Mae gwyliau’r Nadolig yn dod yn nes ac mae hynny’n golygu bod dau beth arwyddocaol ar y ffordd – parti Nadolig y gwaith a gwasanaeth carolau. Eleni y parti Nadolig ddaeth gyntaf. Nos Wener diwethaf, 12 Rhagfyr (dyddiad a drefnwyd flwyddyn yn ôl), aeth criw ohonom ni i gael swper gyda’n gilydd ym mwyty Shilam, bwyty Indiaid, wrth yr orsaf reilffordd yn Aberystwyth.
Roedd mynd i fwyty Indiaid yn benderfyniad poblogaidd gan nifer – yn wahanol i’r cinio Nadolig traddodiadol ac yn adlewyrch sut mae cynifer yn mwynhau seigiau sydd wedi’u hysbrydoli gan y dwyrain. Y drefn oedd fod pawb yn cael dewis o’r un seigiau, ond bod rhai wedi’u gosod o’r neilltu yn benodol i lysieuwyr, a bod y rhai oedd yn well ganddynt fwyd o’r traddodiad gorllewinol hefyd yn cael darpariaeth. Roedd y rhelyw yn bwyta o’r un fwydlen.
Yn gyntaf oll cafodd pawb bapadoms a siytni. Wedi detholiad o bethau i ddechrau: bhajee winwns, samosa llysiau, samosa cig, tikka cyw iâr, tikka cig oen, sheek kebab a pakora llysiau. Fel prif gwrs roedd dewis o seigiau cig iâr, cig oen, llysieuol, llysiau a reis arbennig gyda bara naan. Roedd addewid gyda’r prif gwrs y buasai’r platiau yn cael eu llenwi hyd nes bob pawb wedi cael eu digoni!
Yn dilyn y pryd fe gafwyd ymweliad gan Siôn Corn. Siôn Corn o’n gwneuthuriad ni ein hunain oedd hwn, sef pawb yn prynu anrheg fechan ac yn ei lapio ymlaen llaw ac yna eu dosbarthu ar hap ar y noson. Cefais i’r addurn pen deniadol hwn.
Wedi swper fe aethon ni i’r bar y drws nesaf i fwyty Shilam, sef tafarn Yr Hen Orsaf. Ac oddi yno yr es i am adref tua 11.20pm. Dwi’n gwybod i eraill fynd ymlaen i lefydd eraill cyn mynd tua thref. Roedd hi’n noson dda.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael