Edrych yn ôl ar wyliau Awst 2008

Dwi wedi bod yn edrych yn ôl ar ffotograffau dwi wedi’u tynnu dros y blynyddoedd ond heb drafferthu rhoi labeli arnynt. Felly dros y penwythnos fe fues i’n ail-fyw gwyliau Awst 2006 pan fues i ar wyliau yn Lerpwl ac ardal Bangor. Roeddwn i hefyd heb eu dangos yn gyhoeddus. Nawr mae hynny wedi newid ac fe all darllenwyr Blog Dogfael weld y 1420 o luniau a dynnais dros 8 diwrnod y gwyliau!

Dogfael tu fas i Gapel Horeb, Brynsiencyn, Sir Fôn

Dyma lun ohonof fi tu fas i Gapel Horeb, Brynsiencyn. Roeddwn i yno i dalu teyrnged i Margaret Williams y gantores. Bu hi’n canu’r organ yma pan yn ifanc ac roedd ei thad yn flaenor yma hefyd.

Gweld rhagor o luniau o wyliau Dogfael yn Awst 2006.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>