Parti Nadolig CSCA 2008
Wedi’r cyfarfod o’r Cyngor Tref fe es i Ganolfan Morlan ar gyfer parti Nadolig Cymdeithas Staff Cristnogol Aberystwyth (CSCA). Dwi ddim wedi bod yn un o weithgareddau’r Gymdeithas o’r blaen ond gan fy mod i wedi rhoi sgwrs i’w haelodau ryw wythnos neu ddwy yn ôl ar drysorau Cristnogol y Llyfrgell Genedlaethol roeddwn i wedi cael gwahoddiad.
Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl yn iawn, ond roedd hi’n noson ardderchog gyda gallu rhyfeddol Iesu Grist i ddwyn pobl mor wahanol at ei gilydd yn amlwg iawn. Mae’n rhaid imi gyfaddef imi anelu am y ford lle’r oedd y siaradwyr Cymraeg wedi crynhoi a chael cwmni da trwy’r nos. Yn ddiddorol iawn roeddwn i wedi cwrdd ag un o’r bobol ar y ford gyda fi o’r blaen rhyw 25 mlynedd yn ôl!
Cawsom bryd blasus o fwyd ac yn dilyn y cinio fe wnaeth Siôn Meredith siarad am bedwar o bobl oedd wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo. Roedden nhw’n dod o Rwanda ac Uganda ac roedd e wedi’u cyfarfod yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Tearfund yng Nghymru. Roedd e’n siarad am fod elw y noson yn mynd i waith Tearfund.
Wedi ein siaradwr cafwyd cyfnod o ganu carolau. Roedd rhywun wedi penderfynu taw carolau tan gannwyll oedd hi i fod, ond doedd y canhwyllau ddim yn ddigonol ac yn y pendraw roedd hi’n fwy tebyg i garolau tan dywyllwch! Dyma fideo ohonom yn canu’r garol Hark the herald angel sings yn y tywyllwch. Fe wnaeth pob un fwynhau dwi’n credu.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

O wel, roedd o’n ganu da iawn o feddwl nad oeddem yn gweld dim!