Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (11): 2009-08-20

S. MarcRoedd heddiw yn fwy o bererindod nag o wyliau wrth inni fynd i’r gogledd unwaith eto. Y tro hwn yr oeddem yn aros yn agos at y glannau gan ein bod yn teithio tuag at Holy Island, neu, Lindisfarne, oddi ar arfordir Northumberland. Mae’n anodd disgrifio pwysigrwydd y lle hwn yn iawn yn hanes gogledd-ddwyrain Lloegr: dyma grud diwylliannol a chrefyddol teyrnas Northumbria a sefydlwyd ar hen deyrnasoedd Brynaich a Deifr.

Pan ail gyflwynodd Oswallt y ffydd Gristnogol i deyrnas Northumbria fe sefydlodd fynachlog ar ynys Holy Island gyda’r Gwyddel Aidan a mynachod eraill o ynys Iona yn yr Alban yn ffurfio’r gymuned gyntaf. Yn ddiweddarach fe ddaeth Cuthbert yn abad, ac wedyn yn esgob. Daeth yntau yn enwog fel apostol y gogledd-ddwyrain ac un o seintiau pwysicaf Lloegr yn yr oesoedd canol. Gydag amser trosglwyddwyd ei gorff i gysegr yn eglwys gadeiriol Durham a daeth ei gwlt yn gyffredin.

Yn ogystal â chanolfan grefyddol fe ddaeth y fynachlog ar Holy Island yn ganolfan dysg. Yma y lluniwyd un o drysorau’r oesoedd cynnar ym Mhrydain, sef Llyfr Efengylau Lindisfarne. Credir taw gwaith mynach o’r enw Eadfrith yw’r efengylau ac fe luniwyd y llawysgrif tua 680-720 er anrhydedd i Cuthbert. Mae’n cynnwys copi Lladin o’r pedair efengyl (yn ogystal â chyfieithiad Hen Saesneg a ychwanegwyd yn ddiweddarach) wedi’i addurno’n goeth mewn arddull a oedd yn tynnu ar y traddodiad Celtaidd. Yn ôl y Llyfrgell Brydeinig (a chofied taw hwy sy’n berchen ar y llyfr bellach) mae’n un o lyfrau mawr y byd ac yn un o eiconau ffurfiannol yr ymwybyddiaeth o Seisnigrwydd.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>