Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 (8)

Wedi aros ar fy nhraed yn hwyr heno i weld canlyniadau Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009. Doedd dim gwerth gwneud hynny mewn gwirionedd. Ond dyw dyn byth yn dysgu. Ni chlywais air o enau Graham Norton trwy’r nos, diolch byth. Y canlyniad swyddogol oedd hyn a dyma beth ddywedais i am y caneuon hynny ar twitter. [...]

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 (7)

Wedi clywed y caneuon i gyd a dwi’n barod i ddweud beth fyddwn ni’n ei wneud. Dyma’r tair cân sydd uchaf yn fy siart bersonol i. Ond byddwn i ddim yn becso gweld yr un o’r tair can yn ennill.

1.Moldofa
2.Portiwgal
3.Bosnia

Tybed a fydd pobl Ewrop gyfan yn cytuno gyda fi? Dwi’n meddwl na fyddan nhw!

(2 [...]

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 (6)

Mae’n rhaid taw Albania sydd wedi ennill y gystadleuaeth am y gimic gwaethaf hyd yn hyn gyda’r dyn gwyrdd/emrallt. Yn ‘well’ hyd yn oed nag S&M yr Almaen. Cân uffernol o wael!

(Dim pleidlais eto)

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 (5)

Can wych o Moldofa. Dawnsio gwych a’r diwedd gyda’r fanllef! Y cyfan bron â bod mewn Moldofeg hefyd. Mae’n agos rhwng Moldofa a Phortiwgal yn fy meddwl i.

(Dim pleidlais eto)

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 (4)

Gwlad yr Ia yn ofnadwy. Dyw hyn ddim yn haeddu cymorth yr IMF i atal y wlad rhag mynd yn fethdalwr. Ofnadwy. Beth Björk druan!Gwlad yr Ia yn ofnadwy. Dyw hyn ddim yn haeddu cymorth yr IMF i atal y wlad rhag mynd yn fethdalwr. Ofnadwy. Beth Björk druan!

(Dim pleidlais eto)

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 (3)

Cân wych gan Portiwgal. Gwerin, ond gyda rhythm. Mae Portiwgaleg yn iaith wych. Hwrê!

(Dim pleidlais eto)

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 (2)

Sweden yw fy hoff gystadleuydd hyd yn hyn gyda’r nodau uchel a’r ffrog wen, ond dwi’n gobeithio fod pethau’n mynd i wella neu fe fydd hi’n noson ddiflas.

(Dim pleidlais eto)

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009

Mae Cystadleuaeth Cân Eurovision wedi dechrau. Er mwyn osgoi jingoistiaeth ofnadwy y BBC dwi’n mynd i wylio’r gystadleuaeth eleni eto trwy’r we. Efallai bod Terry Wogan wedi pwdu, ond mae ei olynydd, Graham Norton, yn llwyddo i’m cythruddo i hyd yn oed yn fwy. Mae’r sioe wedi dechrau ac mae’r Rwsiaid yn gwneud pethau rhyfedd [...]