Gwasanaeth carolau 2008

Fel y dywedais yn gynt er taw’r Trydydd Sul yr Adfent oedd hi ddydd Sul roeddem ni yn Eglwys y Santes Fair yn cynnal ein gwasanaeth carolau blynyddol. Mae hyn yn digwydd cyn y Nadolig ers i mi gofio. Holodd ffrind pryd ddechreuwyd gwneud hyn, sef “dathlu” Nadolig cyn y Nadolig. Mae’n siŵr gen i ei fod wedi dechrau ers tipyn mewn tref prifysgol fel Aberystwyth, gan mae’n siŵr fod rhai myfyrwyr am ddathlu Nadolig gyda’i gilydd cyn mynd lawr am y gwyliau a’i bod wedi datblygu o hynny efallai. Dwi’n cofio gwasanaeth carolau yn digwydd yn Eglwys S. Mihangel pan roeddwn i’n fyfyriwr yma yn y 1970au diweddar.

Gwenda a Mair yn canu carol blygain

Roedd y gwasanaeth am 3.00pm ac erbyn yr amser roedd cynulleidfa go dda wedi dod ynghyd i ganu a dathlu. Agorwyd y gwasanaeth gan reithor y plwyf, y Parchg Ganon Stuart Bell a groesawodd y dyrfa ond y ficer, y Parchg Andy Herrick oedd yn arwain y gwasanaeth. Roedd y carolau yn gymysgedd o’r Cymreig traddodiadol, rhyngwladol traddodiadol a chyfoes. Roeddwn i’n falch iawn ein bod wedi canu geiriau’r Ficer Prichard, “Awn i Fethlem bawb dan ganu”. Fe wnaeth y grŵp cerdd, sy’n arwain yr addoliad yn ein gwasanaethau mwy cyfoes, ganu’r garol “Ganol gaeaf noethlwm”. Canodd Gwenda a Mair garol blygain draddodiadol yn hyfryd iawn. Ac fe wnaeth aelodau’r Ysgol Sul gyflwyno drama geni amgen. Andy oedd yn annerch ac fe nododd pa mor fawr yw’r bydysawd ond bod y Duw a’i creodd yn fwy byth, a bod y Duw hwnnw wedi dod i mewn i’w fyd i’n hachub. Wedi’r gwasanaeth fe wnaeth pobol aros i sgwrsio dros baned o de neu goffi.

Rhagor o luniau o’r gwasnaeth carolau.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>