Bues i yn stiwdio’r BBC yn Aberystwyth heddiw. Roeddwn i’n gwneud pwt ar gyfer dwy raglen radio. Yn y lle cyntaf roeddwn i’n recordio darn ar gyfer y rhaglen Blas yn ymwneud â thraddodiadau Dydd Mawrth Ynyd, yn benodol yr arfer o fwyta crempogau fel ffordd o waredu unrhyw fwyd ‘gwaharddedig’ o gypyrddau’r gegin ar drothwy’r Garawys. Dwi ddim yn siŵr pryd fydd hynny’n cael ei ddarlledu.
Roeddwn yn y stiwdio hefyd i adolygu llyfr ar raglen Nia Roberts. Y llyfr o dan sylw oedd Naw mis gan Caryl Lewis. Fy nghyd-adolygydd oedd Bethan Mair. Roedd hon yn rhaglen fyw. Dyma’r llyfr oedd o dan sylw yn y cyfarfod diwethaf o’r Cylch Darllen; ond doeddwn i ddim wedi llwyddo i ddarllen y nofel erbyn hynny. Fe brynais i’r nofel yn y noson lansio yn siop lyfrau Inc cyn y Nadolig ac fe es i a’r nofel gyda fi ar fy ngwyliau Nadolig i Birmingham. Ond doeddwn i ddim yn medru ymgolli ynddi o gwbl, ac fe roes heibio unrhyw ymgais i’w darllen. Ond wedi’r Cylch Darllen dyma ail-gydio ynddi ac ar ôl ychydig cael fy hun yn troi o dudalen i dudalen.
Fy mhroblem i oedd y ffaith fod y nofel yn symud o’r byd hwn i’r arhosfyd bob yn ail bennod. Yr arhosfyd yw’r cyflwr hwnnw rhwng bywyd a marwolaeth sy’n cael ei alw weithiau’n Hades, neu Drigfan y meirw. Yno mae prif gymeriad y nofel, Cara, yn ‘byw’. Cafodd Cara ei saethu ac mae’r nofel yn mynd o’r byd i’r arhosfyd i adrodd ei hanes hi a hanes ei theulu sydd wedi ei goroesi. Yr hyn sy’n synnu dyn am yr arhosfyd yw pa mor debyg yw i’r byd hwn – bwyta, yfed, gweithio, cysgu, mynd at y doctor, caru, &c. Roedd hyn yn broblem i mi wrth gychwyn darllen y nofel am y tro cyntaf. Ond wrth ail-gydio ynddi fe wnes i adael i hynny beidio â’m poeni ac fe wnes i fwynhau’r profiad.
Mae’r stori yn un digon trist. Mae Cara yn cael ei saethu ac rydyn ni’n dilyn ei hanes hithau a hanes ei theulu yn ceisio dygymod â’r peth. Mae hi yn yr arhosfyd. Rydyn ni’n dilyn troeon bywyd ei mam, ei llystad a’i hanner brawd wrth iddynt fethu yn hynny o beth. Mae’r awdur yn ein harwain trwy eu poen a’u trallod mewn modd sensitif ond cwbl gredadwy. Wrth wneud hynny mae’n cyffwrdd â themâu megis ymateb cymdeithas i drais o’i mewn – vigilantes. Mae hefyd yn dangos sut mae diflaniad (marwolaeth) plentyn yn rhoi straen ar berthynas gŵr a gwraig gyda’r naill yn gweld bai ar y llall, ac yn dannod i’w gilydd eu rhan nhw yn y diflaniad.
Creadigaeth Caryl Lewis yw’r arhosfyd ac mae’n ddifyr gweld sut mae hi’n darlunio trigfan y meirw. Mae’r awdur yn dweud ei bod yn cymryd naw mis i ddygymod â galar ac mae’n dychmygu fod eneidiau (y rhai cyfiawn?) yn trigo yn yr arhosfyd am y naw mis hynny cyn eu bod yn mynd ymlaen i rywle arall. Mae’r naw mis hyn yn adlewyrchu naw mis y plentyn yn y groth, wrth gwrs. Fel dwi wedi dweud yn barod yr hyn a’m synnodd i yw pa mor debyg i’n byd ni yw’r arhosfyd. Ar brydiau roedd yn rhy debyg ac ar brydiau roedd yr awdur yn rhoi gormod o fanylion i ni. Ond roedd ‘na bethau diddorol yno hefyd. Roedd y syniad fod llyfrgell yn yr arhosfyd yn cadw llyfr yn adrodd hanes pawb oedd yn mynd trwyddo i’r rywle arall yn un dychmygus. Felly hefyd yr ysgogiad i’r rhai sydd yn yr arhosfyd geisio rhoi arwyddion i’n byd ni eu bod yn dal i fodoli.
Dwi’n falch o fedru dweud taw nofel obeithiol yw Naw mis yn y diwedd. Mae’r teulu yn llwyddo i oroesi ac mae Cara, y lladdedig, yn dod o hyd i’r tangnefedd y mae hi wedi bod yn ei ddeisyf. Mae’r adrodd yn syml ac yn uniongyrchol ond mae hynny’n cuddio haenau o ystyron.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael