Wedi aros ar fy nhraed yn hwyr heno i weld canlyniadau Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009. Doedd dim gwerth gwneud hynny mewn gwirionedd. Ond dyw dyn byth yn dysgu. Ni chlywais air o enau Graham Norton trwy’r nos, diolch byth. Y canlyniad swyddogol oedd hyn a dyma beth ddywedais i am y caneuon hynny ar twitter.
1. Norwy. Ychydig o addewid yn y dechrau, mwynhau’r ffidlo, ond y gân yn siomedig iawn. A’r dawnsio? Na, dim diolch!
2. Gwlad yr Iâ. Gyda chân fel hyn a honno yn Saesneg mae’r wladwriaeth hon yn haeddu mynd i Dre din! Ych a fi!
3. Azerbaijan. Does gen i ddim llawer i ddweud am hyn er gwaethaf y gwallt a’r ffrog wen. Trueni am y dawnswyr can-can!
Gyda llaw gorffennodd fy newisiadau i fel hyn: Moldofa yn safle 14, Portiwgal yn safle 15, a Bosnia yn safle 9.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Wel, mae pobl Norwy – ac yn arbennig felly pobl Nesodden (cartref Alexander) – wrth eu boddau!! Roedd hi’n syttende Mai (y diwrnod cenedlaethol) drannoeth y gystadleuaeth, a blas arbennig ar y dathlu. “Haia Norge, Haia Nesodden, Haia Alexander Rybak!”