Blog Dogfael» Blog Dogfael

Blwyddyn newydd dda hwyr
Blwyddyn newydd dda hwyr iawn i ddarllenwyr Blog Dogfael. Am ryw reswm, wedi bron i dri mis o dawelwch fe gydiodd rhywbeth ynof fi heno wnaeth ddweud fod yn rhaid imi ysgrifennu pwt unwaith; rhyw reidrwydd i rannu fy meddyliau gyda’r byd i gyd yn grwn, neu o leiaf y rhai sy’n medru darllen Cymraeg, ac sydd â mynediad i’r rhyngrwyd ac sydd dod o hyd i’r safle hwn.

Mae wedi bod yn amser hir ers imi ysgrifennu cofnod ac mae ‘na ddigonedd o resymau dros hynny. Yn bennaf gan fy mod wedi ymadael â Phlas-yn-Dogfael er mwyn symud i fyw i dŷ arall – Llys Dogfael. Nid dyna unig enw fy nghartref newydd, mae rhai yn mynnu ei weld hefyd fel Hafan y Chwyldro.

Symudais i Lys Dogfael ddydd Iau 12 Tachwedd. Dyna un o’r digwyddiadau mwyaf trawmatig yn fy mywyd hyd yn hyn. Roeddwn i’n a’m cyfaill, DML, wedi byw ym Mhlas-yn-Dogfael am yn agos i dair blynedd ar ddeg. Roeddwn i wedi llenwi’r Plas gyda fy nhrugareddau amrywiol a miloedd o lyfrau heb unwaith ystyried beth fyddai goblygiadau gorfod symud. Pan ddaeth y dydd roeddwn i wedi mynd i gasáu popeth oedd gennyf i’w symud. Petawn i wedi bod yn ddewrach a chyfoethocach buaswn i wedi taflu popeth a dechrau gyda llechen lân. Wrth gwrs doedd hynny ddim yn bosib ac felly roedd rhaid dewis a dethol beth i’w gadw a beth i’w daflu; a dyna wnaeth gymryd yr holl amser. Petaswn i wedi taflu popeth neu gadw popeth byddwn i wedi gallu rhoi popeth mewn bocsys a symud. Ond na roedd yn rhaid dewis pethau i’w gwaredu cyn symud.

Wedi symud dwi wedi bod yn parhau i waredu pethau. Mae’r cyfle mae symud i ddad-siwnco fy mywyd wedi bod yn un gwerthfawr. Dwi’n mynd i barhau i ddad-siwnco am beth amser i ddod. Dwi’n ofni fy mod i’n dal fy ngafael ar fy set o biniau caligraffeg, fy mhaent dyfrlliw, a’m pensiliau lliwio… ond mae’r amser i ddod pan bydd yn rhaid i rheiny fynd os na fydda i wedi’u defnyddio am bum mlynedd arall.

Un peth difyr a ddigwyddodd wrth symud oedd dod ar draws ugeiniau o ffotograffau yr oeddwn i wedi anghofio amdanynt ac yn raddol bach dwi wedi bod yn eu sganio. Dyma un o’n hoff rai hyd yn hyn, sef RO a DML yn sefyll y tu fas i’r tŷ yn Nhreorci, y Rhondda lle cafodd Euros Bowen ei eni. Mae ychwaneg o bethau difyr felly i ddod.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Pam?
Dwi’n dal i fod yn meddwl am yr unigolyn wnaeth hacio fy mlog dros nos. Dwi ddim yn deall pam, ond mae ‘na rai pobl sy’n mwynhau bod yn gas ac yn cael pleser o ofidio eraill. Mae hynny wedi digwydd i mi ar y blog cyn hyn gyda sylwadau maleisus yn fy erbyn i ac yn erbyn rhai o’m cyfeillion. Dwi wedi’u dileu fel arfer heb ymateb o gwbl iddynt.

Mae’n anodd gwybod beth sy’n rhoi y mwyaf o bleser i bobl fel hyn – rhywun yn ymateb neu ddim yn ymateb. Dwi’n siŵr nad oes ffordd gywir o ymdrin â’r peth. I mi mae’n well peidio ag ymateb a bod yn amyneddgar a goddefgar. ‘Dioddef’ yn ddistaw.

Efallai bod rhai yn credu fod defnyddio gair fel ‘dioddef’ i ddisgrifio sylwadau maleisus neu filain ar flog fel gorymateb. Ond weithiau mae geiriau yn medru gwneud dolur. Wrth gwrs, mae’n dibynnu pa hwyl sydd arna i a beth sy’n digwydd o’m cwmpas. Fel arfer dwi’n medru cysuro fy hun wrth feddwl pa mor wag a diwerth yw bywyd rhywun sydd yn treulio’i amser yn gwneud rhywbeth o’r fath yn hytrach na rhywbeth positif a gwerthfawr.

Bryd arall, pan fo popeth yn mynd o’i le, mae un gair cas yn medru gwneud imi ildio’n llwyr i hunan dosturi a theimlo’n fregus iawn. Dwi’n falch nad yw hynny’n digwydd bob amser, ond rhaid cyfaddef fy mod yn teimlo fel hynny weithiau.

Dwi’n ceisio ystyried pobl eraill wrth ysgrifennu fy mlog i a phenderfynu a fydd fy ngeiriau i yn brifo neu’n gofidio pobl. Dwi’n ymwybodol weithiau nad ydw i’n penderfynu’n iawn. Dwi’n gofyn i’r rhai dwi wedi eu hypsetio yn y gorffennol i faddau imi.

Fe wnes i flogio beth amser yn ôl ar y Deg gorchymyn ar gyfer blogwyr. Mae gorchym 6 yn dweud fel hyn: Na ladd anrhydedd, enw da na theimladau neb arall. Rhaid cofio hynny bob amser.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Cael fy hacio am y tro cyntaf
Mae Blog Dogfael wedi bod yn teimlo’n sâl ers y bore. Dwi’n falch o gael dweud ei fod yn teimlo’n well erbyn hyn. Y bore ‘ma cefais i sioc ofnadwy i weld fod rhyw unigolyn chwerw a gwyrdröedig wedi hacio’r blog a thynnu’r holl gynnwys oddi arno gan adael neges fach fachog – Hacked by Fatal Error. Roedd gweld y geiriau hynny yn ddigon i wneud i mi deimlo’n sâl fel fy mlog. Roeddwn i’n credu fy mod wedi bod yn ofalus ynglŷn â gosodiadau’r ffeilweinyddwr; roeddwn i wedi dilyn y cyfarwyddiadau. Eto i gyd fe lwyddodd yr annymunolyn â gwneud ei ddrygwaith. Dwi wedi llwyddo i ail-osod pethau, dwi wedi llwyddo i gael popeth yn ôl fel yr oedden nhw. Dwi ddim yn gwybod faint yn rhagor y galla i ei wneud i amddiffyn y blog. Ond fydda i ddim yn dawel fy meddwl gan ei bod yn ddigon posib fod rhyw ddrwg yn dal i fod yng nghaws y blog a bydd y cynnwys wedi diflannu cyn y bore unwaith eto ac mae’n ddigon posib y bydd hi’n amhosib imi lwytho’r cofnod hwn. Cawn weld. Dwi’n dal i deimlo’n sâl.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 (2)
Sweden yw fy hoff gystadleuydd hyd yn hyn gyda’r nodau uchel a’r ffrog wen, ond dwi’n gobeithio fod pethau’n mynd i wella neu fe fydd hi’n noson ddiflas.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Birmingham 2009-04-13 (3)
Un o’r pethau roeddwn i am ei wneud yn Birmingham oedd mynd i’r arddangosfa yn yr Oriel i weld yr arddangosfa arbennig i nodi canmlwyddiant a hanner marwolaeth y dyfrlliwiwr David Cox (1783-1859). Cafodd ei eni yn Birmingham ond yn Llundain y gwnaeth enw iddo’i hun fel arlunydd  yn gweithio mewn dyfrlliw. Wedi cyfnod yn Llundain a Henffordd fe ddychwelodd i Birmingham ac fe droes i weithio mewn olew ac ymroi i baentio yn amser-llawn. Gydol ei fywyd proffesiynol bu’n ymweld â Chymru, ond wedi iddo ddychwelyd i Birmingham tua 1841 bu’n ymwelydd cyson iawn hyd ei farw. Yr oedd Betws-y-coed yn atyniad mawr iddo.

Fe wnes i fwynhau’r arddangosfa, ac roedd hi yn arddangosfa ar raddfa fawr iawn yn dwyn ynghyd gweithiau o nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, ac wrth gwrs casgliad helaeth Oriel y Ddinas, Birmingham, ei hun. Roedd yn gyfle i weld darnau o’i waith nad oeddwn i erioed wedi’u gweld o’r blaen, ond rhaid imi gyfaddef nad oes dim yn rhagori, yn fy marn i, ar y paentiad mewn olew, Rhyl Sands, sydd yn Oriel Dinas Manceinion.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Trafferth wrth drydar
Mae gwasanaeth Twitter wedi bod ychydig yn ansicr dros y dyddiau diwethaf ‘ma. Dwi wedi colli fy holl negeseuon, er bod Twitter yn fy sicrhau taw dim ond dros dro mae hynny. Mae negeseuon eraill yn cyrraedd yn hwyr iawn. Mae’n amlwg fod poblogrwydd y gwasanaeth wedi dod yn dipyn o syndod i bawb, gan gynnwys y perchnogion. Dwi’n gobeithio y byddan nhw’n llwyddo i ddatrys eu problemau cyn bo hir gan fy mod yn hoff iawn o’r gwasanaeth mae’n ei gynnig.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Camgymeriad?
Mae’n rhyfedd taw dim ond ar ôl i ddyn beintio’r ystafell yn biws y mae’n sylweddoli nad efallai taw dyna’r lliw gorau ar gyfer yr ystafell wedi’r cyfan. Os wyt ti’n ymwelydd cyson â Blog Dogfael mae’n siŵr dy fod wedi sylweddoli fy mod wedi bod yn chwarae ychydig gyda sut mae’r blog yn edrych. Mae hyn wedi cymryd tipyn o amser imi ei wneud, a dwi’n ofni fy mod yn dechrau amau a ydw i wedi gwneud y peth iawn. Ond fel gyda phethau newydd mae’n rhaid gadael iddyn nhw ennill eu plwyf; rhaid rhoi amser i’r dyluniad newydd. Dwi’n mynd i roi wythnos cyn penderfynu’n derfynol a ydw i’n difaru ai peidio.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Problemau Blog Dogfael
Diolch yn fawr i ddarllenwyr Blog Dogfael am eu hamynedd. Fe aeth rhywbeth o’i le gyda’r blog yn hwyr nos Wener a thrwy’r rhan fwyaf o ddydd Sadwrn. Fe wnaeth rhyw broses fynd yn sownd ar y gweinydd ac atal pob proses arall rhag digwydd. Felly doedd dim ymateb yn dod i unrhyw oedd yn gofyn am weld Blog Dogfael. Diolch yn fawr i’r rhai wnaeth trydar eu consyrn. Dwi’n gobeithio na fydd yn digwydd eto, ond dwi’n gwybod nad oes sicrwydd o hynny gan ei fod wedi digwydd o’r blaen.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Hwyl fawr Facebook!
Dwi wedi troi fy nghefn ar Facebook. Roedd yn benderfyniad anodd, ond fe ddaeth yn hawdd yn y diwedd. Mae llawer o bethau i’w dweud o blaid Facebook; efallai taw’r peth mwyaf oedd y cyfle i gysylltu gyda rhywrai yr oeddwn i am gysylltu gyda hwy ac heb wneud ers blynyddoedd lawer. Ar y llaw arall roeddwn yn cael llond bol o’r holl negeseuon di-werth am yr holl ddigwyddiadau a grwpiau y gallwn i ymuno â hwy taswn i’n dewis. Dwi’n gwybod y gallwn i ddiffodd y pethau hynny, ond doeddwn i ddim wedi trafferthu gwneud. Y copsi ar fy negyddiaeth oedd yr holl ddadlau ynglŷn â phwy oedd berchen y data ar Facebook, gan gynnwys fy ffotograffau a’r wybodaeth amdanaf fi fel fy nyddiad geni. Fuodd hi ddim yn ddadl hir, ond roedd hi’n danbaid a phwysig, ac yn y diwedd fe enillodd yr ochr iawn, sef yr unigolion a oedd yn defnyddio Facebook, er mae’r pwnc yn parhau i fod yn agored i drafodaeth. Fe’m cythruddwyd i’r fath raddau fel bod hynny wedi fy ngyrru i gau fy nghyfrif. Wel nid cau mewn gwirionedd, (gan nad yw hi’n bosib ichi gau eich cyfrif!) ond ei ‘wyfyn-belu’ hyd nes i ddyn newid ei feddwl. Dwi ddim yn bwriadu gwneud hynny ar hyn o bryd, ond does dim ffordd i ddweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Yn Llundain
Dwi wedi cyrraedd Llundain wedi taith a oedd yn gymharol ddi-boen. Wedi cofrestru yn y gwesty a chael swper a dwi nawr yn gorwedd yn f’ystafell yn darllen De incarnatione gan S. Athanasios, yng nghyfieithiad Euros Bowen. Cyhoeddwyd hwnnw gan Argraffty’r MC, Caernarfon yn 1976. Mae’r dosbarth nos mewn diwinyddiaeth wedi fy ngwneud yn awyddus iawn i ddarllen mwy o waith rhai o’r arweinwyr cynnar.

Bore fory dwi’n cwrdd gyda ffrind sy’n offeiriad yn Eglwys Loegr ac yn gwasanaethu yn esgobaeth Southwark. Wedyn mae gen i waith i’w wneud.

Drannoeth mae DML, RO a DJP yn  ymuno gyda fi yn Llundain am benwythnos gwyllt o ddiwylliant a rhagor o ddiwylliant.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.