Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (13): 2009-08-21

Pan ddywedais i wrth fy nghyd-deithwyr fy mod am fynd i weld y MetroCentre yn Gateshead ni chefais lawer o groeso ac yn bendant doedd gen i neb oedd yn gwirfoddoli dod yn gwmni. Felly wrth i RO a DML aros yn Durham am y diwrnod dyma fi’n cychwyn ar ben fy hun i ymweld [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (12): 2009-08-20

Wedi’r Ail Ryfel Byd collodd Holy Island ei hawl i’w galw ei hun yn ynys go iawn wedi codi sarn i’w huno gyda’r tir mawr. Ond dim ond yn rhannol y mae hynny’n digwydd gan fod y llanw yn codi i guddio’r sarn am oriau bob dydd. Wrth inni gyrraedd Holy Island am ryw hanner [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (11): 2009-08-20

Roedd heddiw yn fwy o bererindod nag o wyliau wrth inni fynd i’r gogledd unwaith eto. Y tro hwn yr oeddem yn aros yn agos at y glannau gan ein bod yn teithio tuag at Holy Island, neu, Lindisfarne, oddi ar arfordir Northumberland. Mae’n anodd disgrifio pwysigrwydd y lle hwn yn iawn yn hanes gogledd-ddwyrain [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (10): 2009-08-19

Efallai taw’r noson honno yn Newcastle y cefais y pryd gorau yn ystod y gwyliau ym mwyty Sbaenaidd El Torero. Wedi diwrnod cyfan o gerdded a theithio ac ymweld fe wnes i fwynhau hamdden croesawgar y bwyty cymaint â’r bwyd ei hun.

Wrth gwrs doedd pawb ddim yn meddwl am fwyd trwy’r amser. Os oedd [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (9) : 2009-08-19

Dwi’n gwybod fy mod yn datgelu agwedd ar fy hunan y byddai’n well cadw’n gudd, ond mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod wrth fy modd gyda sustemau trafnidiaeth gyhoeddus integreiddiedig ac wedi bod â diddordeb yn y peth ers blynyddoedd. Roedd hi wedi bod yn ddymuniad gen i gael profiad o sustem Metro Tyne & [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (8): 2009-08-19

Trafnidiaeth gyhoeddus oedd y thema heddiw wrth inni deithio i Newcastle upon Tyne am y dydd. Mae’n hawdd iawn mynd ar y trên o Durham i Newcastle ac nid yw’n cymryd ond rhyw chwarter awr. Mae gorsaf Durham yn uchel i fyny ar ochr orllewinol i’r ddinas ac maen nhw’n dweud taw oddi yno y [...]

Doedd Glyn Dŵr ddim yn hiliol

Dyfyniad o stori yn yr Independent on Sunday fod y BNP yn gwerthu nwyddau gyda lluniau o William Wallace ac Owain Glyn Dŵr arnynt er mwyn hybu eu plaid.

Another statue of Glyndwr stands in the Princes’ Memorial Garden in St Peter ad Vincula Church in Pennal. Rev Geraint ap Iorwerth said Glyndwr would be “turning [...]

Priodas Arwel a Sharon

Fe fues i mewn parti nos neithiwr i ddathlu priodas Arwel a Sharon. Fe wnes i fwynhau’n arw ac mae hynny’n beth mawr i rywun sydd ddim yn anifail partïon i’w ddweud. Yr unig beth oedd fod y parti yn cael ei gynnal ym mwyty Consti ar dop Craig-glais a’r unig ffordd i gyrraedd y [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (7) : 2009-08-18

WAL HADRIAN A BROCOLITIA

Wedi bod yn Chesters dyma gymryd y ffordd i’r gorllewin oedd yn dilyn llwybr Wal Hadrian. Ar y cyfan does ‘na ddim olion rhyfeddol dim ond mae’r ffaith fod y wal ymestyn am dros 100 cilomedr ar draws gogledd Lloegr yn gwneud y peth yn rhyfeddod. Rhwng Chesters (Cilunrum) a Carrawburgh (Brocolitia) [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (6): 2009-08-18

Mae Cilurnum, neu Chesters, yn bell o Aberystwyth, heb sôn am Rufain. Ond yma yn yr ail ganrif y codwyd un o’r ceyrydd a oedd yn amddiffyn yr Ymerodraeth Rufeinig rhag mewnfudwyr economaidd a thwyllodrus. Roedd yn rhan o Amddiffynfa Wal Hadrian ac yn benodol yn gwarchod y bont oedd yn croesi Afon North Tyne. [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (5) : 2009-08-18

HEXHAM

Mae Hexham yn dref hyfryd ac wedi’i henwi fel un o’r lefydd gorau i fyw ynddynt yn Lloegr. Mae eglwys y plwyf, Hexham Abbey, o fainioli eglwys gadeiriol. Ond ein hunig brofiad ni o’r dref oedd fel lle i fwyta cinio ar y ffordd i Wal Hadrian. Dewison ni’r bwyty cyntaf inni ei weld wrth [...]

Gwyliau yng ngogledd ddwyrain Lloegr (4): 2009-08-18

STANHOPE A HEXHAM

Er inni ddechrau ein taith trwy ymweld ag Escomb ein gwaith mawr heddiw oedd anelu am y gogledd a Wal Hadrian. I wneud hynny roedd yn rhaid dringo dyffryn Afon Wear, Wearedale, ac yna dros y mynydd i mewn i ddyffryn Afon Allen, Allendale, ac i swydd Northumberland. Ein bwriad oedd mynd i [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (3) 2009-08-18

EGLWYS ESCOMB

Dim ond gwneud dau beth yr oeddwn i wedi gosod fel nod i fi fy hun yn ystod y gwyliau yn Durham ac roeddwn yn bwriadu cyflawni un ohonynt fore Llun cynta’r gwyliau. Doeddwn i ddim wedi gosod nod dim uwch na hynny oherwydd yr hyn yr oeddwn am ei wneud oedd gorffwys a [...]

Gwyliau yng ngogledd ddwyrain Lloegr (2) 2009-08-17

Wedi taith gymharol hir doedden ni ddim am fynd yn bell drannoeth. Penderfynodd y tri ohonom i aros yn Durham a chrwydro o gwmpas y ddinas. Ar gyfer bwyta ein brecwast yng ngholeg S. Hild a S. Beda roedd yn rhaid inni gerdded am ryw bum munud i adeilad arall. Enwyd yr adeilad hwnnw ar [...]

Gwyliau yng ngogledd-ddwyrain Lloegr 2009-08-16

Ar gyfer fy ngwyliau haf eleni fe wnes i droi fy ngolwg unwaith eto tuag at Loegr. Llynedd bues i yn Nwyrain Anglia ond y tro hwn roeddwn am droi tuag at y gogledd-ddwyrain. Wedi trin a thrafod am yn hir yn y diwedd penderfynwyd mynd i yn ardal Durham. Rhaid imi gyfaddef taw un [...]

Ail-agor Ystafell Ddarllen y Gogledd yn y Llyfrgell Genedlaethol

Ddydd Gwener diwethaf fe ail-agorwyd Ystafell Ddarllen y Gogledd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd yn ddigwyddiad gweddus gyda’r Llywydd, Dafydd Wigley, yn cyflwyno’r Llyfrgellydd, Gillian Clarke (Bardd Cenedlaethol Cymru), ac Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog Treftadaeth.

Roedd y Bardd Cenedlaethol wedi ysgrifennu cerdd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, ac mae’n arbennig o dda yn [...]

Dwi am goginio Kasha Varnishkes

Fe wnes i weld fideo hwn o Mark Bittman yn coginio Kasha Varnishkes ar wefan y New York Times rhyw bythefnos yn ôl a dwi wedi bod eisiau coginio’r pryd ers hynny. Yn anffodus dwi ddim wedi medru dod o hyd i kasha, neu buckwheat groats, ar werth yn Aberystwyth. Mae’n siŵr ei bod hi’n [...]

Codau post yn Iwerddon

Daeth y newyddion mawr heddiw fod Iwerddon yn mynd i fabwysiadu sustem o godau post. Yn ôl adroddiad yn yr Irish Times ar-lein Iwerddon yw’r unig wladwriaeth yn Ewrop heb sustem o’r fath. Yn ôl y stori honno bydd y codau post yn ymdebygu i rai’r Deyrnas Gyfunol.

The Department [hynny yw, The Department of Communications, [...]

Hanes fy eisteddfod i

Mae’r eisteddfod yn edrych fel oes yn ôl bellach ond mae’r atgofion yn rhai melys. Fe wnes i aros eleni mewn ‘bwthyn’ ar lan afon Lliw ger Llanuwchllyn. Fel cwmni cefais y cyfeillion arferol – DML, DJP ac RO. Roedd eleni ychydig yn fwy arbennig na’r arfer gan fod DJP yn un o feirniaid cystadleuaeth [...]

Siop Spar arall

Mae pawb yn dod adref o’u gwyliau ac yn dwyn anrhegion gyda nhw. Dyma’r ail siop Spar i fi ei derbyn yr wythnos hon. Diolch yn fawr, gyfaill!

Mae’r siop hon yn Salzburg yn Awstria. Mae’n bosib fod Mozart wedi taro mewn iddi rywbryd yn ystod ei yrfa i ffotogopïo o rhai o’i gyfansoddiadau. Neu efallai [...]