Dwi newydd orffen darllen pennod 18 “Crist Iesu ein sancteiddrwydd” allan o lyfr R. Tudur Jones Yr Ysbryd Glân.
Meddai’r awdur, “Un o gyfraniadau gwerthfawr y Diwygiad Methodistaidd oedd pwysleisio pwysigrwydd cymundeb cyson â Christ fel amod tyfu mewn sancteiddrwydd — gwers a ddysgir yn fuan iawn wrth astudio emynau Williams Pantycelyn. Dyma arwyddocâd cariad at Grist yn y bywyd Cristionogol. Nid meistroli cyfres o ddeddfau moesol y mae Cristionogion er mwyn tyfu mewn daioni ond ymorffwys yng nghariad Crist a syllu ar ei berson.” (tt.80-81)
Buasai myfyrio’n iawn ar y gosodiad hwnnw yn unig yn ddigon mewn gwirionedd i lenwi fy meddwl dros holl dymor y Garawys.
Dywedodd Iesu, “Hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.” (Ioan 17:3)


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael