Dwi’n falch fy mod i’n dal yn ddigon diniwed i ryfeddu. Mae’n frwydr fawr yn erbyn sinigiaeth yr oes yn aml, ond dwi’n dal i lwyddo i ymgolli mewn dychymyg. Neithiwr fe fues yn y theatr am y tro cyntaf ers amser. Y rheswm dros fynd oedd i weld cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, sef Tŷ Bernarda Alba (La casa de Bernarda Alba) gan Federico García Lorca (1898-1936) mewn fersiwn newydd wedi’i gyfieithu gan y Dr Mererid Hopwood. Ac fe es i o’r theatr wedi’m hudo unwaith eto gan rym geiriau ac effaith perfformiad theatraidd.
Ysgrifennwyd y ddrama gan Lorca yng nghysgod Rhyfel Cartref Sbaen ac ychydig cyn ei ddienyddio gan rai yn cydymdeimlo â’r lluoedd ffasgaidd. Golygodd hyn na chafodd ei pherfformio nes bod deng mlynedd wedi mynd heibio a hynny yn bell o Sbaen yn Buenos Aires, Ariannin, yn 1945. Erbyn hynny roedd Sbaen yn dioddef o dan lywodraeth unbenaethol Franco, llywodraeth â meddylfryd ormesol y bwriadwyd y ddrama hon i’w herio.
Mae’r hanes yn digwydd mewn tŷ galar lle mae gweddw a’i merched, pump ohonynt i gyd, yn byw bywyd yn edrych i mewn ar ei gilydd ac eto’n dyheu am gael ymadael. Mae’r fam, Bernarda Alba, yn atal i’w merched wybod am beth yw cariad corfforol ac ysbrydol oherwydd y byddai’n dangos pa mor wag y bu ei bywyd hi. Ni all oddef i’w plant brofi’r hapusrwydd hynny nad yw hi ei hun wedi’i brofi. Mae Bernarda yn mynnu rheoli ei merched â llaw drom ofn er mwyn amddiffyn ei henw da ac enw da ei theulu. Does dim ots beth yw teimladau, rhaid ymddangos yn ‘barchus’. Mae’r ddrama yn ceisio dangos pa mor hawdd yr ildiwn ein rhyddid wrth ildio gobaith, dim ond pan eu bod yn dod yn agos i ailgydio mewn gobaith y mae’r merched yn dod yn agos i ddod yn rhydd.
Roedd perfformiad yr actorion yn rymus iawn gyda phob un yn rhannu yn llwyddiant y cynhyrchiad. Roedd gen i ddiddordeb arbennig ym mherfformiad dwy o’r actorion, Rhian Morgan a Betsan Llwyd; Rhian oedd yn chwarae rhan Bernarda, a Betsan y forwyn Ponica oedd yn fodlon dweud gwir weithiau, ond dim ond tu ôl i gefn Bernarda. Roedd y perfformiadau hyn yn arbennig o rymus. Ar ddiwedd y perfformiad cefais gyfle i siarad gyda Rhian a’i llongyfarch, ond hefyd i gyfaddef cymaint o bleser roeddwn wedi’i gael o’r ddrama.
Mae’n rhyfedd, a dyma fi’n rhyfeddu, sut y mae hi’n bosib i ddyn ysgrifennu geiriau ar bapur drigain mlynedd yn ôl a’i bod hi’n bosib i rywrai eu cymryd a’u gwneud yn rhywbeth byw. Mae’n rhaid fod rhyw rin yn y geiriau cyn eu bod yn medru cael eu trawsffurfio fel hyn, ond mae’n rhaid fod rhyw ysbryd yn yr actorion i fedru galluogi’r trawsffurfio hwnnw.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Diolch am y sylw Ceri. Dwi’n cytuno’n llwyr gyda ti. Byddai’n dda iawn cael gweld cyhoeddi’r cyfieithiad. Rhyw ychydig flynyddoedd yn ôl fe gyhoeddwyd fersiwn ddrama o Gysgod y Cryman i gyd-fynd gyda pherfformiad o ddrama. Dwi’n bendant fod Tŷ Bernarda Alba yn haeddu’r un driniaeth. Roedd y perfformiad yn wych a’r themâu yn berthnasol iawn o hyd, gwaetha’r modd.
Hei Dogfael. Ti ddim yn digwydd gwybod a fydd Mererid yn cyhoeddi ei chyfieithiad. Byddai hi’n ddifyr cael ei darllen hi rhwng cloriau.