Archifau categorïau: Cwpan y Byd 2006

Dyfeisio newyddion

Nos Wener diwethaf ar raglen Newsnight ar BBC2 fe wnaeth newyddiadurwr fynd ati i greu newyddon trwy wisgo car mewn paraffernalia cefnogwyr tîm pêl-droed Lloegr a’i yrru o gwmpas dinasoedd yr Alban mewn ymdrech i brofi faint o ‘gasineb’ oedd tuag atynt. Bu’r newyddiadurwr yn destun llawer o dynnu coes a sylwadau digon pigog, ond [...]

Poethdon

Dwi’n ofni taw’r gwres mawr yw fy esgus i am esgeuluso’r blog dros y dyddiau diwethaf. Roedd hi, ac mae’n dal i fod yn boethdon swyddogol mewn rhai ardaloedd, ond dwi ddim yn credu fod hynny’n wir am Aberystwyth. Dwi ddim yn gwybod a oedd hi’n ‘boethdon’ swyddogol yn Aberystwythroedd hi’n rhy dwym i fi [...]

Rhyddhad

O’r diwedd dwi’n dechrau mwynhau cystadleuaeth Cwpan y Byd 2006. O’r herwydd dwi’n siŵr taw gêm Brasil yn erbyn Ffrainc oedd y gorau imi weld hyd yn hyn. Wrth gwrs, erbyn hynny roedd y cwmwl mawr du a oedd yn bygwth diflasu pethau wedi diflannu wrth i Loegr golli i Bortiwgal ar giciau o’r smotyn. [...]

Y faner yn dal i hedfan

Diolch i’r canlyniad yn erbyn Ecuador mae baner Lloegr yn dal hedfan yng Nghwpan y Byd. Roedd ‘na rai baneri, crysau-T, &c. o gwmpas ddydd Sul, ond yn llai na’r hyn roeddwn i wedi’i ddisgwyl. Heddiw fe welais i gar yn gyrru heibio gyda baner Lloegr a baner Cymru yn chwifio o’r to. Yn anffodus [...]

Beth sy’n digwydd yng Nghrymych?

Dwi ddim yn darllen y Teifiseid, papur gogledd ddwyrain Sir Benfro a de Ceredigion yn aml iawn y dyddiau hyn. Ond fel mae’n digwydd dyma fi’n taro ar draws copi ddoe yn ystafell de Cambria. A’r sioc ges i o ddarllen y newyddion diweddaraf o Grymych! Dyma sut roedd y Teifiseid yn adrodd yr hanes [...]

Baner Lloegr mewn trafferth … yn yr Alban

O dan y pennawd Vandals try to burn England flag mae gwefan newyddion y BBC yn adrodd hanes yr hyn a ddigwyddodd i faner S. Siôr yn Kirkcudbright, swydd Dumfries and Galloway. Mae’n ymddangos bod baneri nifer o wledydd yn hedfan yn y stryd fawr ond dim ond baner Lloegr a gafodd ei difa. Rhyfedd, [...]

Michael Owen a Lloegr

Gêm gyfartal 2-2 gafodd Lloegr gyda Sweden neithiwr. Felly mae Lloegr wedi mynd i’r rownd nesaf ar ben y grŵp ac yn dod wyneb yn wyneb â thîm Ecuador. Fe gafodd Michael Owen ei gario o’r cae wedi anaf. Roedd yn edrych mewn poen ofnadwy, roeddwn i’n gwingo mewn cydymdeimlad. Wedyn wrth i mi ystyried [...]

Baneri Lloegr yng Nghymru

Ar fy nheithiau ddoe ac echdoe fe ddes i ar draws mwy o dystiolaeth i bresenoldeb cefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yng Nghymru. Efallai yr esiampl fwyaf eithafol oedd tŷ ym Mhont-goch lle’r roedd pedair baner S. Siôr enfawr yn hedfan. Roedd ‘na dai hefyd ym Mhenrhyn-coch a Llanbadarn Fawr lle’r oedd baner Lloegr yn [...]

Baner Lloegr yn y glaw

Echdoe fe gefais fy hun yn dilyn car yn chwifio baner Lloegr trwy ganol Aberystwyth. Roedd hi’n bwrw glaw. Dyma rannu’r profiad gyda chi. Hoffwn esbonio i bawb sy’n poeni am faterion iechyd a diogelwch nad fi oedd yn gyrru’r car oedd yn dilyn y car gyda baner Lloegr arno.
Lawrlwytho’r ffeil
Tagiau Technorati: Cwpan y Byd [...]

Cwpan y Byd - chwarae’n troi’n chwerw yn Aberystwyth

Dwi’n gwybod nad yw’n beth aeddfed i’w wneud ac fe ddylai pobol fod goruwch y fath deimladau, ond mae presenoldeb cymaint o nwyddau a thrugareddau di-werth ar gyfer cefnogi tîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd 2006 yn cythruddo rhai pobol. Fe welais dystiolaeth o hyn gyda fy llygaid fy hun heddiw a hynny ar [...]