Dydd Mercher y Lludw a'r Garawys

Mae heddiw yn ddydd Mercher y Lludw a dwi newydd ddychwelyd o wasanaeth y Cymun bendigaid yn Eglwys y Drinod. Roeddwn i’n darllen y darlleniadau o’r Hen Destament a’r Newydd. Roedd yn wasanaeth arbennig iawn ar gyfer dechrau’r Garawys – nawr mae’n rhaid imi wneud yn siŵr fy mod yn parhau i gadw’r Garawys tan ddechrau mis Ebrill a Dydd y Pasg. Efallai bydd rhai yn rhyfeddu at fy nefnydd o “rhaid” mewn cyd-destun y Garawys gan weld hynny yn swnio’n debyg iawn i faich. Ond “rhaid” yn ystyr ei bod hi’n rhaid inni fwyta’n iach, sef gwneud rhywbeth sydd er fy lles a’m daioni.

Y bwrdd sanctaidd yn lliwiau'r Garawys, Eglwys y Drindod

Yn draddodiadol mae’r Eglwys wedi dynodi’r Garawys, y cyfnod o ddydd Mercher y Lludw tan Noswyl y Pasg fel tymor o ddisgyblaeth a hunanymwadiad, a dydd Mercher y Lludw ei hun a dydd Gwener y Groglith yn ddyddiau ympryd. Ond dyna i gyd. Nid oes canllawiau swyddogol yn unman i ddweud beth yw ystyr hynny. Nawr mae’r Eglwys Babyddol wedi datblygu sustem o reoliadau manwl am beth sy’n iawn i’w wneud ar adeg o ympryd, disgyblaetha a hunanymwadiad. A phetai’r Presbyteriaid yn cadw’r Garawys dwi’n ddigon siŵr y buasent hwy hefyd wedi datblygu sustem yr un mor soffistigedig ag un Eglwys Rufain i gyfarwyddo (neu orchymyn) ei haelodau i wneud pethau felly’n iawn.

Ond nid felly yr Eglwys yng Nghymru. Efallai byddai rhai pobl yn dweud fod hynny’n nodweddiadol o eglwyswyr. Gofyn am ympryd, disgyblaeth a hunanymwadiad heb wneud dim ymarferol i’w alluogi. Yn hytrach mae’n rhaid i ddyn chwilio am ei gyfarwyddyd ei hun; ei ffordd ei hun o gadw hyn. Mae rhai yn troi at eglwysi eraill i weld sut maen nhw’n gwneud pethau, ond eleni dwi wedi gosod fy nisgyblaeth fy hun. A disgyblaeth bositif yw hi.

Yn gyntaf rwyf am sicrhau fy mod yn ail-ddarllen cyfrol ragorol R Tudur Jones ar Yr Ysbryd Glân (1972). Mae 216 o dudalennau yn y llyfr, felly mae’n golygu y bydd yn rhaid imi ddarllen rhyw chwech o dudalennau’r dydd os am gadw at fy nisgyblaeth. Fel mae’n digwydd dechreuais ail ddarllen rhyw bythefnos yn ôl; ond nawr bydd gennyf nod i fi fy hun.

Yr ail beth dwi am wneud yw gwneud yn siŵr fy mod yn dod wyneb yn wyneb â’r byd mae Duw wedi’i greu yn fwy cyson trwy gerdded bob nos. Bydd hynny er fy lles corfforol yn bendant. Ond bydd hefyd er fy lles ysbrydol gan y bydd yn rhoi amser imi fyfyrio a gweddïo mewn cyd-destun gwahanol i’r arfer.

Yn drydydd dwi am wneud pethau sydd yn mynd i alluogi Duw fy newid i fod yn fwy tebyg i’r hyn mae ef am imi fod. Fe wnaeth yr awdur Julie Clawson grynhoi’r peth yn dda iawn ar ei blog onehandclapping. Fel hyn meddai hi:

I’ve come to learn that in order to become more fully the person God wants me to be, I instead need to make sacrifices that actually allow me to achieve those ends. Often those sacrifices are less about personal denial, and more about following disciplines that encourage me to love others more. In the past I’ve attempted to eat more ethically or shop fairly — which of course required discipline and sacrifice on my part (and a bit of denial as well), but the outcome of these outwardly focused changes was far more personally transformative than if I had just eliminated something from my life for forty days.

So for me the question for Lent is not “what am I giving up?” but instead “what can I do to allow God to transform me this season?” The answers to those questions might be the same for some people; for me, changing the question shifted how I observed Lent. Whatever the case, I think it is important to understand what the ultimate purpose is behind why we engage in certain disciplines unless we miss their very point.

Felly dyna fy nod. Ond gan taw meidrol ydw i dwi’n gwybod hyd ar ddydd Mercher y Lludw taw methu dwi’n mynd i’w wneud. Ond mae’r Garawys yn baratoad i ddathlu’r hyn a wnaeth Duw i drawbewud fy methiant i yn fuddugoliaeth a’m gwendid yn nerth.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>