Wedi’r Ail Ryfel Byd collodd Holy Island ei hawl i’w galw ei hun yn ynys go iawn wedi codi sarn i’w huno gyda’r tir mawr. Ond dim ond yn rhannol y mae hynny’n digwydd gan fod y llanw yn codi i guddio’r sarn am oriau bob dydd. Wrth inni gyrraedd Holy Island am ryw hanner wedi hanner fe ddylai’r ffaith fod cannoedd o geir yn dod i’n cyfarfod fod wedi bod yn rhyw gliw am beth oedd yn digwydd. Wedi parcio’r car a dechrau cerdded tuag at y pentref ar yr ynys fe ddylen ni fod wedi sylwi fod pob cerddwr arall yn mynd i’r cyfeiriad arall.
Dim ond wedi inni ddarllen yr hysbyseb ar fwrdd tu fas i un o gaffis yr ynys y sylweddolon ni ein bod wedi cyrraedd ar yr ynys gyda rhyw hanner awr i fynd cyn fyddai’r llanw yn gorchuddio’r sarn ac yn ein cadw’n ‘gaeth’ ar Holy Island am ryw saith awr. Erbyn hynny roedd hi’n rhyw hwyr i droi am nôl; ond roedd hefyd yn gyfle i gael ysbaid a llonydd a gorffwys. Doedd dim byd y gallen ni ei wneud ond bod yn dawel a mwynhau tangnefedd y lle.
Prif atyniad Holy Island yw adfeilion yr hen briordy a godwyd ar safle y fynachlog gynnar a sefydlwyd gan Aidan ac a fu’n gartref am beth amser i Cuthbert. A dyna lle’r aethon ni gyntaf. Wrth i’r rhan fwyaf o’r ymwelwr eraill ddiflannu er mwyn peidio â chael eu gadael ar ôl gan y llanw fe drawsnewidiwyd yr ynys yn lle wedi troi ei gefn ar y byd mawr. Y gwynt yn chwythu oedd yr unig gyffro wrth i’r tri ohonom chwilio a chrwydro ar hyd a lled yr ynys.
Roedd y llyfrau tywys i gyd yn dweud fod ‘na awyrgylch arbennig i’r ynys nad oedd yn amlwg ar unwaith. Awgrymai rhai fod yn rhaid profi’r lle ganol gaeaf yn oer ac yn niwlog ac yn wlyb i ddeall y lle yn iawn. Ond roedd ‘na rywbeth arbennig am y lle. Taerai DML fod ‘na ryw swyn ar yr ynys oedd hyd yn oed yn gwneud i Diet Coke flasu’n fwy ffres na diod o’r fath ar y tir mawr. Efallai fod hynny’n mynd a phethau ychydig yn rhy bell, ond roedd y saith awr a dreuliwyd ar yr ynys yn gyfnod o adnewyddu ac o adennill nerth.







![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael