Cynhadledd Academi 2009

Dwi’n gwybod fy mod i heb orffen adrodd hanes fy ngwyliau Nadolig eto. Ond mae cymaint wedi digwydd dros y mis diwethaf fel fy mod wedi fy llethu gan bethau i’w hadrodd. Rhaid imi ddweud am y penwythnos diwethaf i ddechrau. Bues i yn Sir Benfro ddydd Sadwrn a dydd Sul diwethaf ar gyfer cynhadledd a drefnwyd gan Academi, y corff sy’n hyrwyddo llenyddiaeth yng Nghymru. Pwnc y gynhadledd oedd y goruwchnaturiol a pha le gwell i gynnal cynhadledd o’r fath na Chwm Gwaun.

Y gynulleidfa yn y gynhadledd

Roedd rhyw 70 wedi dod ynghyd yng ngwesty Gellifawr ar gyfer y penwythnos – llawer ohonynt yn aros yn y gwesty ac eraill yn ymweld am y dydd. Roedd y rhaglen yn un ddiddorol ac yn llawn dysg a difyrrwch. Dyma restr o’r siaradwyr; Y Prifardd Myrddin ap Dafydd, Yr Athro Sioned Davies, y Dr Damian Walford Davies, Y Parchedig J Towyn Jones, Eurig Salisbury, a’r Athro Gwyn Thomas. Roedden nhw i gyd, yn eu ffordd eu hunain, yn ddifyr.

Damian Walford DaviesEfallai taw’r mwyaf difyr i mi oedd cyflwyniad y Dr Damian Walford Davies. Roedd yntau yn adrodd hanes Parc y Meirw, sef rhes o feini hir nid nepell o Llanychaer, ger Abergwaun. Mae’r meini bellach wedi’i cuddio gan y clawdd a dau ohonynt wedi’u troi yn byst iet. Yn raddol, ac yn ffeithiol, dyma adrodd hanes ei ymweliad â’r lle yng nghwmni ei frawd. Roedd ei wybodaeth am y lle yn rhyfeddol – y manylion am eglwys Llanllawer a’i ffynnon, enwau’r perci, hanes brwydr Mynydd Carn 1081. Wedi iddo osod y cyd-destun roedd wedi ein rhwydo ni i gyd yn ei stori i’r fath raddau pan wnaeth ddweud am yr ofn dychrynllyd y profodd yntau a’i frawd yno roedd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa yn rhannu’r ofn hwnnw. Rydw i wedi bod heibio feini hirion Parc y Meirw droeon heb brofi dim byd o’r fath, ond roedd ei stori mor fyw fel roedd ‘na ryw ansicrwydd yn fy meddwl am alw heibio i’r fangre wrth ddychwelyd i Aberystwyth drannoeth.

Parc y meirw yn y glaw

Ond roedd mwy i’w bapur na hynny. Yr oedd yn ein herio i feddwl yn fwy clir ynglŷn â’r goruwchnaturiol. Trwy’r penwythnos cysylltwyd y goruwchnaturiol yn gyson gydag ofn ac arswyd a sgeptigaeth gyffredinol moderniaid ynglŷn â’r peth. Ar ddiwedd y sgwrs fe atgoffodd y cynadleddwyr am brofiad goruwchnaturiol arall a ddigwyddodd mewn parc yn Sir Benfro, sef profiad y Waldo ifanc “mewn dau gae” yn Llandysilio! Profiad nad oes neb yn ei “amau” nac yn chwerthin ar ei ben yn ddilornus. Dwi wedi meddwl llawer dros hyn yn ystod yr wythnos a aeth heibio achos roeddwn i’n teimlo fod y gynhadledd wedi bod un-llygeidiog wrth ystyried y goruwchnaturiol o gofio ein bod yn cyfarfod yng nghysgod Carn Ingli lle’r oedd Brynach Sant yn cyfeillachu’n gyson gyda bodau angylaidd.

Cafwyd llawer i feddwl amdano yn y cyflwyniadau eraill hefyd, ond papur Damian wnaeth imi feddwl o ddifrif am bethau.

Rhagor o luniau o’r gynhadledd a’r daith i Sir Benfro.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>