Digwyddodd rhywbeth ‘ofnadwy’ yn y gwasanaeth carolau brynhawn Sul. Bu farw fy nghamera. Roedd wedi bod yn rhoi rhyw awgrymiadau trwy’r wythnos flaenorol fod pethau ddim yn iawn. Wrth dynnu lluniau o addurno’r goeden Nadolig roedd pethau’n edrych yn ddu.
Fe aeth pethau’n waeth ddydd Sul. Er imi fedru tynnu rhai lluniau roedd yn rhaid imi ystumio a chwarae gyda’r camera (a chyfieithu ar yr un pryd!) er mwyn cael y peth i weithio. Doedd y ffwythiant tynnu llun ddim yn gweithio o gwbl, oni bai fy mod yn troi yn gyntaf at y ffwythiant fideo. Doedd dim byd yn ymddangos ar y sgrin o gwbl wrth geisio tynnu llun cyffredin. O diar! Roeddwn i’n teimlo’n sâl. Prynais i’r camera. Canon PowerShot A400, fis Ionawr 2005 ac ers hynny bum yn tynnu ffotograffau’n gyson, bron i 25,000 ohonynt i gyd – a’r cyfan bron i’w gweld ar fy nghyfrif flickr. Mae hynny’n golygu fy mod wedi tynnu rhyw 15 ffotograff y dydd ar gyfartaledd.
Roeddwn i’n gwybod yn iawn na allwn i fyw bellach heb gamera, ac felly nos Lun (ar ôl bod yn edrych ar y we nos Sul) fe es i siop Jessops yn Aberystwyth i chwilio am gamera. Roedd rhai pethau’n bwysig i mi:
- y gallu i ddefnyddio batris cyffredin (yn hytrach na rhai arbennig),
- camera yn gweithio’n weddol awtomatig ond yn caniatáu i rywun osod y peth a llaw hefyd,
- gallu defnyddio cardiau cof SD, a
- bod yn gweithio’n weddol debyg i fy nghamera oedd newydd farw.
Yr ateb wrth gwrs oedd cael camera arall gan Canon ac felly fe brynais i’r Canon PowerShot SX110 IS. Mae ganddo lawer o ychwanegolion nad ydynt ar yr hen gamera ac mae’n debyg y bydd hi’n cymryd tipyn o amser i ddod yn gyfarwydd ag ef, ond roedd e’n ddigon tebyg i’r hen gamera i mi ddechrau tynnu lluniau bron yn syth.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








O diar , dwi’n gwybod y teimlad yn iawn ! Mae nghamera i wedi bod yn camfyhafio dros yr wythnosau diwethaf hefyd…rhewi o bryd i’w gilydd, ond yn dal i dynu lluniau reit dda hefyd.
Pob hwyl i ti efo’r camera newydd , a Nadolig Llawen i ti !