STANHOPE A HEXHAM
Er inni ddechrau ein taith trwy ymweld ag Escomb ein gwaith mawr heddiw oedd anelu am y gogledd a Wal Hadrian. I wneud hynny roedd yn rhaid dringo dyffryn Afon Wear, Wearedale, ac yna dros y mynydd i mewn i ddyffryn Afon Allen, Allendale, ac i swydd Northumberland. Ein bwriad oedd mynd i weld olion caer Cilurnum (Chesters) a darnau o’r wal rhwng Chesters a Housteads.
Wrth fynd am Weardale dechreuodd fwrw glaw ond fel mae’n digwydd pan wnaethon ni aros yn Stanhope am baned roedd hi wedi peidio. Mae Stanhope yn dref cymharol fawr yng nghanol dyffryn Wear, ac mae’r awdurdodau yn gwneud eu gorau i’w datblygu’n ganolfan ar gyfer twristiaeth. Yno mae cartref y Durham Dales Centre lle ceir caffi bach (neu tea rooms yn ôl yr arwyddion), canolfan groeso, siopau crefftau a chanolfan gynadledda. Roedd staff y caffi yn groesawgar iawn gyda sconau caws ffres yn cael eu gwerthu.
Ond doedd dim llawer o amser i’w gael os oeddem am gyrraedd Wal Hadrian mewn amser. Felly i fyny dyffryn Wear yn bellach ac yn Cowshill troi oddi ar y ffordd fawr i groesi Burtree Fell ac i mewn i swydd Northumberland. Erbyn hyn roedd hi’n bwrw’n drwm ac roedd y syniad o dreulio prynhawn allan yn yr awyr agored ddim yn apelio cymaint â hynny. Ond wedi cinio mewn caffi yn Hexham fe beidio y glaw ac fe gawsom brynhawn hyfryd ar gyfer ein hymweliadau.





![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael