Un o’r pethau diddorol wnes i eu gweld o gerdded o gwmpas yr eglwys gadeiriol oedd capel wedi’i neilltuo i anrhydeddu Jan van Ruusbroec.
Ganwyd Jan ym mhentref Ruisbroek, sydd heddiw y tu fas i ffiniau Brwsel yn Sint-Pieters-Leeuw yn sir Vlaams-Brabant, tua 1293. Bu farw yn 1381. Yr oedd yn un o gyfrinwyr blaenaf Fflandrys yn y canol oesoedd. Yn un ar ddeg mlwydd oed fe adawodd ei fam a gosod ei hun o dan arweiniad a gofal un o ganoniaid Eglwys S Goedele, Brwsel, a oedd hefyd yn ewythr iddo. Yn y diwedd daeth ei fam i Frwsel hefyd ac fe wnaeth hi fynd i fyw yn y Begijnhof yno.
Wedi ei ordeinio’n bu’n byw yn syml iawn ym Mrwsel, ond yn y diwedd fe deimlodd yr alwad i fyw bywyd yr ermid ac fe neilltuodd i goedwig Zoniënwoud i’r de-ddwyrain o’r ddinas yn 1349. Byddai’n crwydro yn y goedwig yn cymuno gyda Duw ac ar symbyliad yr Ysbryd yn cofnodi ei feddyliau a’r brofiadau ysbrydol. Daeth ei ysgrifeniadau yn adnabyddus ac fe aeth ei enw ar led fel cynghorydd ysbrydol. Golygai hyn fod nifer yn dod i ymweld ag ef yno.
Wedi ei farw dechreuodd pobl dalu parch iddo, ond ni chafodd ei gydnabod yn swyddogol gan yr Eglwys Babyddol tan 1908 pan dynodwyd ef yn Wynfydedig gan y Pab S. Pius X.
Ceir mwy o wybodaeth am Jan van Ruussbroec ar wefan CCEL.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael