Hwyl fawr Facebook!

Dwi wedi troi fy nghefn ar Facebook. Roedd yn benderfyniad anodd, ond fe ddaeth yn hawdd yn y diwedd. Mae llawer o bethau i’w dweud o blaid Facebook; efallai taw’r peth mwyaf oedd y cyfle i gysylltu gyda rhywrai yr oeddwn i am gysylltu gyda hwy ac heb wneud ers blynyddoedd lawer. Ar y llaw arall roeddwn yn cael llond bol o’r holl negeseuon di-werth am yr holl ddigwyddiadau a grwpiau y gallwn i ymuno â hwy taswn i’n dewis. Dwi’n gwybod y gallwn i ddiffodd y pethau hynny, ond doeddwn i ddim wedi trafferthu gwneud. Y copsi ar fy negyddiaeth oedd yr holl ddadlau ynglŷn â phwy oedd berchen y data ar Facebook, gan gynnwys fy ffotograffau a’r wybodaeth amdanaf fi fel fy nyddiad geni. Fuodd hi ddim yn ddadl hir, ond roedd hi’n danbaid a phwysig, ac yn y diwedd fe enillodd yr ochr iawn, sef yr unigolion a oedd yn defnyddio Facebook, er mae’r pwnc yn parhau i fod yn agored i drafodaeth. Fe’m cythruddwyd i’r fath raddau fel bod hynny wedi fy ngyrru i gau fy nghyfrif. Wel nid cau mewn gwirionedd, (gan nad yw hi’n bosib ichi gau eich cyfrif!) ond ei ‘wyfyn-belu’ hyd nes i ddyn newid ei feddwl. Dwi ddim yn bwriadu gwneud hynny ar hyn o bryd, ond does dim ffordd i ddweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Hwyl fawr Facebook!

  • Ymunais â Facebook yn ddiweddar, a dwi’n hoff o’r cyfle i gadw mewn cysyllt gyda ffrindiau a ffeindio rhai pobl dwi heb eu gweld ers blynyddoedd. Ond, dydw i ddim yn mwynhau sawl peth amdano, yn enwedig yr hysbysebion di-flas a’r gwahoddiadau i ymuno â grwpiau gwleidyddol a.y.y.b. Dydw i ddim am drafod pynciau gwleidyddol neu grefyddol ar Facebook i ddweud y gwir. Ac mae na lwyth o bethau twp fel anfon “anrhegion” a gemau sydd yn gwastraffu amser. Byddaf yn cadw y tudalen a’r ffrindiau, ond pythefnos i fi ymuno, dwi’n dechrau blino ar y peth.

  • Emma Reese

    Mi wnes i’r un peth misoedd yn ôl ac dw i heb golli dim byd.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>