Ar fy ffordd i ysgol undydd wedi’i threfnu gan Academi ac Undeb yr Ysgrifenwyr ar sefyllfa beirniadaeth yng Nghymru o dan yr enw Dydd y farn. Mae’n argoeli’n ddiwrnod difyr dros ben gan fod tyrfa o bobl amlwg yn cymryd rhan, yn eu plith mae DML fydd yn adolygu Mr Blaidd gan Llwyd Owen yn fyw ar ran Cylch Darllen Aberystwyth.
Mae’r bore’n agor gyda Gareth Miles yn sôn am ddiffyg trafodaeth feirniadol ar y celfyddydau. Dwi’n edrych ymlaen yn arbennig i glywed Alan Llwyd a Ceri Wyn Jones yn trafod beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol. Ymhlith y bobl eraill sy’n cyfrannu i’r diwrnod mae Jon Gower, Menna Machreth, Siân Melangell Dafydd, Karen Owen, Sioned Williams, a’r Dr. Kate Woodward.
Mae’r cyfan yn digwydd yn y Cambria (yr hen Goleg Diwinyddol Unedig) yn Aberystwyth. Dim ond y bore ‘ma wrth imi fynd i chwilio am fy rhaglen ar gyfer y dydd y sylwais fod y llythyr yn cadarnhau lle i mi yn gofyn am daliad o fewn i’r wythnos. Dwi heb wneud hynny ac felly dwi’n dechrau poeni a fydda i’n medru mynd gan fy mod wedi clywed fod y lle’n llawn. Bydd yn rhaid imi drïo defnyddio fy mhwerau perswâd os bydd problem.



(3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.67 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael