Llongyfarchiadau i feirniaid cystadleuaeth Llyfr y flwyddyn 2009. Gyda’r rhestr hir newydd ei chyhoeddi mae’n amlwg fod cael dau gyn-athro’r Gymraeg sydd wedi ymddeol a menyw yn bell o oed yr addewid wedi dod â rhyw olwg newydd ar bethau. Fe alla i ddeall y nofelau (bron a bod) ond wrth edrych ar y ffeithlen dwi’n gegrwth. Yn y lle cyntaf dwi’n methu credu fy mod i wedi dewis cynifer o’r un llyfrau â’r beirniaid; yn ail dwi’n methu credu fod y beirniaid wedi dewis rhai o’r llyfrau hyn hefyd! Dwi’n mynd i adael pethau fan ‘na am y tro. Ond byddaf yn dychwelyd at y rhestr yn fuan i’w dadansoddi’n fanwl iawn, er mwyn ceisio deall beth yn y byd yr oedd y beirniaid yn ceisio’i gyflawni. Dyma’r rhestr ddadleuol yn llawn.
- Gwilym Prys Davies, Cynhaeaf hanner canrif (Gomer)
- Geraint V Jones, Teulu Lòrd Bach (Gomer)
- J Towyn Jones, Rhag ofn ysbrydion (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
- Mared Lewis, Y Maison du Soleil (Gwynedd)
- Robyn Léwis, Bwystfilod rheibus (Bwthyn)
- Myrddin ap Dafydd, Bore newydd (Carreg Gwalch)
- Harri Parri, Iaith y brain ac awen brudd (Bwthyn)
- Wiliam Owen Roberts, Petrograd (Barddas)
- Aled Jones Williams, Yn hon bu afon unwaith (Bwthyn)
- Hefin Wyn, Pentigily (Lolfa)


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael