Archifau awduron

Cyfarfod blynyddol Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru, 2008-10-04

Mae wedi bod yn gwpwl o ddiwrnodau eithaf prysur i ddweud y gwir. A doedd dydd Sadwrn ddim yn wahanol. Dwi’n aelod o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau; sef grŵp sy’n cefnogi ac yn hybu gwaith y Cyngor sydd yn ei dro yn cefnogi pob agwedd ar y diwydiant llyfrau yng Nghymru ac yn hybu diddordeb [...]

Lansio llyfr ffotograffau John Thomas

Roedd nos Wener yn noson arbennig gan fy mod i wedi cael gwahoddiad i gadeirio noson lansio llyfr am y ffotograffydd John Thomas (1838-1905). Ef yw un o ffotograffwyr pwysicaf ac arloesol Cymru. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn Lerpwl, ond cafodd ei eni a’i fagu yng Nghellan, ger Llanbedr Pont Steffan, ac yng [...]

Cwis yr Adran Gymraeg 2008

Dwi ddim yn gwybod a ydw i wedi bod yn cynnal noson gwis i staff a myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddigon hir i’r peth gael ei ystyried yn draddodiad. Ond dwi’n credu taw eleni oedd fy mhedwerydd cwis a dwi wedi dysgu wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau [...]

Derbyn anrheg am yr eildro

Derbyniais anrheg heddiw yr oeddwn i wedi ei derbyn unwaith o’r blaen dros ddeng mlynedd yn ôl. Yn 1996 roedd cyfaill annwyl wedi rhoi anrheg i mi, sef copi o lyfr James Nicholas ar Waldo Williams yn y gyfres Bro a bywyd. Roeddwn i wedi dwlu ar y llyfr ac wedi’i ddarllen a’i ail-ddarllen drosodd [...]

Soffa ar y stryd

Dydd Sul diwethaf fe welais i soffa ar y stryd yn Aberystwyth. Roedd hi tua 11.30am ac roeddwn i’n cerdded ar hyd Heol y Wig. Dyna ryfedd!

Myfyrwyr!
Rhagor o luniau o’r soffa ar y stryd.

Deg gorchymyn ar gyfer blogwyr

Dros y penwythnos trefnodd y Gynghrair Efengylaidd gymanfa ar flogio Cristnogol yn Llundain. Un o’r pethau a ddaeth allan o’r gymanfa oedd deg gorchymyn ar gyfer blogwyr. Bwriad y gorchmynion yw ceisio gwneud blogwyr yn ymwybodol o effaith posib eu blogio. Mae’r Gynghrair yn croesawu ymateb ac awgrymiadau ynglŷn â’r gorchmynion hyn. Dyma fy ymgais [...]

Nofelau C J Sansom

Dwi’n llawn cynnwrf oherwydd heddiw fe fues i yn Siop Lyfrau Oxfam yn Aberystwyth a chael copi o’r bedwaredd nofel, Revelation, yng nghyfres Shardlake yr awdur C J Sansom. Dechreuais i ddarllen nofelau’r gyfres ‘nôl ar ddechrau mis Awst ac fe wnes i orffen y drydedd nofel rhyw bythefnos yn ôl. Dwi wedi cael blas [...]

Diolchgarwch am y cynhaeaf yn Ystrad Meurig 2008

Nos Sul fe fues i’n pregethu mewn gwasanaeth Diolchgarwch am y Cynhaeaf yn Eglwys S Ioan Fedyddiwr yn Ystrad Meurig. Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad oddi wrth yr eglwys trwy law’r ficer, y Parchg Philip Wyn Davies. Roedd Philip, cyn iddo fynd i’r weinidogaeth ordeiniedig, yn gyd-weithiwr. Daeth ef i Aberystwyth i fynd â fi [...]

Barddas Rhifyn 299/300 Awst/Medi/Hydref 2008

“Barddas newydd – cyfnod newydd” – dyna’r neges ar glawr rhifyn diweddaraf Barddas sydd newydd gyrraedd Plas-yn-Dogfael. Fel arfer dyma un o rifynnau mwyaf difyr y flwyddyn wrth i’r golygydd ac aelodau eraill y Gymdeithas Gerdd Dafod fwrw golwg dros gynnyrch yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r eisteddfod yn bwrw ei chysgod yn drws dros y rhifyn, [...]

Siopau Spar yn Tavistock

Mae dwy siop Spar yn Tavistock, Dyfnaint a diolch i Rob P mae lluniau o’r ddwy ohonynt gen i i’w rhoi ar y blog. Gobeithio y bydd pawb arall yn mwynhau’r lluniau hefyd. Diolch unwaith eto Rob!

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (9)

Gellir gweld fy holl ffotograffau o’r gwyliau yma.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (8)

A dyna ni, wrth ymadael â Pointon a Sempringham roedd ein gwyliau ar ben. Yr unig beth oedd o’n blaenau bellach oedd y daith hir yn ôl i Aberystwyth. Digwyddodd dau beth ar y ffordd. Fe aethon ni yn y lle cyntaf trwy gyrion Grantham ac fe wnes i gymryd hynny fel ein teyrnged ni [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (7)

Wedi ein hymweliad â Sempringham fe aeth Nan a Nigel â ni i’r Old Ship Inn, Pointon i gael cinio. Tra’r oedden ni yno fe gawsom gyfle i weld y llyfrau ymwelwyr y mae’r ddau yn gofalu amdanynt. Roedd ‘na bethau diddorol iawn ynddynt, ond efallai yr un a wnaeth i mi wenu fwyaf oedd [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (6)

Roedd ‘na lawer o bethau bach diddorol i’w gweld yn Eglwys S Andrews, Sempringham ac fe wnaeth Nan a Nigel wneud yn siŵr nad oedden ni’n colli dim. Yn yr eglwys ei hun mae ‘na gornel wedi’i neilltuo ar gyfer croesawu ymwelwyr o Gymru sydd yn dod i weld cofeb Gwenllïan. Er i’r rhan fwyaf [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (5)

Ffenest liw o Eglwys S. Andrews, Sempringham yn dangos dyrchafael gogoneddus ein Harglwydd.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (4)

Cyn mynd ar ein gwyliau roedd Ceris G wedi rhoi rhif ffôn i mi er mwyn cysylltu â Nan a Nigel yn Sempringham. Hwy yw ceidwaid answyddogol cofeb Gwenllïan. Daw Nan yn wreiddiol o Gwm Afan ac mae fel petai hi a’i gŵr wedi cymryd arnynt y gwaith o ofalu am y gofeb a’i dangos [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (3)

Dyma ble mae cofeb Gwenllïan ac Eglwys Priordy Sempringham.
Gweld map mwy o faint

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (2)

Maen nhw’n dweud fod ‘na unigolyn tenau o fewn i bawb tew yn ceisio dod o hyd i’w ffordd mas. Weithiau dwi’n credu fod ‘na frenhinwr y tu fewn i bob gweriniaethwr sy’n ceisio dianc yn yr un modd. Dyna oedd fy mhrofiad i yn Semphringham. Troes dau weriniaethwr rhonc yn frenhinwyr pybyr wrth inni [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (1)

Daeth bore dydd olaf y gwyliau yn ddisymwth yn y diwedd. Fel plentyn ysgol â chanddo waith cartref i’w wneud erbyn y bore ond yn rhyw obeithio nad yw’r bore byth yn mynd i ddod roedd fy meddwl yn credu na fyddai’r gwyliau’n dod i ben. Ond fe ddaeth yr awr pan roedd hi’n rhaid [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-25

Diwrnod hamddenol iawn oedd fy un olaf yn Norwich. Dyna sut ddylai fod o gofio fod y daith yn ôl i Aberystwyth yn mynd i fod yn un hir. Byddai’n golygu mwy o bwysedd ar RO gan taw ef fyddai’n gyrru yr holl ffordd, ond byddai’n rhaid imi fod wrth ei ochr beth o’r amser [...]