Goleuadau Nadolig Aberystwyth 2005 2008
Nos Lun fe fues i mewn cyfarfod o bwyllgor Pwrpasau Cyffredinol y Cyngor Tref. Doedd e ddim yn gyfarfod hir iawn, llai na 15 munud. Doedd dim i’w drafod mewn gwirionedd. Roedd ein gwaith am y flwyddyn wedi’i gwblhau wrth drefnu cinio Nadolig yr henoed a gosod y goleuadau Nadolig o gwmpas y dref. Nid oeddwn i’n medru mynd i’r cinio Nadolig, felly roedd yn rhaid dibynnu ar adroddiadau pobl eraill, ond roedd pethau’n wahanol am y goleuadau. Bu’r trafodaethau am y goleuadau cyn eu gosod i fyny yn hir ond nawr dwi’n credu eu bod nhw’n edrych yn dda iawn. Mae’r goeden yn arbennig o llwyddiannus. Ond roedd ‘na leisiau negyddol yn y cyngor, ac roeddwn i’n synnu at hynny. Dwi weithiau yn meddwl fod rhai yn mynd allan o’u ffordd i chwilio am bethau i gwyno amdanynt. Dywedodd un cynghorydd ei fod wedi bod yn gyrru o gwmpas y dref yn chwilio am fylbs oedd ddim yn gweithio! Onid yw bywyd yn rhy fyr i wneud pethau fel ‘na?



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Ydi hyn yn brawf fod Cyngor Tref Aberystwyth wir yn byw yn y gorffennol?!
Dafydd Prithard, Diolch am sylwi ar y camgymeriad.
Croetho!