Newid persbectif ar bethau

Yn y mapiau cynnar, fel y Mapa mundi yn eglwys gadeiriol Henffordd, mae daearyddiaeth y byd yn cael ei ddehongli yn gysyniadol. Yn Jerwsalem y digwyddodd y peth pwysicaf erioed – ymgnawdoliad Duw, aberth iawnol y groes a’r atgyfodiad – felly mae’n rhaid taw dyna’r lle pwysicaf a’r lle a ddylai fod yng nghanol y byd. Felly Jerwsalem yw canolbwynt y ddaear. Yn yr un modd llwyddodd Prydain Fawr a’i hymerodraeth i ystumio’r mapiau yn yn un ffordd. Y tro hwn wrth foddi’r ddaear mewn môr o goch yn dynodi ei thiriogaeth ar bob cyfandir.

Rhaid i mi gyfaddef ar fy map personol i o’r bydysawd taw Plas-yn-Dogfael oedd yn y canol ac roeddwn yn dueddol o fesur pobman yn ôl y pellter oddi yno. Ac er ‘mod i wedi symud oddi yno ers deufis bellach dwi’n dal i deimlo rhyw hiraeth am y Plas, ond nid hanner cymaint ag yr oeddwn i wedi’i ofni yn wreiddiol.

Pan ddechreuais feddwl am symud o un ochr i dref Aberystwyth i’r llall fe wnaeth hynny fy llenwi â gofid. Byddai’r llefydd roeddwn i’n gyfarwydd â hwy gymaint â hynny yn bellach bant. Ond fel mae’n digwydd (a doedd dim angen gradd prifysgol i ddeall hyn) golygai hefyd fod llefydd eraill gymaint a hynny yn nes!

Rhaid dweud fod symud wedi newid fy mhersbectif ar Aberystwyth bron â bod yn llwyr: mae’n dref newydd i mi ac mae hynny’n beth cyffrous. Roeddwn i wedi byw yr ochr hon i’r dref flynyddoedd yn ôl pan yn fyfyriwr. Bryd hynny roeddwn ddeng mlynedd ar hugain yn ifancach ac yn fwy ffôl o lawer. Nawr dwi’n gorfod mynd heibio i dafarn y Cŵps i fynd i dref heb alw i mewn bob tro fel yr arferwn ei wneud. Nawr dwi’n cerdded ar hyd Rhodfa’r Gogledd tua’r de gan edrych i fyny i gyfeiriad y Stryd Fawr. Mae’n fyd gwahanol; mae wedi’i droi ar ei ben.

Mae wedi gwneud byd o les i mi symud dim ond i’m hatgoffa fod ‘na ffordd arall o edrych ar bethau. Wrth fynd yn hŷn mae dyn yn dueddol o fynd yn fwy pendant ei farn ac yn fwy sicr taw fe sy’n iawn bob amser. Rhaid oedd cael rhywun neu rywbeth i’m hysgwyd o’r sicrwydd saff a thwyllodrus hynny. Pa beth gwell na throi fy myd wyneb-i-waered.

Fel y dywedais ddoe wrth symud fe ddois i ar draws nifer o ffotograffau o’r 1990au. Fel y llun hwn o barti llefaru’r Cŵps yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1998.

Ymarfer

Rhagor o luniau o barti llefaru’r Cŵps yn Eisteddfod Genedlaethol 1998.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (4 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.75 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>