mynd i alluogi Duw fy newid i fod yn fwy tebyg i’r hyn mae ef am imi fod. Fe wnaeth yr awdur Julie Clawson grynhoi’r peth yn dda iawn ar ei blog onehandclapping. Fel hyn meddai hi:

I’ve come to learn that in order to become more fully the person God wants me to be, I instead need to make sacrifices that actually allow me to achieve those ends. Often those sacrifices are less about personal denial, and more about following disciplines that encourage me to love others more. In the past I’ve attempted to eat more ethically or shop fairly — which of course required discipline and sacrifice on my part (and a bit of denial as well), but the outcome of these outwardly focused changes was far more personally transformative than if I had just eliminated something from my life for forty days.

So for me the question for Lent is not “what am I giving up?” but instead “what can I do to allow God to transform me this season?” The answers to those questions might be the same for some people; for me, changing the question shifted how I observed Lent. Whatever the case, I think it is important to understand what the ultimate purpose is behind why we engage in certain disciplines unless we miss their very point.

Felly dyna fy nod. Ond gan taw meidrol ydw i dwi’n gwybod hyd ar ddydd Mercher y Lludw taw methu dwi’n mynd i’w wneud. Ond mae’r Garawys yn baratoad i ddathlu’r hyn a wnaeth Duw i drawbewud fy methiant i yn fuddugoliaeth a’m gwendid yn nerth.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (11): 2009-08-20
Roedd heddiw yn fwy o bererindod nag o wyliau wrth inni fynd i’r gogledd unwaith eto. Y tro hwn yr oeddem yn aros yn agos at y glannau gan ein bod yn teithio tuag at Holy Island, neu, Lindisfarne, oddi ar arfordir Northumberland. Mae’n anodd disgrifio pwysigrwydd y lle hwn yn iawn yn hanes gogledd-ddwyrain Lloegr: dyma grud diwylliannol a chrefyddol teyrnas Northumbria a sefydlwyd ar hen deyrnasoedd Brynaich a Deifr.

Pan ail gyflwynodd Oswallt y ffydd Gristnogol i deyrnas Northumbria fe sefydlodd fynachlog ar ynys Holy Island gyda’r Gwyddel Aidan a mynachod eraill o ynys Iona yn yr Alban yn ffurfio’r gymuned gyntaf. Yn ddiweddarach fe ddaeth Cuthbert yn abad, ac wedyn yn esgob. Daeth yntau yn enwog fel apostol y gogledd-ddwyrain ac un o seintiau pwysicaf Lloegr yn yr oesoedd canol. Gydag amser trosglwyddwyd ei gorff i gysegr yn eglwys gadeiriol Durham a daeth ei gwlt yn gyffredin.

Yn ogystal â chanolfan grefyddol fe ddaeth y fynachlog ar Holy Island yn ganolfan dysg. Yma y lluniwyd un o drysorau’r oesoedd cynnar ym Mhrydain, sef Llyfr Efengylau Lindisfarne. Credir taw gwaith mynach o’r enw Eadfrith yw’r efengylau ac fe luniwyd y llawysgrif tua 680-720 er anrhydedd i Cuthbert. Mae’n cynnwys copi Lladin o’r pedair efengyl (yn ogystal â chyfieithiad Hen Saesneg a ychwanegwyd yn ddiweddarach) wedi’i addurno’n goeth mewn arddull a oedd yn tynnu ar y traddodiad Celtaidd. Yn ôl y Llyfrgell Brydeinig (a chofied taw hwy sy’n berchen ar y llyfr bellach) mae’n un o lyfrau mawr y byd ac yn un o eiconau ffurfiannol yr ymwybyddiaeth o Seisnigrwydd.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Y Parchedig Bill Roberts yng Nghymru
Dros y penwythnos a aeth heibio cefais i brofiad amheuthun o gyfarfod a thrafod sefyllfa’r Gymraeg a Christnogaeth yng Nghymru gyda’r Parchedig Bill Roberts. Ar yr olwg gyntaf mae hynny’n swnio fel penwythnos arferol a chyffredin – ond yr hyn a oedd yn wahanol yw fod Bill Roberts yn rheithor Eglwys Esgobol S. Gregory yn Deerfield, Illinois, a’i fod wedi dysgu Cymraeg.

Fel y tystia ei enw mae Bill o dras Cymraeg. Mae ar gyfnod sabothol o’i waith, ond mae’n defnyddio’r cyfnod hwn er mwyn dysgu a deall pethau’n well. Ac er mwyn ennill profiadau a fydd yn cyfoethogi ei weinidogaeth a’i ddefnyddioldeb i Dduw wedi’r gwyliau sabothol.

Ei ddiddordeb mawr yng Nghymru yw’r berthynas rhwng adfywiad y Gymraeg a Christnogaeth. Wrth ymchwilio i hyn cafodd gyfle i drafod gyda nifer fawr. Yn ogystal ag Eglwys y Santes Fair yn Aberystwyth yr oedd wedi, neu’n bwriadu, ymweld â’r canlynol: Eglwys Dewi Sant, Caerdydd; Plwyf Dewi Sant, Caerfyrddin; Eglwys St. Mark, Gabalfa (Caerdydd); Eglwys S. Gabriel, Cwm-y-glo; ac Eglwys S. Mihangel, Llanrug.

Ar ben ymweld â’r holl eglwysi hynny mae Bill wedi bod yn ymweld â llefydd eraill a chyfarfod â nifer o unigolion. Wrth i mi siarad gydag ef cefais hanes i ymweliad ag Ysgol Gartholwg (yr hen Rydfelen) lle cafodd gyfle i siarad gyda rhai o’r myfyrwyr hŷn am eu hagweddau tuag at y Gymraeg a thuag at Gristnogaeth.

Cymru yw’r cyntaf o dair gwlad y bydd Bob yn ymweld â nhw ar ei daith. Wedi bod yma bydd yn treulio cyfnod yn Lloegr, a Madagascar. Yn ddifyr iawn mae Bill yn perthyn i fyd y blogwyr ac mae adrodd hanes i gyfnod sabothol, gan gynnwys ei gyfnod yng Nghymru, ar y blog hwnnw. Felly fe ellir dilyn ei deithiau a’i sgyrsiau ar flog St. Blogory’s. Mae’n disgrifio’r blog hwnnw fel hyn: “These are the voyages of the Rector’s Sabbatical. Its three-month mission: to explore three Christian cultures: Welsh-speaking Wales, Emerging Church England, and Anglican Madagascar; to seek out new life and new friends in Christ; to boldly go where Christ has gone before.”

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Birmingham 2009-04-14 (3)
Roedd y prynhawn yn fwy o antur fyth. Yn ôl ar y bws tuag at ardal Highgate, rhyw gilomedr i’r de ddwyrain o ganol y ddinas. Yr hyn oedd wedi’n denu ni i Highgate oedd taflen a gawsom mewn canolfan croeso yn rhestru adeiladau hanesyddol a phensaernïol ddiddorol y ddinas. Pan welodd RO fod Mosg Canolog Birmingham ar y rhestr fe ddywedodd ar unwaith ei fod am fynd yno. Mosg Canolog Birmingham yw un o’r mosgiau mwyaf yn Ewrop. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1969 gan agor y drysau (rhai gwahanol i ddynion a menywod) yn 1975. Ers hynny mae wedi datblygu yn ganolfan gymunedol ac addysgiadol o bwys, ac mae’n derbyn ymweliadau cyson gan rai nad ydynt yn Fwslemiaid.

Roeddwn i’n ddigon hapus i edrych ar y mosg o’r tu fas, ond roedd RO yn siŵr y buasai croeso inni fynd i mewn i weld o gwmpas yr adeilad. Yr oedd yn iawn, cawsom groeso cynnes gan un o imamau’r mosg, Mohammad Talha Bokhari. Er nad oeddem wedi trefnu ymlaen llaw fe wnaeth ein tywys o gwmpas gan esbonio y ffydd Islamaidd a hefyd rhoi gwybodaeth ymarferol inni am sut roedd y mosg yn gweithredu. Roedd yr imam yn esbonio fod lle i 4,000 o ddynion a 600 o wragedd ddod i’r gweddïau ar yr un pryd. Mae’n rhaid eu bod nhw’n penlinio’n agos iawn at ei gilydd!

Dwi’n gwybod ei fod yn swnio’n beth anarferol i’w wneud ar wyliau, ond roedd yn brofiad cwbl newydd i mi; dwi’n falch iawn fy mod wedi gwneud.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Dydd y Pasg 2009
Dwi’n dechrau ysgrifennu hyn yn Eglwys y Santes Fair wrth ddisgwyl i’r gynulleidfa gyrraedd ar gyfer gwasanaeth y Cymun Bendigaid am 8. Roedd y dref yn dawel iawn y bore ‘ma wrth gerdded i’r eglwys – dim ond yr adar a pheiriant glanhau y cyngor.

Mae’r eglwys wedi’i haddurno gyda blodau ac mae eu gwynt yn llenwi’r adeilad. Dyma’r blodau cyntaf yn yr eglwys ers dechrau tymor y Garawys yn nhywyllwch Chwefror.

Tyrfa fechan ydyn ni gyda’r haul yn disgleirio arnom trwy’r ffenest ddwyreiniol wrth inni ymgasglu yn y gangell. Yn y ffenest honno gwelwn hanes y Pasg, sef Mair gyda’i ffiol o ennaint yn ei llaw yn cyfarch yr Iesu atgyfodedig. Heddiw mae’r lliwiau’n llachar fel yr oedden nhw pan wnaed y gwydr dro 150 o flynyddoedd yn ôl.

Yn ei anerchiad fe wnaeth y rheithor sylwi fod atgyfodiad Crist yn gwasgar pob math o gysgodion – ofnau, anobaith, marwolaeth … a’r amhosib. Dyna’r rheswm dros obaith: nid oes dim nad oes posib newid yn bod bellach.

Wedyn gwasanaeth Cymun arall am 10 o’r gloch; i holl deulu’r eglwys y tro hwn. Daeth nifer dda ynghyd i ddathlu’r atgyfodiad. Y ficer oedd yn pregethu ac fe wnaeth rannu beth oedd ei hoff bryd o fwyd yng nghaffi Blue Creek, sef madarch a garlleg a bacwn. Wrth gwrs nid dyna oedd pwynt y bregeth! yn hytrach roedd am dynnu ein sylw at ‘brif gwrs’ bwydlen bywyd S. Paul, sef adnabod Iesu Grist a grym ei atgyfodiad (Philipiaid 3.10).

Wedi’r gwasanaeth rhannu wyau Pasg i’r ysgol Sul a chyfle i bawb gymdeithasu gyda’i gilydd tros baned a chacennau crispies siocled. Ai dyna’r ffordd iawn i ddathlu’r Pasg? Wn i ddim, ond dwi’n siŵr ei bod cystal ag eraill. Mae’n llygaid bellach yn edrych ymlaen tuag at Dydd Iau’r Dyrchafael a’r Pentecost. Dyw amser byth yn sefyll yn llonydd ddim hyd yn oed ar brif ŵyl Gristnogol y flwyddyn.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Rhaid ffeithiau Pasgaidd
Un o’r cwestiynau wnaeth rhywun ofyn imi heddiw oedd pam fod dyddiad y Pasg yn newid o flwyddyn i flwyddyn a Nadolig wastad ar 25 Rhagfyr. Yr ateb syml yw fod dyddiad y Pasg yn dibynnu ar y lleuad. Mynnodd Cristnogaeth ddal wrth yr arfer Iddewig o ddilyn cwrs y lleuad wrth bennu’r dyddiad hwn. Mae’r Pasg yn cael ei ddathlu ar y Sul cyntaf yn dilyn y lleuad lawn sy’n digwydd ar neu wedi cyhydnos y gwanwyn, neu Alban Eilir fel yr oedd Iolo Morganwg yn ei alw.

Dyna sut mae eglwysi’r gorllewin yn penderfynu ar ddyddiad y Pasg. Mae’r gorllewin yn defnyddio’r calendr Gregoraidd, ond mae eglwysi’r dwyrain yn dal i ddefnyddio’r calendr Iwlaidd wrth bennu’r Pasg. O ganlyniad y mae’n bosib i Basg y dwyrain ddisgyn ar yr un Sul ag un y gorllewin, neu  ac felly weithiau mae’n wythnos yn ddiweddarach, weithiau pedair wythnos, ac weithiau bump.

Yn ddiddorol iawn roedd dyddiad y Pasg yn un o’r gwahaniaethau rhwng Cristnogaeth Geltaidd a Christnogaeth Rufeinig. Yn Synod Whitby a gynhaliwyd yn 664 – cyfarfod sy’n cael ei weld fel un o’r rhai allweddol wrth i awdurdod Rhufain gael ymestyn dros yr eglwys Geltaidd – cytunwyd y dylid gosod dyddiad y Pasg yn unol â’r arfer yn Rhufain ac felly yn un o’r arwyddion fod yr eglwys Geltaidd, neu Brydeinig, yn cydnabod awdurdod Esgob Rhufain.

Yn ddiddorol iawn mae un o’r darnau cynharaf o Gymraeg ysgrifenedig yn ymdrin â’r union bwnc o  osod dyddiad y Pasg. Un ddalen sydd wedi goroesi ac mae’n cael ei chadw bellach yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt o dan yr enw Cambridge MS Add. 4543, ond fe gaiff adnabod hefyd fel Derbyn y Computus. Caiff y darn i’w ddyddio i’r 10g ac mae’n dangos fod y Gymraeg yn gyfrwng dysg yn gynnar yn ei hanes.

Ond nid yw pawb yn hapus gyda’r ffaith fod y Pasg yn symud ac felly yn 1928 fe basiwyd deddf gan Senedd Llundain yn sefydlu ŵyl ar ddyddiad penodol, sef y dydd Sul wedi’r ail ddydd Sadwrn yn Ebrill. Dyma a ddywed y ddeddf.

Easter-day shall, in the calendar year next but one after the commencement of this Act and in all subsequent years, be the first Sunday after the second Saturday in April, and section three of the Calendar (New Style) Act 1750, the new calendar, tables and rules annexed to that Act, and section two of the Calendar Act 1751, are hereby amended and shall be read and construed accordingly.

Os yw hyn yn ddeddf ers 1928 pam bod y Pasg yn dal i symud? Wel, roedd ‘na un amod yn y ddeddf. Dim ond pan fyddai’r eglwys Cristnogol wedi cytuno iddo. Tan hynny felly mae’r Pasg yn mynd i barhau i symud o flwyddyn i flwyddyn.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Yr Athro Gwyn Thomas yn traddodi Darlith D J James 2009
Dwi newydd ddod adref i Blas-yn-Dogfael o ddarlith gan yr Athro Gwyn Thomas. Ef oedd yn traddodi Darlith D J James, Pantyfedwen, eleni. Traddodwyd y cyntaf o’r darlithoedd hyn ar bynciau crefyddol yn 1961. Bellach traddodir y ddarlith bob dwy flynedd ac am yn ail yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Roedd y ddarlith eleni yn Gymraeg ac fe’i traddodwyd yn Neuadd y Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth. Teitl pryfoclyd darlith yr Athro Thomas oedd Drych aneglur: Duw a dyn … a Dawkins. Fel hyn mae’n cyflwyno ei ddarlith,

Yn ddiweddar fe gyhoeddwyd rhesi o lyfrau’n ein hysbysu nad ydi Duw ddim yn bod, y rhan fwyaf ohonyn nhw gan wyddonwyr. Dydi’r cyhoeddi hwn ddim yn cael fawr ddim effaith ar y biliynau o bobol yn ein byd sydd yn dal i gredu: y mae hi fel pe na bai’r gwyddonwyr anghrediniol wedi cyhoeddi dim.

Wedyn mae’n mynd ati i edrych yn feirniadol ar sut mae Dawkins yn dadlau ei achos, cyn mynd ymlaen i ystyried gwirionedd sy’n deillio o sumbolau a mutholeg. Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn i’n dilyn dadl yr Athro trwy’r amser a hynny’n bennaf am ei fod yn dadlau yn gyflym iawn. Felly roedd hi’n dda cael copi o’r ddarlith ar y diwedd. Cyfle yn awr i fynd yn ôl i ystyried beth oedd ganddo i’w ddweud yn fwy gofalus. Fe wnes i fwynhau yn bennaf am ei bod yn dda gweld rhywun sy’n fodlon dadlau yn ôl yn yn erbyn Dawkins gyda’r fath arddeliad.

Cadeirydd y noson oedd prif athro’r Brifysgol, y Dr Noel Lloyd.

Rhagor o luniau o’r ddarlith.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.