Lansio cyfrol R Geraint Gruffydd

Yr Athro R Geraint GruffyddDdydd Sadwrn diwethaf cefais y fraint o fynd i gyfarfod i lansio cyfrol o waith yr Athro R Geraint Gruffydd, sef Y ffordd gadarn. Mae’r gyfrol yn gasgliad o’i ysgrifau poblogaidd yn bennaf ar grefydd a llenyddiaeth, ond ar rai pynciau cyffredinol eraill. Golygwyd y cyfrol gan y Dr E Wyn James ac chaiff ei chyhoeddi gan Wasg Bryntirion, sef adran gyhoeddiadau Mudiad Efengylaidd Cymru, ac fe ddaeth llawer o’r teulu efengylaidd at ei gilydd ar gyfer y lansiad. Roedd ‘na rai oedd rai oedd yn perthyn i’r teulu hwnnw o bell yno hefyd, ynghyd ag ambell ddafad ddu iawn.

Dr E Wyn JamesMae’n siŵr bod y rhan fwyaf ohonynt wedi dod oherwydd eu parch tuag at R Geraint Gruffydd fel unigolyn. Mae’n siŵr nad ydw’n sylweddoli cymaint o ran wnaeth e chwarae yn fy mywyd i. Ef oedd athro’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth pan gefais fy nerbyn i fynd yno i astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg yn 1978. Dwi erioed wedi difaru gwneud hynny. Mae’n ddrwg gen i fy mod heb wneud mwy o astudio a dysgu mwy pan roedd gen i’r cyfle – Almaeneg neu Sbaeneg, ac Athroniaeth efallai – ond fe gefais gyfle gwych i astudio’r Gymraeg a’i llenyddiaeth yn ogystal â Llydaweg a Gwyddeleg. Felly i dorri stori hir yn un cymharol fer, mae arnaf ddyled o fath i’r Athro Gruffydd.

Mae arnaf ddyled arall iddo hefyd, a hynny am ei dystiolaeth Gristnogol. Fel myfyriwr yr oedd yn un o’r pethau a wnaeth argraff arna i ac a wnaeth imi feddwl o ddifrif am grefydd. Roeddwn wedi fy magu yn yr ysgol Sul a’r capel, ond dim ond yn y coleg yr ystyriais beth oedd galwad i ddilyn Crist yn ei golygu go iawn. Yn ystod fy nghyfod yn y coleg yr ildiais fy ewyllys i Dduw gan wireddu’r rhan honno Weddi’r Arglwydd – “Gwneler dy ewyllys” – yr oeddwn wedi’i hadrodd ers yn blentyn, ond dim ond wedi dechrau deall ei hystyr pan yn ugain oed. Rwy’n dall i ddysgu beth yw’r ystyr ac yn aml iawn yn rhyfeddu at ba mor araf yr wyf yn gwneud hynny.

Mae’r gyfrol ei hun yn wych o ran cynnwys ac arddull. Dwi bron â bod wedi’i darllen o glawr i glawr heb fedru ei rhoi i lawr. Rhan o’i athrylith yw ei allu i gyfathrebu. Does yr un pwnc yn ddiflas yn nwylo Geraint Gruffydd a phan ei fod ef yn esbonio mae dyn yn teimlo ei fod yn medru deall y pwnc mwyaf astrus. Mae ‘na lawer iawn bethau diddorol yn y gyfrol, gan gynnwys gwybodaeth am Geraint ei hun. Nodaf un ffaith. Roedd yn gyfaill i Sheldon Vanauken. Cyfarfu ag ef pan yn astudio yn Rhydychen. Yn ddiddorol iawn mae’n bosib taw Vanauken a ddyfeisiodd y term “sexist”!

Yr Athro R Geraint Gruffydd

Rhagor o luniau o’r lansiad.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>