Noswyl Nadolig ym Mrwsel

Noswyl Nadolig 2008-12-24

Dwi’n ofni i ddweud nad oes dim byd cyffrous iawn i’w adrodd am fy noswyl Nadolig ym Mrwsel eleni. Fe wnes i ddilyn y torfeydd i ganolfan siopa City2 ac i siop Fnac. Ond wrth edrych ar y prisoedd fy mod wedi cael tamaid o ofn. Roedd pethau oedd yn edrych yn rhesymol eu pris rhyw flwyddyn yn ôl yn ymddangos fel nwyddau afradlon bellach o gofio gwerth y bunt yn erbyn yr ewro. Yna cerdded yn ôl i ganol y ddinas trwy Nieuwstraat, prif stryd siopa Brwsel. Ac yno, yn agos at eglwys Onze-Lieve-Vrouw van de Finistère. Ar ochr arall y stryd, gyferbyn â mynediad yr eglwys, roedd un o aelodau Leger des Heils neu Fyddin yr Iachawdwriaeth yn casglu ar gyfer gofalu am bobl dros y Nadolig.

Un o aelodau Leger des Heils, Brwsel

Wedi crwydro o gwmpas canol y ddinas am ychydig a stondinau ffair Nadolig y Winter Pret. Fe es i yn ôl i’r gwesty i baratoi ar gyfer yr ŵyl yfory. Fy mwriad yw mynd i’r gwasanaeth yn yr eglwys gadeiriol yn y bore. Ond yn wahanol i’r arfer dwi’n mynd i ddathlu’r Nadolig yn y dull Fflandrysaidd trwy gael pryd o fwyd heno. Dwi wedi prynu pwdin pwrpasol yn barod a dwi’n bwriadu cael pryd cario i ffwrdd oddi wrth un o’r siopau kebap lleol.

Pwdin Nadolig 2008-12-24

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>