Paratoi i ddathlu’r Nadolig

Yn swyddogol nid yw’r eglwys yn dathlu’r Nadolig tan 25 Rhagfyr, ond mae’n gwneud hynny gyda steil gyda chyfnod estynedig o wyliau yn gorffen gyda Gŵyl yr Ystwyll ar 6 Ionawr. Cyn hynny mae’r eglwys yn cadw Tymor yr Adfent sydd yn draddodiadol yn gyfnod tebyg i’r Garawys lle mae edifeirwch a hunan ymholi yn elfennau pwysig. Y rheswm dros hynny yw er mwyn bod yn barod ar gyfer dyfodiad Crist, ond mae’n llygaid yn edrych y tu hwnt i’r Nadolig at ddiwedd amser a thragwyddoldeb.

Wrth i ni Gristnogion geisio gwneud hyn mae gweddill y byd yn chwilio am y fargen orau yn Woolworths ac yn paratoi ar gyfer y Nadolig secwlar sydd wedi goddiweddyd popeth arall. Rydyn ni Gristnogion yn rhan o hynny hefyd, ac fel arfer mae’r eglwys yn cyfaddawdu. Felly yr ydym ni, fel miloedd o Gristnogion litwrgaidd eraill, yn mynd ati i ‘ddathlu’ Nadolig cyn Nadolig! Gwneir hyn er mwyn ceisio adennill ychydig o’r Nadolig yn ôl i Grist fel petai. Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn dal i deimlo nad yw gwneud hyn yn gwbl ‘daclus’.

Cyn cynnal y gwasanaeth carolau mae’n rhaid addurno’r eglwys ac felly daeth nifer ynghyd fore Sadwrn yn Eglwys y Santes Fair i wneud y gwaith hwnnw. Y prif sumbol o’n dathliad yw codi’r goeden a’i haddurno. Rhaid ei chael yn ei lle gogyfer y gwasanaeth.

BD ac RD yn addurno'r goeden

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>