Diwrnod 4 tymor y Garawys

Ym mhennod 20 o’i lyfr Yr Ysbryd Glân mae R. Tudur Jones yn edrych ar bwnc “Gweithredoedd da”. Mae’n sôn am y cam-ddealltwriaeth sydd wedi bod ynglŷn â gweithredoedd da – rhai yn eu gweld fel ffordd i ennill ffafr Duw ac eraill yn eu gweld yn amherthnasol yng ngoleuni ei ras a’i gariad rhyfeddol. [...]

Diwrnod 3 tymor y Garawys

Dywedodd rhywun wrtha i ei fod yn teimlo fod y blog wedi mynd yn grefyddol iawn yn ddiweddar. Doedd dim awgrym o feirniadaeth dwi’n siŵr, dim ond datganiad ffeithiol. Wel, mae hynny’n wir – mae yn dymor y Garawys wedi’r cwbl – ond roeddwn i’n teimlo fod ‘na ryw awgrym o’r angen am ymddiheuriad, neu [...]

Diwrnod 2 tymor y Garawys

Dwi newydd orffen darllen pennod 18 “Crist Iesu ein sancteiddrwydd” allan o lyfr R. Tudur Jones Yr Ysbryd Glân.

Meddai’r awdur, “Un o gyfraniadau gwerthfawr y Diwygiad Methodistaidd oedd pwysleisio pwysigrwydd cymundeb cyson â Christ fel amod tyfu mewn sancteiddrwydd — gwers a ddysgir yn fuan iawn wrth astudio emynau Williams Pantycelyn. Dyma arwyddocâd cariad [...]

Dydd Mercher y Lludw a'r Garawys

Mae heddiw yn ddydd Mercher y Lludw a dwi newydd ddychwelyd o wasanaeth y Cymun bendigaid yn Eglwys y Drinod. Roeddwn i’n darllen y darlleniadau o’r Hen Destament a’r Newydd. Roedd yn wasanaeth arbennig iawn ar gyfer dechrau’r Garawys – nawr mae’n rhaid imi wneud yn siŵr fy mod yn parhau i gadw’r Garawys tan [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (11): 2009-08-20

Roedd heddiw yn fwy o bererindod nag o wyliau wrth inni fynd i’r gogledd unwaith eto. Y tro hwn yr oeddem yn aros yn agos at y glannau gan ein bod yn teithio tuag at Holy Island, neu, Lindisfarne, oddi ar arfordir Northumberland. Mae’n anodd disgrifio pwysigrwydd y lle hwn yn iawn yn hanes gogledd-ddwyrain [...]

Y Parchedig Bill Roberts yng Nghymru

Dros y penwythnos a aeth heibio cefais i brofiad amheuthun o gyfarfod a thrafod sefyllfa’r Gymraeg a Christnogaeth yng Nghymru gyda’r Parchedig Bill Roberts. Ar yr olwg gyntaf mae hynny’n swnio fel penwythnos arferol a chyffredin – ond yr hyn a oedd yn wahanol yw fod Bill Roberts yn rheithor Eglwys Esgobol S. Gregory yn [...]

Birmingham 2009-04-14 (3)

Roedd y prynhawn yn fwy o antur fyth. Yn ôl ar y bws tuag at ardal Highgate, rhyw gilomedr i’r de ddwyrain o ganol y ddinas. Yr hyn oedd wedi’n denu ni i Highgate oedd taflen a gawsom mewn canolfan croeso yn rhestru adeiladau hanesyddol a phensaernïol ddiddorol y ddinas. Pan welodd RO fod Mosg [...]

Dydd y Pasg 2009

Dwi’n dechrau ysgrifennu hyn yn Eglwys y Santes Fair wrth ddisgwyl i’r gynulleidfa gyrraedd ar gyfer gwasanaeth y Cymun Bendigaid am 8. Roedd y dref yn dawel iawn y bore ‘ma wrth gerdded i’r eglwys – dim ond yr adar a pheiriant glanhau y cyngor.

Mae’r eglwys wedi’i haddurno gyda blodau ac mae eu gwynt [...]

Rhaid ffeithiau Pasgaidd

Un o’r cwestiynau wnaeth rhywun ofyn imi heddiw oedd pam fod dyddiad y Pasg yn newid o flwyddyn i flwyddyn a Nadolig wastad ar 25 Rhagfyr. Yr ateb syml yw fod dyddiad y Pasg yn dibynnu ar y lleuad. Mynnodd Cristnogaeth ddal wrth yr arfer Iddewig o ddilyn cwrs y lleuad wrth bennu’r dyddiad hwn. [...]

Yr Athro Gwyn Thomas yn traddodi Darlith D J James 2009

Dwi newydd ddod adref i Blas-yn-Dogfael o ddarlith gan yr Athro Gwyn Thomas. Ef oedd yn traddodi Darlith D J James, Pantyfedwen, eleni. Traddodwyd y cyntaf o’r darlithoedd hyn ar bynciau crefyddol yn 1961. Bellach traddodir y ddarlith bob dwy flynedd ac am yn ail yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Roedd y ddarlith eleni yn [...]

Jan van Ruusbroec

Un o’r pethau diddorol wnes i eu gweld o gerdded o gwmpas yr eglwys gadeiriol oedd capel wedi’i neilltuo i anrhydeddu Jan van Ruusbroec.

Ganwyd Jan ym mhentref Ruisbroek, sydd heddiw y tu fas i ffiniau Brwsel yn Sint-Pieters-Leeuw yn sir Vlaams-Brabant, tua 1293. Bu farw yn 1381. Yr oedd yn un o gyfrinwyr blaenaf [...]

Gwasanaeth carolau 2008

Fel y dywedais yn gynt er taw’r Trydydd Sul yr Adfent oedd hi ddydd Sul roeddem ni yn Eglwys y Santes Fair yn cynnal ein gwasanaeth carolau blynyddol. Mae hyn yn digwydd cyn y Nadolig ers i mi gofio. Holodd ffrind pryd ddechreuwyd gwneud hyn, sef “dathlu” Nadolig cyn y Nadolig. Mae’n siŵr gen i [...]

Lansio cyfrol R Geraint Gruffydd

Ddydd Sadwrn diwethaf cefais y fraint o fynd i gyfarfod i lansio cyfrol o waith yr Athro R Geraint Gruffydd, sef Y ffordd gadarn. Mae’r gyfrol yn gasgliad o’i ysgrifau poblogaidd yn bennaf ar grefydd a llenyddiaeth, ond ar rai pynciau cyffredinol eraill. Golygwyd y cyfrol gan y Dr E Wyn James ac chaiff ei [...]

Paratoi i ddathlu’r Nadolig

Yn swyddogol nid yw’r eglwys yn dathlu’r Nadolig tan 25 Rhagfyr, ond mae’n gwneud hynny gyda steil gyda chyfnod estynedig o wyliau yn gorffen gyda Gŵyl yr Ystwyll ar 6 Ionawr. Cyn hynny mae’r eglwys yn cadw Tymor yr Adfent sydd yn draddodiadol yn gyfnod tebyg i’r Garawys lle mae edifeirwch a hunan ymholi yn [...]

Parti Nadolig CSCA 2008

Wedi’r cyfarfod o’r Cyngor Tref fe es i Ganolfan Morlan ar gyfer parti Nadolig Cymdeithas Staff Cristnogol Aberystwyth (CSCA). Dwi ddim wedi bod yn un o weithgareddau’r Gymdeithas o’r blaen ond gan fy mod i wedi rhoi sgwrs i’w haelodau ryw wythnos neu ddwy yn ôl ar drysorau Cristnogol y Llyfrgell Genedlaethol roeddwn i wedi [...]

Carolau tan Gannwyll Ffagl Gobaith

Nos Fawrth fe fues i mewn gwasanaeth Carolau tan Gannwyll wedi’i drefnu gan Ffagl Gobaith yn Eglwys S Mihangel, Aberystwyth. Roedd yn wasanaeth hyfryd gyda nifer o bobl lleol yn cymryd rhan. Canwyd carolau Cymraeg a Saesneg ac roedd hi’n noson ddwyieithog. Roedd dau gôr yn canu: Côr Ysgol Gymraeg Aberystwyth a Chôr Madrigal Prifysgol [...]

Emynwyr Aberystwyth

Drannoeth fy nghyflwyniad i ar Drysorau Cristnogol y Llyfrgell Genedlaethol roeddwn i mewn sgwrs arall, am Emynwyr Aberystwyth y tro hwn. Digwyddodd y sgwrs yn Eglwys y Santes Fair a’r un oedd yn traddodi oedd Delyth G Morgans. Ni allem ni fod wedi dod o hyd i neb gwell i wneud y gwaith hwn gan [...]

Trysorau Cristnogol

Dwi’n siŵr fod pawb ar ryw adeg neu’i gilydd wedi cael yr un profiad ag y cefais i yr wythnos diwethaf. Roeddwn i wedi addo gwneud rhywbeth yn dalog a difeddwl ac yna dim ond sylweddoli fy mod wedi gwneud llwyth o addewidion eraill ar gyfer yr un wythnos pan roedd hi’n rhy hwyr – [...]

Gofwy archddiacon Ceredigion, 2008

Nos Lun diwethaf fe ddaeth eglwyswyr Ceredigion at ei gilydd yn Eglwys S Mihangel ym mhlwyf Aberystwyth ar gyfer y gofwy’r archddiacon. Mae archddiaconiaeth Ceredigion yn ymestyn o Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro hyd at ogledd Ceredigion. Mae’r gofwy yn adeg pan fydd wardeniaid newydd yn gwneud y datganiadau angenrheidiol ar gyfer cymryd eu swyddi [...]

Mae esgobion yn mynd yn iau a finnau’n mynd yn hen

Wel, fe gafodd esgobaeth Bangor John fel esgob newydd, ond Andy ac nid Jeffrey. Mae’n rhyfedd sut mae’r pethau yma yn digwydd. Mae’n siŵr bod gan y ddau ohonyn nhw rhyw gysylltiad â Sir Benfro gan taw cyfenw Penfroaidd yw John. Dwi’n gwybod fod Jeffrey John yn dod o Donyrefail yn wreiddiol ond dwi ddim [...]