Dyma gyfarchion o fy ngwesty ym Mrwsel, Hotel Aristote. Fe wnes i gyrraedd Brwsel am ryw 19.54 rhyw 5 munud yn hwyr! Doedd hynny ddim yn rhywbeth dwi wedi’i brofi’n aml wrth deithio ar drên yr Eurostar. Fe wnes i gyrraedd mewn un darn a hynny ar ôl taith cymharol ddiddigwydd. Aeth popeth yn iawn bron â bod yr holl ffordd, ac nid sbin er mwyn Ieuan Wyn Jones AC a’r Gweinidog Trafnidiaeth yw hyn!
Gadewais i Aberystwyth am 09.30 ac roeddwn i gyrraedd Birmingham Rhyngwladol erbyn 12.50 neu rywbeth tebyg a dyna a ddigwyddodd. Roedd hi’n deimlad rhyfedd braidd aros ar y trên yn Birmingham Stryd Newydd, rhywbeth dwi heb ei wneud ers blynyddoedd lawer. Fe wnaethon ni aros ychydig yn hir cyn ailgychwyn am Rhyngwladol, ond yn y diwedd fe aeth popeth yn iawn. Mewn byd perffaith byddwn i ond yn gorfod croesi’r platfform i ddal y trên i Lundain, ond yn anffodus roedd yn rhaid gwneud mwy na hynny, ond roedd yn gymharol ddidrafferth. Roedd y daith i Lundain Euston yr un peth ac fe wnaethon ni gyrraedd ychydig yn gynnar.
Yn hytrach na cherdded fe wnes i ddefnyddio fy ngherdyn Oyster i neidio ar fws 247 a dau stop i St Pancras Rhyngwladol. Y gofid wastad wrth deithio o Aberystwyth yw fod rhywbeth yn mynd i fynd o’i le a bod dyn yn mynd i golli ei gysylltiad, ond roeddwn i wedi cyrraedd gyda digon o amser i’w sbario. Dwi’n gwybod am rai sy’n mynd y diwrnod cynt rhag ofn i rywbeth ddigwydd ar y daith i lawr.
Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi rhoi anrheg Nadolig gynnar i fi fy hun wrth archebu tocynnau i groesi i Frwsel. Roeddwn wedi’i gadael hi braidd yn hwyr cyn archebu ac roedd y tocynnau rhad wedi mynd i gyd ac felly dyma dalu am gael tocynnau dosbarth cyntaf, neu Lesiure Select fel maen nhw’n gael eu galw gan Eurostar. Lot mwy o arian nag arfer wrth deithio ar docynnau rhaid, ond dim cymaint yn fwy oherwydd eu bod nhw i gyd wedi mynd. Pryd bach ysgafn o gaws a salad i’w fwyta ar y daith a phapurau newyddion a chylchgronau i’w darllen.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael