2008-12-27
Nawr dwi’n siŵr fod llawer yn gweld mynd i archfarchnad a phrynu batris ar gyfer y camera fel rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud. Ond i mi mae gwneud rhywbeth o’r fath yn eisin ar gacen gwyliau. Cyfle arall i dwyllo fy hun ac eraill fy mod yn Fflandrysyn o’r iawn ryw. Ac mewn sefyllfaoedd fel hyn y mae’r ffaith nad ydw i yn dod i’r amlwg. Sut hynny, onid yw archfarchnadoedd yn yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio ac yn gwneud pethau yr un peth bobman. Ac mae hynny’n wir, heblaw am y pethau bach hynny lle mae pethau’n wahanol ac mae’n amhosib dyfalu beth sy’n digwydd.
Fe aethon ni i siop Colruyt ac fe wnaeth Liesbeth fy ngadael i chwilio am y batris yr oedd eu hangen arnaf tra’r oedd hi yn gwneud ei siopa ei hun. Roedden y batris i’w cael ger y tils. Des i o hyd i’r rhai yr oeddwn am eu prynu ac fe fues i’n gwylio’r tils am oesoedd i geisio deall yn iawn beth oedd yn digwydd. Roedd popeth yn debyg i’r arfer ar yr olwg gyntaf. Dod â’r nwyddau at y giât ac yna fe fyddai’r gweithiwr wrth y giât yn eu sganio. Ond wedyn roedd pethau’n wahanol. Doedd dim tils fel y cyfryw wrth y giât, roedden nhw y tu ôl iddi ac roedd yn rhaid mynd ymlaen i dalu. Wrth edrych yn ofalus fe welais i nad oedd neb yn talu gydag arian parod, ond yn hytrach yn defnyddio cerdyn o ryw fath. Ond nid cerdyn credyd arferol (fe ddysgais yn nes ymlaen fod Colruyt yn gweithredu sustem o fedru roi credyd ar eu cerdyn hwy eu hunain a bod hynny’n rhoi gostyngiad pellach i gwsmeriaid). Ychydig bach o banig, doedd gen i ddim cerdyn o’r fath. Ond yna fe welais i rywun yn tynnu arian allan o’i bwrs a’i ddefnyddio i dalu. O dyna ryddhad! Wedyn fe aeth popeth yn iawn ac fe wnes i brynu fy matris.
Cwmni o Fflandrys yw Colruyt ac mae’n llwyddiannus iawn yn cynnig nwyddau am brisiau cystadleuol iawn. Dywedodd fy ffrind eu bod hwy a Lidl yn dadlau’n gyson am bwy sy’n cynnig y fargen orau. Yn ddiddorol iawn roedd mwyafrif llethol y nwyddau ar silffoedd Colruyt yn nwyddau cynhyrchwyr eraill, yn hytrach na’u label hwy eu hunain, yn wahanol i Lidl.
Un o uchafbwyntiau’r gwyliau mae’n siŵr.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael