Pan mae dyn yn cyrraedd y gwesty mae e wastad yn cael ei siomi gan rywbeth neu’i gilydd. Doeddwn i ddim yn disgwyl moethusrwydd afradlon am nad oeddwn i’n talu am foethusrwydd afradlon. Ac ar y cyfan mae popeth yn ymddangos yn iawn. Ystafell fechan yw hi i un, ond fe wnaiff y tro – mae’r lle’n lân ac mae’r gwely’n gyfforddus. Maen nhw’n gweini brecwast rhwng 07.00 a 10.00.
Nid yw’n ymddangos y bydda i’n treulio llawer o amser yn y gwesty ta beth gan fod fy ffrind o Fflandrys, Liesbeth, wedi trefnu rhaglen lawn o weithgareddau ar fy nghyfer. Bore fory dwi’n mynd i Gent i’w chyfarfod hi, a dau o’i chyfeillion tu fas i orsaf Sint Pieters am 10.00. Bydd hynny’n meddwl gadael gorsaf Brwsel Zuid am ryw 09.00. Felly gwely cynnar amdani i fi heno.
Pan fues i ym Mrwsel fis Mai diwethaf fe wnes i aros mewn gwesty dafliad carreg i ffwrdd ar Ruppeplein a’r pryd ‘ny aethon ni i gael swper mewn tŷ bwyta pizza a phasta yn cael ei redeg gan bobl oedd yn dod yn wreiddiol o ogledd Affrica, Morocco os dwi’n cofio’n iawn. Wel, dyna lle es i am swper a chael gwledd. Fe ges i’r “symphonie” sef cymysgedd bastâu gwahanol.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael