Dwi’n dechrau ysgrifennu hyn yn Eglwys y Santes Fair wrth ddisgwyl i’r gynulleidfa gyrraedd ar gyfer gwasanaeth y Cymun Bendigaid am 8. Roedd y dref yn dawel iawn y bore ‘ma wrth gerdded i’r eglwys – dim ond yr adar a pheiriant glanhau y cyngor.
Mae’r eglwys wedi’i haddurno gyda blodau ac mae eu gwynt yn llenwi’r adeilad. Dyma’r blodau cyntaf yn yr eglwys ers dechrau tymor y Garawys yn nhywyllwch Chwefror.
Tyrfa fechan ydyn ni gyda’r haul yn disgleirio arnom trwy’r ffenest ddwyreiniol wrth inni ymgasglu yn y gangell. Yn y ffenest honno gwelwn hanes y Pasg, sef Mair gyda’i ffiol o ennaint yn ei llaw yn cyfarch yr Iesu atgyfodedig. Heddiw mae’r lliwiau’n llachar fel yr oedden nhw pan wnaed y gwydr dro 150 o flynyddoedd yn ôl.
Yn ei anerchiad fe wnaeth y rheithor sylwi fod atgyfodiad Crist yn gwasgar pob math o gysgodion – ofnau, anobaith, marwolaeth … a’r amhosib. Dyna’r rheswm dros obaith: nid oes dim nad oes posib newid yn bod bellach.
Wedyn gwasanaeth Cymun arall am 10 o’r gloch; i holl deulu’r eglwys y tro hwn. Daeth nifer dda ynghyd i ddathlu’r atgyfodiad. Y ficer oedd yn pregethu ac fe wnaeth rannu beth oedd ei hoff bryd o fwyd yng nghaffi Blue Creek, sef madarch a garlleg a bacwn. Wrth gwrs nid dyna oedd pwynt y bregeth! yn hytrach roedd am dynnu ein sylw at ‘brif gwrs’ bwydlen bywyd S. Paul, sef adnabod Iesu Grist a grym ei atgyfodiad (Philipiaid 3.10).
Wedi’r gwasanaeth rhannu wyau Pasg i’r ysgol Sul a chyfle i bawb gymdeithasu gyda’i gilydd tros baned a chacennau crispies siocled. Ai dyna’r ffordd iawn i ddathlu’r Pasg? Wn i ddim, ond dwi’n siŵr ei bod cystal ag eraill. Mae’n llygaid bellach yn edrych ymlaen tuag at Dydd Iau’r Dyrchafael a’r Pentecost. Dyw amser byth yn sefyll yn llonydd ddim hyd yn oed ar brif ŵyl Gristnogol y flwyddyn.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Mae’r llun yn arbennig o hardd Dogfael.’Tyrfa fechan’ oedd gennym ninnau hefyd yn ein cymun wyth bore ddoe….