Y bunt vs. yr ewro

Dwi’n bwriadu mynd am wythnos o wyliau i Frwsel dros y Nadolig. Bydda i’n gadael Aberystwyth ddydd Llun 22 Rhagfyr ac yn teithio i Lundain ar y trên ac o fan ‘ny i Fwrsel ar yr Eurostar. Ond mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod yn cadw fy llygaid ar y tudalennau busnes ar y we yn gyson i weld beth yw gwerth y bunt yn erbyn yr ewro.

Heddiw roedd pethau’n edrych yn ddu iawn: €1.1391 i’r bunt! Mae rhai yn proffwydo y bydd hi’n €1 = £1 erbyn i mi fynd ar fy nhaith. Lot o grwydro strydoedd yn amsugno’r awyrgylch amdani, a llai o hongian mas mewn caffis yn yfed coffi a siocled poeth. Diolch byth fod teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn rhad hyd yn oed pan fo £1 ond yn werth €1 – dim ond €4.50 am ddiwrnod cyfan o deithio ar bysus (gan gynnwys bysus De Lijn), tramiau a’r trenau yn y brif ddinas.

Does dim ots beth yw gwerth y bunt mewn gwirionedd dwi’n mynd i fwynhau ym Mrwsel. Anodd iawn peidio â gwneud. Mae gen i un nod penodol y tro hwn, sef dod o hyd i fan geni Audrey Hepburn, sef 48 Keienveldstraat. Mae gen i bethau eraill i’w gwneud ond bydda i’n hapus ond cael sefyll tu fas i’r fan hynny.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>