Blwyddyn newydd dda hwyr

Blwyddyn newydd dda hwyr iawn i ddarllenwyr Blog Dogfael. Am ryw reswm, wedi bron i dri mis o dawelwch fe gydiodd rhywbeth ynof fi heno wnaeth ddweud fod yn rhaid imi ysgrifennu pwt unwaith; rhyw reidrwydd i rannu fy meddyliau gyda’r byd i gyd yn grwn, neu o leiaf y rhai sy’n medru darllen Cymraeg, [...]