Dydd Nadolig 2008 ym Mrwsel (1)

Mae dydd Nadolig ym Mrwsel yn ddiwrnod tawel, ond nid yn annaturiol o dawel. Bydd pobol yn mynd o’r fan i’r fan, bydd siopau ar agor, yn arbennig felly pobyddion gan nad oes disgwyl i neb fwyta bara gafodd ei bobi’r diwrnod blaenorol. Felly wrth imi gerdded trwy’r strydoedd tawel o Ruppeplein hyd at Eglwys Gadeiriol Mihangel a Goedele roedd ‘na bobol yn brysio heibio yn cario torth o fara neu gacen o ryw fath.

Eglwys gadeiriol Brwsel

Rhaid imi gyfaddef imi godi’n rhy hwyr ar gyfer cyrraedd y gwasanaeth dwyieithog (Iseldireg/Ffrangeg) mewn amser ac roedd hi’n rhaid imi wneud y tro gyda gwasanaeth oedd yn bennaf mewn Ffrangeg. Er roedd ‘na rai elfennau mewn Iseldireg a Saesneg ynddo er mwyn ceisio gwneud i bawb deimlo’n gartrefol. Rhaid imi gyfaddef imi gael fy nghyfareddu gan y gerddoriaeth yn y gwasanaeth. Unwaith i ddyn ddygymod gyda’r syniad fod eraill yn canu mawl drosto, ac yn llawer gwell nag e, mae’n bosib wedyn dod yn rhan o’u mawl hwy a’i droi yn fawl personol. Roedd y gerddoriaeth ar gyfer yr offeren am 12.30 yn Sgandinafaidd a’r côr ar gyfer y darn agoriadol yn cerdded o gwmpas yr eglwys gadeiriol gan wneud i ryuwn deimlo ei fod yn nofio mewn môr o gân.

Y côr a oedd yn canu yn y gwasanaeth oedd Eja Studiosi o dan arweiniad Valéry Demaré. Fe wnaethon nhw berfformio gweithiau gan Niels Pedersen, Knut Nystedt, Grete Pedersen, Gunn Erikson ac Edvard Grieg. Fe wnaethon ni fel cynulleidfa ganu Adeste fideles mewn Ffrangeg, Iseldireg a Saesneg. Llywyddwyd yr offeren gan ddeon yr eglwys gadeiriol, Claude Castiau.

Pregethodd y deon ar y darlleniad o’r llythyr at yr Hebreaid. Yn Ffrangeg yn bennaf, ond gyda brawddeg fan hyn a fan ‘co mewn Iseldireg a Saesneg. Dyma’r testun.

Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy’r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab. Hwn yw’r un a benododd Duw yn etifedd pob peth, a’r un y gwnaeth y bydysawd drwyddo. Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae’n cynnal pob peth â’i air nerthol. Ar ôl iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw’r Mawrhydi yn yr uchelder, wedi dyfod gymaint yn uwch na’r angylion ag y mae’r enw a etifeddodd yn rhagorach na’r eiddynt hwy. Oherwydd wrth bwy o’r angylion y dywedodd Duw erioed: “Fy Mab wyt ti, myfi a’th genhedlodd di heddiw”? Ac eto: “Byddaf fi yn dad iddo ef, a bydd yntau yn fab i mi.” A thrachefn, pan yw’n dod â’i gyntafanedig i mewn i’r byd, y mae’n dweud: “A bydded i holl angylion Duw ei addoli.” (Hebreaid 1.1-6)

Yn ei bregeth pwysleisiodd le unigryw Crist yn nhrefn Duw ar gyfer achub y byd. Tynnodd sylw bawb hefyd at y ffaith fod 40,000 o Gristnogion ifanc ‘mudiad’ Taizé ar eu ffordd i Frwsel mewn llai na wythnos ac y dylai pawb gymryd mantais o’r cyfle i ddyfnhau ac adnewyddu eu ffydd.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>