2008-12-27
Gyda’r nos roedd Liesbeth wedi trefnu fod ffrindiau iddi yn dod heibio i’w fflat i gael swper gyda mi. Ond cyn iddyn nhw ddod heibio a chyn dechrau paratoi swper cawsom gyfle i drafod fersiwn Gymraeg stori Hugan Goch Fach allan o Stori, stori, hen blant bach gan Helen Craig (addasiad Emily Huws) (Llandysul: Gomer, 2008). Mae Liesbeth yn dysgu Cymraeg ac mae’n cychwyn darllen trwy ddarllen straeon plant. Yn anffodus mae’r stori wreiddiol fel y’i cofnodwyd gan y Brodyr Grimm wedi’i newid yn fawr er mwyn ei gwneud yn dderbyniol i’n hoes ni, yn arbennig felly o ran materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch – lladd neiniau, eu bwyta, a thallu – a doedd hynny’n plesio’r un ohonom. Eto mae’n ffordd dda o ddysgu iaith darllen stori mae dyn yn ei gyfarwydd â hi yn barod gan bod hynny yn arbed llawer iawn o droi i’r geiriadur.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael