Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (5)

Dywedodd DJP ei fod wedi cyfarfod â rhywun ar faes yr eisteddfod ddydd Sadwrn oedd yn darllen Blog Dogfael ac yn siomedig nad oedd lluniau o siopau Spar yn ymddangos yn gyson ar y blog bellach. Diolch byth fod Spar lleol Illtud Sant yn dal i sefyll yn Llanilltud a bod gyrrwr y car yn [...]

Lansio “Aber”

Neithiwr fe fues i mewn noson hyfryd a noson arbennig, sef lansiad “fy nghyfrol gyntaf”. Yn anffodus rydw i’n rhannu’r gyfrol gyda chwech o bobol eraill, ond o leiaf mae fy enw i yn y llyfr ac fe alla i alw fy hun yn awdur o hyn mas.

Cynhaliwyd y lansiad yng nghanolfan newydd-addasedig Arad Goch [...]

Dysgu colli

Roeddwn i ffwrdd am dipyn yr wythnos diwethaf a fe ddes i yn ôl i fwrlwm cystadleuaeth cân Eurovision ac felly dwi heb gael cyfle i drin a thrafod dau beth pwysig a ddigwyddodd – rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop ac isetholiad Crewe a Nantwich.

Roeddwn i’n teithio’n ôl ar y trên i Aberystwyth pan roedd [...]

Uwchraddio meddalwedd

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod o ‘ofid’ wrth imi uwchraddio’r feddalwedd sy’n gyrru Blog Dogfael. Dwi’n gobeithio’n fawr nad yw wedi amharu ar dy fwynhad, ond ar un adeg cefais ofn fy mod wedi colli popeth. Ond nid felly yr oedd hi, fe ddes i o hyd i ddatrysiad ac mae’n edrych fel petai [...]

Diwrnod yr etholiad

Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi cau ac mae pawb yn disgwyl am y cyfri a’r canlyniadau. Bues i y tu fas i orsaf bleidleisio ward Canol Aberystwyth am y rhan fwyaf o’r dydd, ond gyda’r nos bues i mewn gwasanaeth ar gyfer Dydd Iau’r Dyrchafael.

Dwi ddim yn gwybod faint sydd wedi bod yn pleidleisio yn gyffredinol, [...]

Blog arall am gyfarfod gydag awdur Broch yng nghod

Dyma fi’n adrodd hanes cyfarfod gyda’r blogiwr Robert Humphries (Broch yng nghod), a rhai sylwadau ychwanegol am wleidyddiaeth a barfau.

[Audio clip: view full post to listen]

(Dim pleidlais eto)

Diolch i’m barf!

Digwyddodd rhywbeth rhyfeddol unwaith eto ddoe oherwydd fy marf. I’r rhan fwyaf mae barf yn beth hyll sy’n milwrio yn erbyn hylendid wynebol. Ond i mi mae’n nod pwysig i’m gwahaniaethu oddi wrth weddill y ddynoliaeth ac, fel y dywedais, profwyd gwerth fy marf unwaith eto ddoe. Roeddwn i wrthi’n cael cinio yn y Llyfrgell [...]

Pleidleisiwch i fi!

“Ble mae dy flog di wedi mynd?” yw’r cwestiwn dwi’n ei gael amlaf y dyddiau hyn. Wel, dwi’n ofni i ddweud taw cyfuniad o brysurdeb, salwch, crefydd a gwleidyddiaeth sy’n gyfrifol am dawelu fy llais blogaidd. Yn y lle cyntaf bues i’n teimlo’n dost gyda chric yn fy ngwddf am dri neu bedwar diwrnod. Roedd [...]

Newid gwefan Eglwys y Santes Fair

Un rheswm dros fy nhawelwch cymharol ar y blog dros y diwrnodau diwethaf yw fy mod wedi bod yn ail-lunio gwefan Eglwys y Santes Fair. Dwi wedi bod yn arbrofi ers tipyn gyda’r ffordd orau i wneud hynny. Yn y diwedd dwi wedi dilyn llwybr newydd o ddefnyddio’r feddalwedd flogio yr ydw i’n ei defnyddio, [...]

Chwarae gyda fy nhegan newydd

Arbrawf yw hyn gyda dull newydd o osod ffeiliau sain ar y blog. Felly does gen i ddim byd mawr i’w ddweud, yr hyn sy’n gyffrous yw’r dull o’i gyflwyno a’r dechnoleg dwi’n ei ddefnyddio. Os wyt ti’n cael problem clywed beth sydd gen i i’w ddweud gad imi wybod. Gelli gysylltu gyda mi o’r [...]

Dydd Gŵyl Dewi llawen i bawb!

Dydd Gŵyl Dewi llawen i holl ddarllenwyr Blog Dogfael!

Sylwadau ar sylwadau

Dwi’n teimlo fy mod wedi derbyn tipyn o anrhydedd yr wythnos hon. Nos Wener yn y cwis yng Nghlwb Golff Capel Bangor gofynnodd GH, un o’r cystadleuwyr, a oeddwn i wedi darllen Y Cymro yr wythnos honno. Yr ateb onest oedd nad oeddwn wedi’i brynu hyd yn oed, ond wnaeth y sefyllfa ddim aros fel [...]

Nadolig Llawen 2007

Mae Dogfael yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr Blog Dogfael ac hefyd i’r rhai nad ydynt yn ei ddarllen.

Ffeil MP3

(3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.67 allan o 5)

Hunanoldeb y blogiwr

Mae ‘na lawer o bobl sy’n credu taw dim ond esgus am hunan-hyrwyddiad hunan-ganolog ac egotistaidd yw gweflog. Ac er mwyn profi’r beirniaid hynny’n gywir dyma 12 hunan bortread y tynnais i yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth heno gan ddefnyddio’r camera ar fy ffôn symudol.

Rhagor o luniau o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

(1 yn pleidleisio, [...]

Sinterklaasdag llawen i holl ddarllenwyr Blog Dogfael

Dydd San Nicolas, Sinterklaasdag, llawen i bawb! A dyma Sinterklaas ei hun wedi dod i ddweud ho! ho! ho!

Hanner miliwn o eiriau yn ddiweddarach

Dwi ddim yn gwybod faint o ddarllenwyr Blog Dogfael sy’n sylwi ar yr adran Rhai ystadegau am y blog. Fan ‘ny fe welwch faint o gofnodion a faint o eiriau dwi wedi’u hysgrifennu. Heno dwi wedi cyrraedd carreg filltir bwysig iawn. Ers imi ddechrau blogio ar 20 Ionawr 2005 dwi wedi ysgrifennu 500,000 o eiriau, [...]

Blog Dogfael yn y Western Mail

Doeddwn i ddim yn disgwyl y sylw ond fe wnaeth Lefi Gruffudd gyfeirio at Flog Dogfael yn ei golofn yng nghylchgrawn y Western Mail ddydd Sadwrn. Mae’n dda gwybod fod o leiaf un sy’n darllen Blog Dogfael; fe wnaeth byd o les i fy ego. Roeddwn i wedi mentro cyfeirio at hysbyseb uniaith Saesneg gan [...]

Hwyl fawr Menzies a diolch am yr yogh!

Dim ond diwrnod neu ddau yn ôl fe glywsom ni fod pob un aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi’r arweinydd, Menzies Campbell. Roedd hynny’n arwydd pendant nad oedd pethau’n dda iawn yn yr ardd. O fewn pedair awr ar hugain roedd Menzies Campbell wedi ymddiswyddo. Ffarwél felly i’r dyn oedd yn enwog yn fy [...]

Gordon Brown yn cymhlethu fy mywyd

Dwi’n gwybod bod rhai yn ofni bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i Dogfael a dyna pam nad oes cofnodion newydd wedi ymddangos ar Flog Dogfael ers bron i bythefnos. Mewn ffordd o siarad mae rhywbeth ‘ofnadwy’ wedi digwydd – dwi wedi bod yn rhy brysur i feddwl am ysgrifennu fy mlog. Dwi wedi bod yn [...]

Dechrau hiraethu am y gwyliau yn barod

Dwi’n ôl o fy ngwyliau ers wythnos, ond mae hi wedi bod gyda’r wythnos brysuraf dwi’n ei chofio o ran bod â dyletswyddau i’w gwneud. Ond o’r diwedd heno mae gen i ryw bum munud yn dilyn cyfarfod i nodi fy mod wedi cyrraedd adref yn ddiogel a bod gennyf ddigonedd o hanesion i’w [...]