2008-12-27
Roedd siop Colruyt ychydig allan o ganol y ddinas ac yn weddol agos i’r hen farchnad bysgod, y Vismarket. Roeddwn i wedi bod yno o’r blaen oherwydd yno yr oedd olion (prin iawn) y coleg y cefnogodd Desiderius Erasmus (1466/69-1536) ei sefydlu yn Leuven ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Roedd Prifysgol Leuven ei hun wedi’i sefydlu yn 1425 ac roedd Erasmus, y diwygwyr crefyddol a llenyddol, yn darlithio yno. Dymuniad Jeroen van Busleyden (1470?-1517) oedd noddi sefydlu Coleg Tairieithog, Collegium Trilingue, gyda’r bwriad o hyrwyddo amcanion diwygiad yn yr eglwys trwy astudio Hebraeg, Groeg a Lladin. Yn anffodus daeth protest a galwad llawer mwy radical Martin Luther am ddiwygiad crefyddol, ynghyd â marwolaeth van Busleyden ei hun, i roi stop ar y cynllun. Fe wnes i astudio hyn ar gyfer lefel A mewn hanes flynyddoedd maith yn ôl ond dwi’n dal i gael gwefr wrth feddwl am y cynnwrf a ysgogwyd gan syniadau Erasmus ar draws Ewrop. Fel y dywedais ychydig iawn o olion sydd i’w gweld – ond mae ‘na blac ar y wal i nodi’r fynedfa. Mae cerdded yn yr un lle ag y cerddodd ef yn brofiad.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael