Diolch am y sylw, Emma. Roedd hi’n noson wych yn Aberteifi ac roeddwn i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i fynd. Roedd yr awyrgylch yn un braf ac roedd hi’n amlwg fod llawenydd enillydd y goron yn cael ei rannu gan y bobl oedd wedi dod ynghyd. Fe ganodd un o’r cyfarchwyr, Gwen, gân a oedd yn crynhoi’r peth i’r dim. Yr hyn a oedd yn ddiddorol hefyd oedd gweld pobl yn fodlon gwrando ar gerddi difrifol mewn awyrgylch hwyliog, ac yn derbyn nad oedd pob diddanwch yn golygu chwerthin. Roedd cerddi Emyr a DJP yn perthyn yn bendant i’r categori hwnnw. Roedd hefyd cerddi’r goron eu hunain yn cynnwys elfen o’r dwys iawn. Ac fe ddarllenodd Ceri Wyn y farwnad i Aled ap Gwynedd oedd yn rhan o’r casgliad buddugol.
Wrth i Ceri Wyn ddarllen y farwnad roedd dagrau yn fy llygaid i a hynny am lawer o resymau. Yn bennaf rhesymau personol. Roedd Aled ap Gwynedd yn weinidog gyda’r Annibynwyr yng nghapel Antioch, Crymych ymhlith llefydd eraill. Fel mae’n digwydd dyna gapel fy nhad (cyn iddo briodi fy mam) a’i dad yntau ac ym mynwent Antioch y mae fy nhad-cu a fy mam-gu ar ochr fy nhad wedi’u claddu. Pan bu farw fy mam fe gymerodd Aled ap Gwynedd ran flaenllaw yn yr angladd yng nghapel Bethel, Mynachlog-ddu. Roedd hynny yn 1986. Flynyddoedd yn ddiweddarach cefais i wahoddiad i draddodi darlith yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002. A’r bore hwnnw, gyda’r gwyntoedd yn chwythu, a’r glaw yn disgyn, fe ddaeth neges imi oddi wrth Aled ap Gwynedd yn ymddiheuro nad oedd yn medru dod i’r ddarlith ond gorfod mynd i’r ysbyty. A dyna’r adeg y dechreuodd y salwch difrifol a arweiniodd at ei farwolaeth.
Dim rhyfedd fod y dagrau wedi dechrau llifo ond ar ben hynny fe’m goddiweddwyd gan hiraeth am yr hyn yr oeddwn yn rhan ohono, er y gwyddwn ei fod yn mynd i ddiflannu. Noson berffaith, Emma, ond mae’n dod â dagrau o alar i’m llygaid wrth imi ysgrifennu hyn. Wrth eistedd mewn bwyty amser cinio heddiw yn Aberystwyth fe wnaeth cyfaill imi sylw pa mor brin oedd y bobl yno a fyddai wedi gwerthfawrogi’r hyn a ddigwyddodd yng nghlwb rygbi Aberystwyth ac fe arweiniodd hynny at fwy o ystyried a myfyrio ac o deimladau cymysg iawn. Dwi’n gobeithio na fydd neb yn fy nghyhuddo o sentimentalwch ond fe wnaeth hynny imi deimlo’n wan. Cymaint cyfoeth y noson ac wrth inni gerdded o’r clwb rygbi i’r car fe aethon ni heibio grŵp o bobl ifanc yn siarad Saesneg a chofio fod agos i hanner poblogaeth y sir bellach heb ddigon o Gymraeg i fod yn rhan o’r hyn yr oeddwn i wedi bod yn rhan ohono y noson honno. A bod rhai yn eu plith na fyddai wedi bod yn barod i gydnabod diwylliant y peth am taw Cymraeg oedd y cyfrwng.
Bydd yn well imi dewi rhag ofn dweud rhywbeth na ddylwn i ddim.




(4 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Ges i deimlad tebyg pa nosweth.
Ro’n i mewn cyfarfod lle’r oedd Arfon Gwilym yn sôn am ganeuon gwerin. Soniodd am y tebygrwydd rhwng rhai o’r tonau a thonau emynau a gofynnodd i’r gynulleidfa ganu’r Hen Ddarbi – Y gŵr a fu gynt o dan hoelion …
a dyna pawb yn neud, yn hollol naturiol. Am faint y pery peth felly?
A wedyn, dyna fe’n canu “Cofio”, Waldo, ar gerdd dant.
Dyna roi’r tun hat arni ‘te!