Gwibdaith i galon Ceredigion

Fe fues i ar wibdaith i ardal y Mynydd Bach ddydd Sadwrn. Wedi galw heibio i gofeb y beirdd ger Llyn Eiddwen bues i yn Llangeitho, Betws Leucu a heibio i Barc Rhydderch. Yna yn ôl i Aberystwyth trwy Dregaron a Phontrhydfendigaid. Roedd yn brynhawn hyfryd. Diolch i RO am ei gymwynas.

Rhagor o luniau o’r [...]

Ar y Prom yn Aberystwyth

Fe fues i’n hamddena ar y Prom yn Aberystwyth neithiwr ac fe dynnais i’r llun hwn o ffrindiau’n mwynhau’r haul ar ddiwedd dydd.

(2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5)

Siop Spar, Llanwrtyd

Diolch yn fawr i gyfaill am y rhodd o’r llun trawiadol hwn o Siop Spar ddwyieithog yn Llanwrtyd, Powys.

Yr wythnos diwethaf fe fues hi heibio i bencadlys Spar ym Mhont-y-clun, ond ni lwyddais i dynnu llun. Bydd yn rhaid imi fynd yn ôl yno er mwyn tynnu’r lluniau.

(8 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.13 allan [...]

Paratoi ar gyfer y Bala

Daeth yr amser unwaith eto i ddechrau meddwl am wythnos gyntaf mis Awst, wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Os byw ac iach bydd hon yn wythnos debyg iawn i’r deg sydd wedi mynd heibio, sef rhannu llety gyda chyfeillion a choginio.

Eleni rydyn ni’n aros mewn bwthyn (a oedd yn arfer bod yn lowty (beudy)) yn Llanuwchllyn. [...]