Noswyl Nadolig 2008-12-24
Wedi cerdded ‘n ôl i’r gwesty doedd dim rhyw lawer i’w wneud felly fe wnes i fel y bwriedais, sef cael pryd cario allan a’i fwyta yn null Fflandrys ar Noswyl Nadolig.
Mae hi wastad yn sialens mynd i mewn i unrhyw siop mewn gwlad dramor a siarad yr ychydig o’r iaith sydd gennyt, er ei bod hi’n debygol fod y person tu ôl i’r cownter ond yn mynd i holi yr hyn y byddai dyn yn ei ddisgwyl – ‘Beth ych chi eisiau?’, ‘Rhywbeth arall’, ‘Ydy hyn yn iawn?’ – ond wastad mae ‘na frisson o gyffro y gallai pethau fynd o le. Gallai’r unigolyn tu ôl i’r cownter ofyn rhywbeth annisgwyl. Felly wrth baratoi i fynd i mewn i siop mae’n rhaid i ddyn baratoi ei hun yn feddyliol ar gyfer pob posibiliad ac ystyried beth fydd y bachau geiriol a fydd yn caniatáu iddo wneud synnwyr o unrhyw ateb.
Yr hyn oedd yn fy mhoeni i y tro hwn oedd nad oeddwn yn rhyw siŵr sut i ofyn am yr hyn yr oeddwn i am ei brynu. Roeddwn am brynu rhywbeth gwahanol. Roeddwn i wedi clywed canmol i fwyd Sultans of Kebap – cadwyn o fwytai Twrcaidd eu naws yn yr Almaen sydd â dwy neu dair o siopau ym Mrwsel, gan gynnwys Anspachlaan dafliad carreg o’r gwesty. Doedd dim angen imi fod wedi poeni am beth i’w ofyn na sut i’w ofyn oherwydd roedd hwn yn fwyty rhyngwladol, yn yr ystyr bod mwy o Saesneg i’w glywed yma na Ffrangeg neu Iseldireg. Cefais i blatiaid o salad a sglodio gyda falafel a sawl math o saws. Dyna oedd fy nghinio Nadolig a blasus iawn hefyd.
Tynnwyd y llun gan Mautalent / Photograph taken by Mautalent.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael